Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith
Cyngor a chymorth gyda recriwtio
Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr i gael cyngor am recriwtio ar gyfer eich busnes.
Bydd yn eich cysylltu ag Ymgynghorydd Cyflogwyr lleol a fydd yn gweithio gyda chi i lenwi swyddi gwag. Gall Ymgynghorwyr Cyflogwyr:
- roi cyngor i’ch helpu i ysgrifennu disgrifiadau swydd
- eich helpu i gyflymu eich proses recriwtio
- hyrwyddo’ch swyddi gwag mewn canolfannau gwaith lleol
- caniatáu i chi ddefnyddio swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith i gynnal cyfweliadau, lle mae swyddfa ar gael
- eich gwahodd i ddigwyddiadau recriwtio lleol i hyrwyddo eich swyddi gwag
- eich helpu i gysylltu â busnesau eraill yn eich ardal
- gweithio gyda chi i gynllunio eich ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol
- help i baru’r ymgeisydd cywir â’ch swyddi gwag, gan gynnwys sifftio ceisiadau a chyfweld ymgeiswyr ar eich rhan
Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr
Gallwch gysylltu â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr gan ddefnyddio’r ffurflen ymholiad ar-lein neu dros y ffôn.
Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr
Ffôn: 0800 169 0178
Ffôn testun: 0800 169 0172
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os byddwch yn e-bostio Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr, dylech gynnwys:
- eich manylion cyswllt
- enw eich busnes
- y dref a’r cod post y mae eich busnes wedi’i leoli ynddi
- y dref a’r cod post lle rydych yn recriwtio (os yw’n wahanol i leoliad eich busnes)
- disgrifiad byr o’r cyngor recriwtio sydd ei angen arnoch