Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith
Treialon gwaith
Mae treial gwaith yn gyfnod byr mewn gwaith y gallwch ei gynnig i geisiwr gwaith ar fudd-daliadau. Mae’n ffordd i’r ddau ohonoch weld a yw’r swydd yn ffit dda.
Mae’n digwydd ar ôl i chi eu cyfweld am rôl benodol. Os nad ydynt yn addas ar ei gyfer, nid oes angen i chi ei gynnig iddynt.
Mae ceiswyr gwaith yn gwirfoddoli ar gyfer treial gwaith. Mae nhw’n dal i gael eu budd-daliadau tra mae nhw arno ac nid ydynt yn cael cyflog.
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i’r treial gwaith:
- dim ond cael ei ddefnyddio fel ffordd i chi a’r darpar weithiwr benderfynu a ydyn nhw’n iawn ar gyfer y rôl
- bod am swydd lle mai’r ceisiwr gwaith yw’r unig berson rydych yn ystyried ei gyflogi
- bod am swydd sydd o leiaf 16 awr yr wythnos am o leiaf 13 wythnos
Mae angen i chi gytuno ar hyd y treial gwaith gyda’r ceisiwr gwaith cyn iddo ddechrau. Mae’n rhaid iddo:
- gorffen pan fyddwch yn siŵr a yw’r ceisiwr gwaith yn addas ar gyfer y rôl
- yn para dim mwy na 5 diwrnod os yw’r swydd am lai na 6 mis
- yn para dim mwy na 30 diwrnod (ac oddeutu 5 diwrnod fel arfer) ar gyfer swyddi sy’n para 6 mis neu fwy
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gwirio bod y gweithiwr wedi gwirfoddoli ar gyfer y treial a’i fod yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd.
Sut i gynnal treial gwaith
Mae angen i chi gytuno ar dreial gwaith gyda’r Ganolfan Byd Gwaith cyn i chi ei gynnig i geisiwr gwaith.
Cysylltwch â’r Llinell Gwasanaethau Cyflogwyr am fwy o wybodaeth.