Dod o hyd i’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)

Cewch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) pan fyddwch yn:

  • cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • sefydlu cwmni cyfyngedig

Mae ar ffurf rhif 10 digid. Efallai y cyfeirir ato fel ‘cyfeirnod treth’ yn unig.

Byddwch yn cael eich UTR drwy’r post 15 diwrnod ar ôl i chi gofrestru. Gall hyn gymryd yn hirach os ydych yn byw dramor.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Ble i ddod o hyd i’ch UTR

Mae’r ffordd yr ydych yn dod o hyd i’ch UTR yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn unigolyn neu’n unig fasnachwr.

Gallwch ddod o hyd i’ch UTR:

  • yn eich Cyfrif Treth Personol
  • yn ap CThEF
  • mewn Ffurflenni Treth blaenorol a dogfennau eraill gan CThEF (er enghraifft, hysbysiadau i gyflwyno Ffurflen Dreth neu nodynnau i’ch atgoffa i dalu)

Os na allwch ddod o hyd i’ch UTR mewn unrhyw ddogfennau nac ar-lein, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os ydych yn gweithredu ar ran sefydliad (er enghraifft, cwmni, partneriaeth neu ymddiriedolaeth)

Gallwch ddod o hyd i UTR y sefydliad ar Ffurflenni Treth blaenorol ac ar ddogfennau eraill gan CThEF (er enghraifft, hysbysiadau i gyflwyno Ffurflen Dreth neu nodynnau atgoffa i dalu).

Os na allwch ddod o hyd UTR y sefydliad mewn unrhyw ddogfennau nac ar-lein, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os oes gennych gwmni cyfyngedig

Gallwch ofyn am eich UTR ar gyfer Treth Gorfforaeth ar-lein. Bydd CThEF yn ei anfon i’r cyfeiriad busnes sydd wedi’i gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau.