Gordaliadau a thandaliadau treth
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth
Fel rheol bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn casglu’r dreth sydd arnoch dros y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig os:
-
ydych yn talu Treth Incwm drwy gyflogwr neu ddarparwr pensiwn
-
ydych yn ennill digon o incwm dros eich Lwfans Personol i dalu am y tandaliad
-
mae arnoch lai na £3,000
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch ynghylch sut y gallwch dalu os na all gasglu’r arian fel hyn.
Os ydych o’r farn bod eich cyfrifiad treth yn anghywir
Os ydych o’r farn bod y symiau a ddefnyddiwyd yn eich cyfrifiad yn anghywir, cysylltwch â CThEF.
Bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am y symiau sy’n anghywir yn eich barn chi, a beth ddylai’r rhain fod.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Os bydd CThEF yn cytuno bod eich cyfrifiad treth yn anghywir, anfonir cyfrifiad newydd atoch.
Os ydynt yn anghytuno, bydd CThEF yn cysylltu â chi i esbonio pam.