Gordaliadau a thandaliadau treth
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod ad-daliad yn ddyledus i chi
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800) yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch gael eich ad-daliad.
Os yw’ch llythyr cyfrifiad treth yn dweud eich bod yn gallu hawlio ar-lein
Gallwch hawlio gan ddefnyddio’r gwasanaeth trosglwyddiad banc ar-lein neu wneud cais am siec ar-lein. Bydd angen y canlynol arnoch:
- y cyfeirnod o’ch llythyr P800
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Os ydych am gael eich ad-daliad drwy drosglwyddiad banc, bydd angen cyfrif banc yn y DU arnoch.
Ffyrdd eraill o hawlio
Gallwch hefyd hawlio ad-daliad:
- drwy eich cyfrif Treth Personol
- drwy ddefnyddio ap CThEF
- drwy gysylltu â CThEF a gofyn iddynt anfon siec atoch
Pryd y cewch eich ad-daliad
Anfonir yr arian atoch cyn pen:
- 5 diwrnod gwaith os ydych wedi hawlio ar-lein
- 6 wythnos os ydych wedi gofyn i CThEF anfon siec atoch
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud y cewch siec
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud wrthych os bydd CThEF yn anfon siec atoch.
Does dim angen i chi gysylltu â CThEF i wneud hawliad – byddwch yn cael siec drwy’r post yn awtomatig.
Pryd y cewch eich ad-daliad
Byddwch yn cael eich siec cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad sydd ar eich llythyr.
Os oes treth yn ddyledus i chi am fwy nag un flwyddyn, cewch un siec am y cyfanswm.