Gordaliadau budd-dal
Sut i wneud ad-daliad
Mae sut rydych yn talu’r gordaliad yn ôl yn dibynnu ar:
- p’un ai ydych yn gwneud ad-daliadau am y tro cyntaf neu’n eu hail-ddechrau
- p’un ai ydych yn dal i gael budd-daliadau
Mae yna broses gwahanol am ordaliad credydau treth a gordaliad Budd-dal Plant, neu os ydych wedi cael eich gordalu gan Social Security Scotland neu’r Department for Communities (DFC).
Dechrau gwneud ad-daliadau os ydych yn parhau i gael budd-daliadau
Os ydych yn parhau i gael budd-daliadau, bydd y swm rheolaidd rydych yn ei gael yn cael ei leihau hyd nes i chi dalu’r arian yn ôl.
Cysylltwch â chanolfan gyswllt Rheoli Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os credwch fod gormod wedi cael ei gymryd am ad-daliad.
Dechrau gwneud ad-daliadau os nad ydych bellach yn cael budd-daliadau
Cewch lythyr gan Reoli Dyled DWP yn egluro sut i ad-dalu a rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus. Gallwch ad-dalu’r gordaliad yn llawn neu sefydlu taliadau misol rheolaidd.
Cael help gyda’ch ad-daliadau
Cysylltwch â Rheoli Dyled DWP os oes angen help arnoch i reoli eich ad-daliadau. Gallant drafod eich opsiynau, gan gynnwys yr hyn y gallwch fforddio ei dalu.
Canolfan gyswllr Rheoli Dyled DWP
Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
NGT text relay (os na allwch siarad neu glywed dros y ffôn): 18001 yna 0800 916 0647
Gwasanaeth video relay ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - gwiriwch a allwch ddefnyddio’r gwasanaeth
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os nad ydych yn talu’r arian yn ôl
Os nad ydych yn talu’r arian yn ôl nac yn cysylltu â chanolfan cyswllt Rheoli Dyled DWP, efallai y byddant yn:
- gofyn i’ch cyflogwr wneud didyniadau o’ch cyflog
- trosglwyddo’ch cais i gasglwr dyledion annibynnol
- trosglwyddo’ch cais i Dîm Gorfodi Dyled y DWP
Os yw’ch achos yn cael ei roi i gasglwr dyled annibynnol
Byddwch yn derbyn llythyr i roi gwybod am hwn gan un o’r asiantaethau casglu dyled canlynol:
- Advantis
- BPO Collections
- CCS Collect
- Moorcroft
- Past Due Credit
- Resolve Call
- Shakespeare Martineau
Dylech ddelio’n uniongyrchol â’r casglwr dyled i drefnu ad-daliad.
Os yw’ch cais yn cael ei drosglwyddo i Dîm Gorfodi Dyled y DWP
Byddwch yn cael llythyr o’r tîm yn eich gofyn i sefydlu cynllun ad-dalu.
Os nad ydych yn cysylltu â’r tîm neu nad ydych yn dilyn eich cynllun ad-dalu, bydd y tîm yn cyflwyno cais yn eich erbyn i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HMCTS). Bydd y tîm yn ychwanegu costau ychwanegol i’r arian sy’n ddyledus gennych.
Yna bydd angen i chi ad-dalu’r holl arian sy’n ddyledus gennych o fewn 6 mis neu bydd y tîm yn gwneud cais am ddyfarniad llys sirol.
Os ydych yn cael dyfarniad llys sirol:
- bydd y llys yn ychwanegu mwy o gostau i’r arian sy’n ddyledus gennych
- caiff eich sgôr credyd ei effeithio am hyd at 6 mlynedd
Gall Tîm Gorfodi Dyled DWP hefyd gymryd camau gweithredu pellach, fel cymryd arian yn uniongyrchol o’ch cyflog.