Gordaliadau budd-dal

Skip contents

Ad-daliadau pan fydd rhywun wedi marw

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) adennill gordaliadau budd-daliadau o ystâd unigolyn.

Gallai gordaliad fod wedi digwydd oherwydd, er enghraifft, y person a fu farw:

  • wedi cael mwy o gynilion nag a ddatganwyd ganddynt yn eu cais am fudd-dal
  • heb ddatgan incwm
  • yn yr ysbyty neu gartref nyrsio ac heb ddweud wrth DWP

Os ydych yn delio â’r ystâd, bydd DWP yn ysgrifennu atoch unwaith y bydd profiant wedi’i ganiatáu i ofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Ni ddylech ddosbarthu’r ystâd nes eich bod yn gwybod beth sydd angen ei ad-dalu. Os gwnewch hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r arian eich hun yn ôl.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth i helpu i ddarganfod a oes angen ad-dalu unrhyw beth.

Efallai y bydd angen cyfiflenni banc, llyfrau pas cymdeithas adeiladu neu wybodaeth arall arnoch am asedau’r person a fu marw.

Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani, bydd y gordaliad yn cael ei gyfrif yn seiliedig ar y ffigwr profiant cyn unrhyw ddidyniadau (hynny yw, yr ystâd gyfan).

Os oes gordaliad wedi digwydd

Bydd DWP yn ysgrifennu atoch yn gofyn am yr arian yn ôl o’r ystâd. Byddant yn dweud wrthych sut y cyfrifwyd unrhyw ordaliad ac yn egluro pam y digwyddodd. Byddant hefyd yn dweud wrthych sut i dalu.

Os oes angen i chi drafod eich taliad, neu sefydlu cynllun ad-dalu, ffoniwch Adferiad o Ystadau Rheoli Dyled DWP. Mae’r rhif ar y llythyr.

Gallwch hefyd ysgrifennu atynt:

Os ydych yng Nghymru a Lloegr

Debt Management (RE)
Main Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2DG

Os ydych yn yr Alban

Debt Management (RES)
Main Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2DH

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â gwasanaeth Rheoli Dyled yr Adran Cymunedau.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad gordaliad

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad gordaliad, gallwch ofyn am edrych ar y penderfyniad eto - gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.

Gallwch wneud hyn os ydych:

  • yn meddwl bod DWP wedi gwneud gwall neu wedi methu tystiolaeth bwysig
  • yn anghytuno â’r rhesymau dros y penderfyniad
  • eisiau i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto

Taliadau a wnaed ar ôl marwolaeth

Os digwyddodd y gordaliad oherwydd gwnaeth y taliad gyrraedd cyn i DWP gael gwybod am y farwolaeth, bydd Rheoli Dyled DWP yn cysylltu â:

  • perthynas agosaf yr ymadawedig
  • y banc y talwyd y budd-dal iddo
  • pwy bynnag sy’n trin yr ystâd