Bron £180,000 i gynorthwyo Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth a’r Cylch
Dyrannwyd £179,730 i Wirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth a’r Cylch yng Ngheredigion ym mis Rhagfyr 2022 o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol y Deyrnas Unedig. Bydd y cyllid hwn yn cyflawni’r prosiect ‘Plas Antaron - Lle ar gyfer Lles a Gobaith’.
Mae Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth a’r Cylch (HAVAV) yn darparu amrywiaeth o weithgareddau i gynorthwyo pobl â chyflyrau cronig a chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, a’u gofalwyr. Mae HAVAV wedi’i leoli mewn canolfan Byw’n Dda a adwaenir fel Plas Antaron, sy’n cael ei brydlesu i’r sefydliad ar hyn o bryd.
Bydd cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn galluogi HAVAV i brynu’r adeilad, gan ddefnyddio cymal “hawl i brynu” yn y brydles.
Mae’r sefydliad yn bwriadu:
- gwneud gwelliannau i hygyrchedd y llety ar ôl ei brynu
- creu lleoedd defnyddiadwy newydd er mwyn cynyddu’r gweithgareddau a ddarperir ganddynt