Trac Awtomataidd ar gyfer Rheoli Achosion (ATCM): Symudodd dros filiwn o achosion Gweithdrefn Un Ynad o bapur i ddigidol
Cyflwynwyd y Weithdrefn Un Ynad (SJP) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015.

Mae’n caniatáu i erlynwyr – sy’n penderfynu a ddylid mynd ag achos drwy’r weithdrefn – ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â diffynyddion sy’n oedolion a gyhuddwyd o droseddau llai na allant arwain at ddedfryd o garchar, gan gynnwys:
- goryrru
- gyrru heb yswiriant
- peidio â thalu am drwydded teledu
- peidio â thalu am docynnau trên
Mae’n galluogi diffynyddion, erlynwyr a’r llysoedd i ddod i ddatrysiad am fân droseddau heb orfod mynychu’r llys (oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny).
Mae un ynad, gyda chyngor cyfreithiwr proffesiynol, yn delio ag achosion o dan SJP i ffwrdd o ystafell llys. Nid oes unrhyw erlynydd na diffynnydd yn bresennol a gallant ddelio â’r achos yn gyflym heb gymryd amser gwerthfawr yn y llys.
Cyn 2017, roedd achosion SJP yn dibynnu ar brosesau papur a thechnoleg hen ffasiwn a oedd yn golygu bod:
- staff y llys ac ynadon yn trin llawer o bapur â llaw
- oriau yn cael eu treulio yn mewnbynnu data â llaw a oedd hefyd yn cynyddu’r risg o gamgymeriadau dynol
- rhannu gwybodaeth yn aneffeithlon dros e-bost gan achosi oedi
- cost i’r trethdalwr yn gysylltiedig ag argraffu a chludo ffeiliau o adeilad i adeilad.
Roedd angen moderneiddio’r system i ymdrin â throseddau diannod, digarchar yn fwy effeithlon.
Buddion
Trwy gyflwyno’r Trac Awtomataidd ar gyfer Rheoli Achosion (ATCM), gwasanaeth digidol a grëwyd i helpu i brosesu achosion SJP ar system rheoli achosion troseddol Y Platfform Cyffredin, rydym wedi trawsnewid y broses. Mae’r gwasanaeth modern, symlach hwn bellach yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon i lysoedd, erlynwyr a’r cyhoedd.
Mae dros 1.1 miliwn o achosion SJP wedi’u cwblhau’n ddigidol rhwng Ebrill 2017 a 31 Rhagfyr 2024 (ffynhonnell: data gwasanaeth Diwygio MI, Mawrth 2025), pob un yn elwa ar y canlynol:
- cyfiawnder cyflymach yn rhoi mwy o gapasiti i erlynwyr ac yn galluogi diffynyddion i symud ymlaen â’u bywydau yn gyflymach
- rhannu gwybodaeth yn gyflymach rhwng y llys, yr erlynydd a’r diffynnydd
- y gallu i ryngweithio ag achosion yn fwy hygyrch ar unrhyw adeg a chael gwybod am gynnydd
- mwy o hyblygrwydd i ynadon a staff llys, sy’n golygu gallu delio â’r gwaith sy’n dod i’r llys yn fwy effeithlon
- gwell cysondeb gwasanaeth yn cael ei ddarparu i bob rhanddeiliad, gyda Chanolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd yn delio ag ymholiadau o ddydd i ddydd, yn hytrach na llysoedd unigol
- defnydd mwy effeithiol o gapasiti ffisegol y llys gan ddarparu gwell gwerth am arian i’r trethdalwr
- cyhoeddi rhestrau achosion ar-lein a gwybodaeth ychwanegol ar gael i newyddiadurwyr, i gefnogi cyfiawnder agored
- gostyngiad sylweddol yng nghost ariannol argraffu a chludo ffeiliau papur
Ein trawsnewidiad digidol
Mae ATCM yn cynrychioli trawsnewidiad o’r system SJP. Mae’r platfform digidol bellach yn rheoli achosion o’u derbyn yn y lle cyntaf hyd at benderfyniad yr ynadon, tra’n darparu mynediad tryloyw at ganlyniadau achos, atgyfeiriadau, a chostau a ddyfernir i’r holl randdeiliaid yn y broses, yn ogystal â newyddiadurwyr.
Trwy greu platfform digidol o dan y Rhaglen Ddiwygio rydym wedi galluogi:
- rheoli achosion digidol o’r dechrau i’r diwedd o ddechrau’r broses i’r penderfyniad, gan alluogi’r holl randdeiliaid i gael mynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt mewn amser real
- uwchlwytho achosion digidol yn uniongyrchol gan erlynwyr gan gynnwys DVLA, Trwyddedu Teledu, TfL a heddluoedd lleol
- cyflwyno pledion ar-lein, lle gall diffynyddion uwchlwytho gwybodaeth ategol
- olrhain y cynnydd a wnaed gan achos mewn amser real
- system hysbysu awtomataidd ar gyfer penderfyniadau achos i’r holl randdeiliaid sy’n ymwneud â’r broses, a hefyd i newyddiadurwyr
- gall newyddiadurwyr gael gwybodaeth fanwl (ffeithiau’r erlyniad a lliniaru’r amddiffyniad) yn ddigidol
- mynediad digidol i ynadon i fewnbynnu penderfyniadau yn uniongyrchol i’r system
- cymorth integredig gan Ganolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Mae hyn o fudd i amrywiaeth o bobl sy’n ymwneud â’r broses:
- Gall erlynwyr gan gynnwys yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau, Trwyddedu Teledu, a heddluoedd bellach uwchlwytho achosion yn uniongyrchol i’r system
- Gall diffynyddion gyflwyno pledion a chael mynediad at wybodaeth ategol ar-lein
- Gall ynadon a chynghorwyr cyfreithiol gael mynediad at fanylion achosion, cofnodi penderfyniadau, cynhyrchu gorchmynion a hysbysiadau, a diweddaru cofnodion gyrwyr i gyd trwy un platfform unedig.
- Mae newyddiadurwyr yn cael mwy o wybodaeth ac nid oes rhaid iddynt deithio i’r llysoedd yn bersonol er mwyn adrodd ar achosion
Rhannu gwybodaeth yn well
Mae mynediad i’r system sy’n seiliedig ar rôl yn sicrhau mai dim ond gwybodaeth sy’n berthnasol i’w hanghenion y mae defnyddwyr yn ei gweld, gan ddileu’r angen am ddogfennaeth bapur a lleihau mewnbynnu data â llaw.
Mae tryloywder yn cael ei gynnal trwy gyhoeddi rhestrau llys ar-lein, tra bod newyddiadurwyr yn gallu cael mynediad at restrau gwrandawiadau a chofnodion llys sydd ar ddod, gan alluogi craffu ac adrodd ar ganlyniadau i’r cyhoedd.
Mae’r nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth digidol wedi bod yn uchel, gyda nifer yr achosion digidol rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2023 yn mwy na dyblu. (ffynhonnell Gwybodaeth rheoli gwasanaethau diwygio cyhoeddus a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023.
Ers mis Ebrill 2022, mae 80% o’r bobl sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth un ynad wedi bod yn fodlon â’r gwasanaeth a gawsant.
Cydweithio
Rydym wedi ymgynghori a chydweithio â nifer o bartneriaid cyfiawnder i ddylunio, profi a gweithredu’r Trac Awtomataidd ar gyfer Rheoli Achosion, y system ddigidol a ddatblygwyd i weinyddu achosion y Weithdrefn Un Ynad ar-lein:
- heddluoedd lleol ar gyflwyno a darparu – mae erlynwyr heddlu bellach yn gallu uwchlwytho’n uniongyrchol i’r system a hunanwasanaethu
- holl bartneriaid y system gyfiawnder troseddol
- erlynwyr nad ydynt yn heddlu (NPPs) - mae’r rhain bellach yn ddigidol yn ddiofyn a bydd y broses cynefino ar gyfer NPPs yn cyflymu yn 2025/2026
- Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd i gynnig y cymorth a’r cyngor gorau ar gyfer achosion parhaus i bob rhanddeiliad
- ynadon, cynghorwyr cyfreithiol a’r farnwriaeth fel partner hanfodol i ddarparu system symlach
Cael cymorth
Mae Canolfannau Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CTSC) yn darparu cymorth cynhwysfawr i bob defnyddiwr. Mae gwelliannau allweddol yn cynnwys:
- cefnogaeth benodedig i ddiffynyddion, erlynwyr, a newyddiadurwyr
- lefelau gwasanaeth cyson ar draws pob rhyngweithiad
- lleihau amseroedd aros o dros awr i 15 munud ar gyfer ymholiadau dros y ffôn
- system hunan-gymeradwyo ar-lein newydd ar gyfer manylion trwydded yrru
Adborth a mewnwelediadau
Dywedodd Andrew Morris, Pennaeth Dros Dro Gweithrediadau Cyfreithiol Cymru: “Mae’n cynyddu hyblygrwydd, mae’n defnyddio amser yn effeithlon, yn well i’r amgylchedd, ac yn arbed lle yn y llys ar gyfer delio â throseddau mwy difrifol.”
Pwysleisiodd Rheolwr Uned Gweithrediadau Heddlu Gorllewin Swydd Efrog, Debbie Taylor, yr effaith: “Cyn ATCM a’r Platfform Cyffredin, roedden ni’n gwneud 600 o achosion SJP yr wythnos. Ym mis Hydref 2024, mae bellach wedi cynyddu i 650 o achosion yr wythnos - ac rydym ar y trywydd iawn i gynyddu i fil erbyn mis Mehefin neu fis Gorffennaf 2025.”
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn bwriadu parhau i ddatblygu’r system gan gynnwys:
- cwblhau’r broses o gyflwyno gwasanaeth digidol i bob heddlu ledled y wlad gan ymgysylltu ag erlynwyr newydd nad ydynt yn heddlu gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd a chwmnïau trafnidiaeth
- cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o gynaliadwyedd ac effeithiolrwydd y system
- gwella mynediad i’r cyfryngau a mesurau tryloywder – cyhoeddi mwy o ddata nag erioed o’r blaen, yn ogystal â gwahodd newyddiadurwyr i arsylwi sesiynau SJP
- datblygu opsiynau hunanwasanaeth gwell i ddefnyddwyr
- gweithredu gwelliannau technolegol parhaus
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a gwybodaeth Llysoedd Troseddol drwy danysgrifio i’n e-hysbysiadau a’n cylchlythyrau.
Gallwch ddarllen mwy am sut mae’r Weithdrefn Un Ynad yn gweithio drwy fynd i: Esbonio’r Weithdrefn Un Ynad yn y llys ynadon – Inside HMCTS