Moderneiddio gwasanaethau llysoedd a’r tribiwnlysoedd
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys deg astudiaeth achos ar draws gwasanaethau trosedd, sifil, teulu, y tribiwnlysoedd a gwasanaethau trawsbynciol, sy’n dangos sut mae trawsnewidiad digidol GLlTEF wedi gwella mynediad at gyfiawnder ar gyfer ein holl ddefnyddwyr.
Rydym wedi gwneud cyfiawnder yn fwy hygyrch, effeithlon a hawdd ei ddefnyddio.
Mae pob astudiaeth achos yn rhoi cipolwg i sut cafodd gwasanaeth ei ddatblygu, llwyddiannau allweddol, adborth defnyddwyr a gwybodaeth ymarferol ar gael mynediad at y gwasanaeth.
Edrychwch ar ein astudiaethau achos i ganfod sut mae’r datblygiadau digidol newydd hyn yn lleihau gwaith papur, yn cyflymu prosesau ac yn gwneud cyfiawnder yn fwy hygyrch - p’un a ydych yn weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith, yn ddaliwr swydd farnwrol, yn aelod o staff y llys neu dribiwnlys neu’n aelod o’r cyhoedd sy’n defnyddio’r system gyfiawnder.