O bapur i ddigidol: dod â mwy o dawelwch meddwl i unigolion sy’n gwahanu
Mae ysgaru yn ddigwyddiad bywyd arwyddocaol sy’n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr.

Hyd at 2018, roedd y broses yn gyfan gwbl ar bapur, gan olygu:
- roedd camgymeriadau’n cael eu gwneud yn aml wrth lenwi ffurflenni hirfaith, llawn jargon
- oedi a achosir gan yr angen i ddychwelyd niferoedd uchel o geisiadau oherwydd gwallau
- hysbysiadau araf i’r ceisydd neu weithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith bod cais wedi’i dderbyn
- oriau a dreulir gan ein pobl yn agor post, yn creu ffeiliau achos papur, yn olrhain ffurflenni coll ac yn cymryd taliadau dros y ffôn
- effeithiau amgylcheddol a chost i’r trethdalwr yn gysylltiedig ag argraffu, postio a chludo papur
Roedd angen moderneiddio’r gwasanaeth er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith yn well yn ystod cyfnod sy’n aml yn heriol yn emosiynol.
Manteision y gwasanaeth digidol
Mae ein gwasanaeth ysgariad modern wedi chwyldroi’r broses ymgeisio, gan gyflawni gwelliannau sylweddol. Ers 2019, mae dros 450,000 o geisiadau wedi’u gwneud yn ddigidol gan bobl sy’n ysgaru, sy’n golygu:
- gostyngiad mawr yn y gwallau a wnaed ar geisiadau - gostyngodd cyfraddau dychwelyd o 40% i 1% yn unig
- mae gwybodaeth reoli fewnol yn dangos bod galwadau gan ddefnyddwyr y llys yn cael eu hateb mewn llai na munud
- maent wedi cael eu cefnogi’n well trwy allu cael mynediad at wybodaeth am help i dalu ffioedd yn y broses ymgeisio
- gwell eglurder a sicrwydd trwy allu olrhain a rheoli mwy nag un proses yn eu hachos trwy un gwasanaeth integredig
- bod data a gwybodaeth sensitif yn cael eu diogelu trwy ddulliau diogelu preifatrwydd mwy cadarn
- lleihau’r effaith amgylcheddol trwy leihau’r defnydd o bapur
Ein trawsnewidiad digidol
Dechreuodd y daith drawsnewid yn 2016 gydag ymchwil defnyddwyr cynhwysfawr i ddeall yr heriau a wynebir gan unigolion sy’n ysgaru, gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith, a staff y llys.
Mae ein gwasanaeth wedi’i drawsnewid yn cynnig:
- mynediad 24/7 i geisiadau
- yr opsiwn i gadw a dychwelyd, gan ganiatáu i bobl gymryd seibiant neu ddod o hyd i ddogfennau heb golli cynnydd ar eu cais
- olrhain statws cais mewn amser real
- canllawiau clir, cam-wrth-gam i leihau camgymeriadau
- y gallu i wneud cais ar y cyd o dan Ddeddf Ysgaru, Diddymu a Gwahanu 2020
- proses rhwymedi ariannol integredig ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith i helpu unigolion i gytuno ar sut i reoli cyllid
- y gallu i rannu gwaith ar draws timau ar gyfer cwmnïau cyfreithiol
- opsiynau talu symlach
Mae ein hymagwedd ddigidol yn gweithio – rydym wedi gweld y nifer sy’n defnyddio’r system ddigidol yn codi’n aruthrol o 22% yn 2020 i 94% yn 2024.
Ymateb i ddeddfau newydd
Ers lansio’r gwasanaeth ysgariad ar-lein gwreiddiol i’r cyhoedd yn 2018 rydym wedi ymateb yn gyflym i newidiadau ehangach. Fe wnaethom ail-lansio’r gwasanaeth yn 2022 yn dilyn gweithredu’r Ddeddf Ysgaru, Diddymu a Gwahanu.
Mae’r gwasanaeth bellach yn galluogi ceisiadau ar y cyd am ysgariad, gan helpu i leihau anghydfod ymhlith unigolion sy’n gwahanu. Wrth gynllunio’r newidiadau hyn, buom yn gweithio gyda phobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, gan wrando ar eu hadborth ar bob cam i sicrhau bod y gwasanaeth newydd yn gweithio’n ddidrafferth i’r bobl yr oedd ei angen arnynt.
Mae adborth gan aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith yn dangos sut mae’r gwasanaeth wedi gwella:
Crispin, defnyddiwr gwasanaeth:
“Roedd y profiad cyffredinol yn eithaf didrafferth… fe weithiodd popeth fel y dylai wneud. Roedd yn teimlo fel un o rannau mwy cadarnhaol yr ysgariad.”
Karen Dovaston, Cyfreithiwr:
“Ar ochr y cyfreithiwr, mae’n ymwneud ag effeithlonrwydd. Gallaf fewngofnodi a gweld fy holl achosion a gweld yn union beth sy’n digwydd gyda nhw. Mae’n wirioneddol effeithlon o ran gallu diweddaru’ch cleientiaid o ran beth sy’n digwydd a ble mae pethau wedi cyrraedd. Gallwch chi lawrlwytho dogfennau yn hawdd iawn, gan wneud eich ceisiadau yn hawdd ac yn gyflym.
Yr effaith ganlyniadol i mi ac i’m cleientiaid yw bod gennyf ffi sefydlog am ysgariad. Dwi’n hapus ag ef ac mae’n golygu y gallaf drosglwyddo’r holl arbedion hynny i’m cleient oherwydd nid wyf wedyn yn treulio’r holl amser y byddwn wedi bod yn ei dreulio yn drafftio dogfennau papur, yn rhoi gwybodaeth mewn dogfennau papur, oherwydd mae’r system ddigidol yn tynnu’r cyfan drwodd.”
Hanes Arwel
Pan benderfynodd Arwel a’i wraig Caroline ysgaru, nid oedd yn siŵr sut i gychwyn y broses ac roedd yn teimlo’n ofidus. Roedd cydweithiwr wedi bod drwy’r broses a dywedodd wrtho nad oedd mor gymhleth ag yr arferai fod a bod gwneud cais ar-lein yn hawdd. Gwnaeth Arwel rywfaint o ymchwil a phenderfynodd wneud cais ar-lein. Nid oedd yn siŵr beth i’w ddisgwyl ond gyda’r gwasanaeth ysgariad ar-lein roedd yn gallu ffitio cyflwyno a monitro ei gais o amgylch ei batrwm gwaith shifft prysur.
Roedd Arwel yn gweld defnyddio’r gwasanaeth ar-lein yn rhyfeddol o hawdd, roedd yna ddolenni i ganllawiau defnyddiol a phan oedd angen dod o hyd i wybodaeth fe allai arbed ei gais a dychwelyd ato pan oedd yn barod. Oherwydd ei rota gwaith roedd Arwel yn gweld yr opsiwn i wirio ar-lein yn llawer haws na ffonio llinell gymorth. Roedd yn golygu nad oedd angen iddo ddod o hyd i rywle preifat yn ei swyddfa brysur a gallai wirio ar amser a oedd yn gyfleus iddo.
Yn gyffredinol, rhoddodd y gwasanaeth ysgariad digidol dawelwch meddwl i Arwel fod ei gais yn mynd rhagddo. Roedd y gyfraith yn ymwneud ag ysgariad yn golygu bod y broses yn cymryd amser hir, ond fe wnaeth y gwasanaeth yn glir pa mor bell yr oedd wedi symud ymlaen a oedd yn caniatáu iddo ganolbwyntio ar y dyfodol.
Cydweithio
Rydym wedi gweithio’n agos gyda:
- ein grŵp rhanddeiliaid ysgariad, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ysgariad ledled Cymru a Lloegr
- y farnwriaeth
- ein Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd yn Stoke i gefnogi ein defnyddwyr
Cael cymorth
Rydym wedi creu system gymorth gynhwysfawr i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae hyn yn cynnwys:
- gwasanaeth cymorth digidol rhad ac am ddim drwy We Are Group i ymgeiswyr yng Nghymru a Lloegr
- ffurflenni papur wedi’u moderneiddio gydag iaith symlach a chyfarwyddiadau cliriach
- cefnogaeth benodedig dros y ffôn neu drwy sgwrsio dros y we trwy ein Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym yn parhau i wella’r gwasanaeth i bob ceisydd a’u hymgynghorwyr. Yn y dyfodol byddwn yn:
- cynnig ceisiadau ar-lein am orchmynion interim (i wneud cais cyffredinol fel rhan o ysgariad, diddymiad neu wahanu)
- galluogi ceiswyr i weld ble maent wedi cyrraedd yn y cyfnod aros statudol o 20 wythnos
- gwella ein system hysbysu ymhellach
- cyflwyno y gallu i uwchlwytho dogfennau digidol
- symleiddio gwaith prosesu achosion cymhleth
- parhau i wella canllawiau ar gyfer dewis y math cywir o gais, yn seiliedig ar amgylchiadau personol ceisydd
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
- Ar gyfer cael y canllawiau diweddaraf ar wneud cais am ysgariad, ewch i: Cael ysgariad: cam wrth gam
- Gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith sy’n gwneud cais am ysgariad ar ran cleientiaid, ewch i: MyHMCTS:Sut i wneud cais am ysgariad neu ddiddymiad
- Ar gyfer cael cymorth i lenwi ffurflenni ysgariad ar-lein, ewch i: gwasanaeth cymorth digidol We Are Group
- Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a gwybodaeth y Tribiwnlysoedd drwy danysgrifio i’n e-hysbysiadau a’n cylchlythyrau.