Astudiaeth achos

Haws gwneud cais, prosesu cyflymach a llai o wrandawiadau: sut y gwnaethom wneud apeliadau mewnfudo yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy hygyrch

Mae gwasanaeth Mewnfudo a Lloches y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ymdrin â thua 50,000 o apeliadau bob blwyddyn.

Daw’r apeliadau hyn gan bobl sy’n herio penderfyniadau’r Swyddfa Gartref ynghylch:

  • eu statws mewnfudo
  • caniatâd i aros yn y DU
  • allgludo
  • cliriad mynediad

Cyn y Rhaglen Ddiwygio, roedd apelyddion a staff yn wynebu rhwystrau sylweddol.

  • Roedd ffurflenni papur yn gymhleth i apelyddion, yn enwedig os nad Saesneg oedd eu hiaith gyntaf
  • Roedd rhwystrau o ran iaith yn ei gwneud yn anoddach i geiswyr ddeall yn llawn sut roedd eu hapêl yn dod yn ei blaen neu gyflwyno eu hachos yn gadarn.

  • Treuliodd ein pobl lawer o amser yn adolygu a thrin ffurflenni papur â llaw, gan arafu prosesau.

Ein nod, drwy’r Rhaglen Ddiwygio oedd adeiladu gwasanaeth y gellir ymddiried ynddo i ddefnyddwyr, gan gynnal tegwch a chynyddu tryloywder a hygyrchedd.

Manteision y gwasanaeth digidol

Mae ein gwasanaeth wedi’i foderneiddio wedi trawsnewid y broses apelio, gan ei gwneud yn symlach, yn fwy hygyrch ac wedi sicrhau gwelliannau sylweddol i’r rhai sy’n apelio penderfyniadau:

  • Ceisiadau symlach - rydym wedi lleihau meysydd ffurflenni 91% ar gyfer unigolion a 72% ar gyfer cynrychiolwyr cyfreithiol
  • Amseroedd prosesu cyflymach trwy ein system ddigidol symlach
  • Saesneg clir ar draws y gwasanaeth, gan ei wneud yn fwy hygyrch ac yn llai gofidus
  • Integreiddiad di-dor gyda systemau’r Swyddfa Gartref i reoli achosion yn well
  • Llai o faich gweinyddol ar GLlTEF drwy ddileu prosesau papur
  • Cymorth canolog a chyson trwy ein Canolfan Gwasanaethau newydd
  • Gwell hyblygrwydd a thryloywder - gall defnyddwyr olrhain cynnydd eu hapêl ar-lein unrhyw bryd
  • Llai o angen am wrandawiadau trwy gyfnod adolygu newydd gan y Swyddfa Gartref
  • Llai o wrandawiadau wedi’u gohirio oherwydd rheoli tystiolaeth yn well

Ein trawsnewidiad digidol

Dechreuon ni drawsnewid y gwasanaeth ym mis Ionawr 2019 gyda lansiad o’n gwasanaeth digidol wedi’i gynllunio’n ofalus mewn dwy ganolfan wrandawiadau. Buom yn gweithio’n agos gyda chynrychiolwyr cyfreithiol i brofi a mireinio’r gwasanaeth. Fe wnaeth adborth o arolygon ac ymgysylltu â defnyddwyr ein helpu i wella’r gwasanaeth. Ychwanegwyd nodweddion newydd hefyd cyn iddo gael ei gyflwyno i ganolfannau gwrandawiadau eraill.

Lansiwyd y gwasanaeth digidol llawn ym mis Chwefror 2020, gan wneud y broses apelio yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy hygyrch i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

Ar gyfer apelyddion

Ar gyfer apelyddion wyneb yn wyneb mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio i fod yn syml ac yn hygyrch. Yn ystod y cam dylunio, buom yn gweithio’n agos gydag elusennau ledled y DU gan gynnwys Justice, Migrant Help a’r Cyngor Ffoaduriaid lle dysgon ni fwy am brofiad apelyddion, gan gynnwys defnyddwyr agored i niwed, a helpodd ni i greu gwasanaeth gwell.

Mae gwelliannau’n cynnwys

  • System gwneud cais ar-lein hawdd ei defnyddio
  • Cyfathrebu clir ar bob cam
  • Olrhain statws achos mewn amser real
  • Prosesu ffioedd yn integredig
  • Rheoli dogfennau symlach
  • Hysbysiadau a nodiadau atgoffa awtomataidd

Mae ein hymdrechion yn gweithio. Drwy alluogi pobl i ddefnyddio’r gwasanaeth digidol mae wedi rhyddhau mwy o amser ac adnoddau barnwrol ar gyfer yr achosion mwyaf cymhleth. 

Dysgu gwersi

Daethom hefyd ar draws sawl her, a’u goresgyn:

  • Roedd angen atebion dros dro ar gyfer ymarferoldeb cyfyngedig ar y dechrau
  • Roedd angen cymorth ychwanegol ar ddefnyddwyr i addasu i brosesau newydd
  • Roedd angen datrys terfynau amser a gorchmynion cyfarwyddiadau nad oedd yn cael eu bodloni

Cael cymorth

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad at gyfiawnder i bawb mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

  • cadw a gwella’r broses bapur ar gyfer apelyddion sy’n methu neu’n llai hyderus i ddefnyddio’r gwasanaeth digidol
  • cymorth penodol yn y Ganolfan Gwasanaethau ar gyfer y gwasanaeth Mewnfudo a Lloches
  • cymorth i drin ffioedd, rhestru gwrandawiadau apeliadau a phrosesu ceisiadau am ganiatâd i apelio i’r uwch dribiwnlys.

Adborth a mewnwelediadau

Mae ein trawsnewidiad wedi cael cymeradwyaeth gadarn gan uwch-arweinwyr, gan gynnwys cyn Uwch Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Lloegr, a ddywedodd:

“Rwy’n gweld hwn fel y model ar gyfer yr holl dribiwnlysoedd sy’n weddill”.

Mae defnyddwyr yn adrodd am brofiadau llawer gwell, gan nodi’n arbennig y ffurflenni symlach a chyfathrebu cliriach. Mae cynrychiolwyr cyfreithiol wedi dweud bod y gwasanaeth digidol yn caniatáu mwy o amser i siarad â chleientiaid am faterion yn ymwneud â’u hachos, gan ei gwneud hi’n haws paratoi apêl yn fwy manwl.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Rydym yn adeiladu ar ein llwyddiant gyda chynlluniau uchelgeisiol. Byddwn yn:

  • ehangu’r gwasanaeth apeliadau digidol i gynnwys apeliadau lle mae’r apelydd naill ai yn y carchar neu mewn canolfan symud mewnfudwyr
  • datblygu proses newydd ar gyfer rheoli ceisiadau a wneir ar bapur gan ganiatáu i’r achosion hyn adlewyrchu’r daith ddigidol newydd,
  • symud pob achos i’r platfform digidol
  • parhau i wella’r gwasanaeth yn seiliedig ar adborth defnyddwyr.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Ar gyfer cael y canllawiau diweddaraf ar apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau, ewch i: Apelio yn erbyn penderfyniad fisa neu mewnfudo: Trosolwg - GOV.UK

Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a gwybodaeth y Tribiwnlysoedd drwy danysgrifio i’n e-hysbysiadau a’n cylchlythyrau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2025