Teirgwaith yn gyflymach: chwyldroi hawliadau arian yng Nghymru a Lloegr
Bob blwyddyn, mae angen i filoedd o bobl a busnesau adennill arian sy’n ddyledus iddynt drwy’r llysoedd sirol. Gwnânt hyn drwy wneud hawliadau am arian yn y llys sifil, sy’n helpu i sicrhau mynediad at gyfiawnder a hybu sefydlogrwydd economaidd drwy ganiatáu i unigolion a busnesau ddatrys anghydfodau mewn modd teg ac effeithlon.

Cyn 2018, roedd y broses yn cael ei chyflwyno trwy ffurflenni papur neu ddefnyddio Hawlio Arian Ar-lein (MCOL), system a oedd yn rhannol ddigidol yn unig. Roedd hyn yn golygu:
- amseroedd aros hir, weithiau’n cymryd misoedd i brosesu achos
- roedd gwaith papur weithiau’n mynd ar goll, gan achosi oedi pellach
- mwy o siawns o gamgymeriadau dynol wrth fewnbynnu data, nad oedd yn cael ei helpu gan jargon cyfreithiol
- costau argraffu, postio a chludo papur uchel, yn ogystal â’r effaith amgylcheddol cysylltiedig
Roeddem yn gwybod bod cyfle clir i greu proses ddigidol o’r dechrau i’r diwedd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, lle gallai defnyddwyr – aelodau’r cyhoedd, perchnogion busnes neu weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith – ddatrys anghydfodau mewn ffordd syml, hygyrch a chymesur.
Fe wnaethom greu’r gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein (OCMC) i helpu pobl i ddatrys anghydfodau ariannol gwerth hyd at £25,000 yn gyflym ac yn hawdd, p’un a ydynt yn delio ag anfonebau heb eu talu, nwyddau heb eu dosbarthu, neu anghydfodau contract.
Mae achosion bellach yn cael eu datrys deirgwaith yn gyflymach diolch i’n system ddigidol.
Buddion
Rhwng Ebrill 2019 a Hydref 2024, mae mwy na 483,000 o hawliadau wedi’u gwneud gan ddefnyddwyr heb gyfreithiwr na chynrychiolydd cyfreithiol ac o’r rhain, cafodd mwy na 157,000 eu setlo heb fod angen gwrandawiad. Mae bron i 53,000 o weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith wedi gwneud hawliad ar ran cleient drwy OCMC
- gellir cyflwyno ac olrhain hawliadau ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, gan leihau’r amser aros pryderus am lythyr neu’r angen i fynd ar drywydd hyn o fewn oriau swyddfa
- Mae OCMC wedi lleihau’n sylweddol yr amser i ddatrys achosion yn ddigidol o gymharu â phapur
- gwybodaeth a diweddariadau sy’n cyrraedd partïon trwy glicio botwm
- lleihawyd y gost ariannol ac amgylcheddol i’r trethdalwr sy’n gysylltiedig â defnyddio a chludo ffurflenni papur
- Mae pob achos o dan £10,000 yn cael ei gyfeirio’n awtomatig at sesiwn cyfryngu am ddim, gan ganiatáu i fwy o bobl nag erioed o’r blaen setlo y tu allan i’r llys.
Ein trawsnewidiad digidol
Gan ddechrau yn 2018, rydym wedi ailgynllunio’n llwyr sut mae hawliadau am arian yn gweithio drwy wneud y canlynol:
- Creu taith gwbl ddigidol o’r dechrau i’r diwedd
- Disodli jargon cyfreithiol gydag iaith glir, syml
- Adeiladu dangosfwrdd hawdd ei ddefnyddio ar gyfer defnyddwyr heb gynrychiolaeth sy’n dangos diweddariadau achos amser real
- Cyflwyno system rheoli achosion ar-lein MyHMCTS ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol i reoli amrywiaeth o faterion cyfreithiol, gan gynnwys hawliadau am arian yn y llys sifil ar-lein
- Ychwanegwyd opsiynau Cymraeg i ddiffynyddion
- Ehangu’r gwasanaeth i ymdrin â hawliadau gwerth mwy hyd at £25,000
- Grymuso cynghorwyr cyfreithiol i roi cyfarwyddiadau digidol ar gyfer hawliadau llai
- Sefydlu llysoedd ‘mabwysiadu cynnar’ i brofi gwelliannau a magu hyder cyn eu cyflwyno’n genedlaethol
Mae’r cynnydd mewn cyflymder ar gyfer symud achosion yn eu blaenau a datrys achosion o ganlyniad i ddefnyddio’r gwasanaeth digidol wedi bod yn sylweddol:
- Mae gorchmynion cyfarwyddiadau digidol bellach yn cymryd ychydig dros 8 wythnos o gymharu â 30 wythnos ar gyfer achosion papur – mae hynny dros deirgwaith yn gyflymach
Cael cymorth
Rydym yn deall nad yw gwasanaethau digidol yn addas i bawb. Dyna pam yr ydym yn gwneud y canlynol:
- cynnal opsiynau papur ar gyfer y rhai sydd eu hangen
- ffurfio partneriaeth gyda We Are Digital i ddarparu cymorth personol
- cael tîm dynodedig yn ein Canolfan Gwasanaethau yn Stoke i ymdrin â phob ymholiad hawliadau am arian yn y llys sifil ar-lein
- defnyddio data adborth i nodi a dileu rhwystrau i ddefnyddwyr ag anableddau
- darparu cymorth ychwanegol i’r rhai sy’n cael trafferth gyda’r broses ddigidol
Adborth a mewnwelediadau
Mae defnyddwyr yn gyson gadarnhaol am hygyrchedd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth:
“Gweld y ffurflen yn hawdd iawn i’w defnyddio a’i llenwi.”
“Roedd y ffurflenni ar-lein yn hawdd iawn i’w llenwi ac, ar ôl eu setlo, roedd yn hawdd diweddaru’r hawliad i adlewyrchu hyn.”
“Profiad cwbl gadarnhaol. Roedd pob adran o’r cais yn glir ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Roedd cynnydd trwy’r adrannau gwahanol yn rhesymegol ac yn hawdd.”
Blwch galw allan – OCMC trwy lygaid gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith
“Gofynnwyd i mi yn ddiweddar gynrychioli cleient a oedd mewn anghydfod ag adeiladwr. Roedd hi wedi cyflogi’r cwmni i adeiladu estyniad i’w chartref, ond roedd y prosiect yn llawn problemau o’r cychwyn cyntaf. Roedd y gwaith yn destun sawl achos o oedi a phan ddaeth syrfëwr awdurdod lleol i archwilio’r estyniad, methodd yr estyniad â bodloni safonau rheoli adeiladu. Yn naturiol, roedd fy nghleient eisiau ffeilio hawliad am arian yn erbyn y cwmni adeiladu, ac roedd ganddi hefyd gynrychiolaeth gyfreithiol.
“Diolch byth, fe wnaeth y gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil Ar-lein (OCMC) y broses gyfan yn un syml. Gan fod fy nghwmni’n defnyddio porth MyHMCTS, roedd uwchlwytho dogfennau yn gyflym ac yn hawdd.
“Cymerodd y broses tua deg wythnos i’r gorchymyn cyfarwyddiadau gael ei gyhoeddi—penderfyniad gan y barnwr ar faint y dylai’r diffynnydd ei dalu. Roedd fy nghleient yn fodlon â’r canlyniad hwn, gan ei fod wedi rhoi amser iddi gyflogi adeiladwr newydd i ddatrys y problemau gyda’r estyniad.
“Dwi wedi bod gyda fy nghwmni ers blynyddoedd lawer, felly dwi’n cofio’r dyddiau o ddelio â hawliadau ar bapur a defnyddio’r system MCOL. Er bod MCOL yn gam pwysig tuag at ddigideiddio, mae’r system OCMC newydd yn llawer gwell. Gallaf fewngofnodi pryd bynnag y mae’n gyfleus i mi, uwchlwytho dogfennau, a does dim mwy o aros i ffeiliau ffisegol gyrraedd drwy’r post.”
Cydweithio
Buom yn gweithio’n agos gyda:
- Gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith sy’n gweithio yn yr awdurdodaeth sifil a roddodd adborth ar ddyluniad y system a defnyddioldeb y system
- y farnwriaeth fel partner hanfodol ar bob lefel
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus drwy wneud y canlynol:
- Defnyddio data a gasglwyd i nodi a mynd i’r afael â rhwystrau defnyddwyr
- Ehangu nodweddion digidol yn seiliedig ar adborth defnyddwyr
- Symleiddio prosesau ymhellach i leihau amseroedd datrys
- Sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn hygyrch i bob defnyddiwr
- Datblygu nodweddion newydd i gefnogi achosion mwy cymhleth
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a gwybodaeth y Llys Sifil drwy danysgrifio i’n e-hysbysiadau a’n cylchlythyrau.
I gael y canllawiau diweddaraf ar wneud hawliad am arian yn y llys sifil, ewch i: Gwneud hawliad am arian i’r llys
Er mwyn cael cymorth i wneud hawliad o £25,000 neu lai, ewch i gwneud hawliad am arian i’r llys:Gwneud hawliad - GOV.UK