Astudiaeth achos

Sut y gwnaethom wneud cyfiawnder yn y gweithle yn symlach, yn gyflymach ac yn fwy hygyrch i bawb

Mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn chwarae rhan hanfodol yn system gyfiawnder y DU, gan ddatrys anghydfodau rhwng cyflogwyr a gweithwyr.

Gall yr anghydfodau hyn fod ar faterion fel:

  • diswyddo annheg
  • gwahaniaethu
  • colli swydd
  • hawliadau chwythu’r chwiban
  • torri amodau contract

Yn ystod y gwrandawiadau fel wrandewir ar dystiolaeth, tystiolaeth tystion a dadleuon cyfreithiol a gwneir penderfyniad ar yr achos gan farnwr yn eistedd ar ei ben ei hun, neu gan banel sy’n cynnwys:

  • barnwr
  • aelod o’r panel gyda chefndir gweithiwr
  • aelod o’r panel gyda chefndir cyflogwr

Cyn y Rhaglen Ddiwygio, roedd nifer o broblemau gyda’r broses:

  • Roedd yn rhaid i aelodau’r panel a thimau GLlTEF drin, cludo a storio nifer fawr o ddogfennau papur â llaw
  • Roedd effeithiau amgylcheddol i gludo’r papur hwn ac roedd yn achosi tagfeydd ac oedi i achosion
  • Nid oedd ffurflenni yn hawdd i’w defnyddio nac yn gefnogol, gan gynyddu’r risg o gamgymeriadau dynol
  • Yn aml roedd angen i hawlwyr a diffynyddion deithio i adeiladau ar gyfer gwrandawiadau
  • Roedd barnwyr yn treulio amser yn gwneud penderfyniadau lefel is, gan eu tynnu oddi wrth faterion cymhleth oedd eu hangen

Nod ein rhaglen foderneiddio oedd trawsnewid system bapur hen ffasiwn a oedd yn ei chael yn anodd bodloni disgwyliadau modern i fod yn wasanaeth effeithlon, hawdd ei ddefnyddio a oedd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.

Buddion

Ers mis Gorffennaf 2022, mae mwy na 17,500 o bobl wedi gwneud hawliadau digidol gan ddefnyddio’r gwasanaeth modern. Cafodd y bobl hyn y buddion canlynol:

  • taith ddigidol o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer cyflwyno a rheoli hawliadau
  • ffurflenni ar-lein cefnogol, hawdd i’w defnyddio a gweithdrefnau symlach gyda llai o jargon cyfreithiol, gan leihau’r cyfleoedd am gamgymeriadau
  • hyblygrwydd olrhain achosion amser real a mynediad at ffeiliau achos 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos
  • Cynnydd mewn gwrandawiadau o bell sydd wedi lleihau’r angen i dreulio amser yn teithio, yn ogystal â manteision amgylcheddol ychwanegol
  • datblygiad cyflymach o’u hachos gyda phrosesau gweinyddol symlach

Roedd newidiadau i reoliadau hefyd yn golygu y gellid penodi swyddogion cyfreithiol i gefnogi barnwyr gyda rhai swyddogaethau y gallent eu gwneud yn fwy effeithiol wedyn trwy well technoleg. Sicrhaodd y cam hwn ddefnydd mwy effeithlon o amser barnwyr ar gyfer materion mwy cymhleth.

Ein trawsnewidiad digidol

Dechreuodd y daith i ddiwygio’r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn 2021. Dangosodd ymgynghoriad cyhoeddus gefnogaeth gadarn i foderneiddio a dechreuwyd ar y broses drwy ddatblygu a phrofi’r ffurflen hawlio digidol newydd (ET1).

Dyma fyddai sylfaen y gwasanaethau wedi’u moderneiddio, gan roi ffurflen hygyrch, hawdd i’w defnyddio i hawlwyr (neu eu cynrychiolwyr) y gallent ei chyrchu drwy GOV.UK a’i llenwi a’i chyflwyno ar-lein unrhyw bryd.

Yna rhoesom fynediad i ddefnyddwyr i ddau blatfform digidol allweddol:

  • MyHMCTS - Porth arbenigol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith i reoli a rhyngweithio â deunyddiau achos ar ran eu cleient
  • CitizenUI - Rhyngwyneb hygyrch i aelodau’r cyhoedd gael mynediad uniongyrchol iddo

Cwblhawyd y cyflwyniad cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2024, gan drawsnewid holl swyddfeydd y Tribiwnlys Cyflogaeth. Drwy gydol y broses gyflwyno, rydym wedi gwneud yn siŵr bod ein staff wedi teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn glir ynghylch y rôl y maent yn ei chwarae o ran cael effaith gadarnhaol ar broses y tribiwnlysoedd.

Mae’r gwasanaeth ar-lein yn boblogaidd hefyd, gydag 80% o’r holl hawliadau unigol bellach yn cael eu gwneud yn ddigidol.

Cael cymorth

Er bod arloesi digidol yn bwysig, rydym wedi cynnal ein hymrwymiad i hygyrchedd:

  • Mae opsiynau papur yn parhau i fod ar gael ar gyfer y rhai sydd eu hangen
  • Datblygu cyfleusterau argraffu canolog
  • Deunyddiau canllaw cynhwysfawr
  • Cefnogaeth i’r rhai heb fynediad i gyfleusterau digidol neu hyder

Adborth a mewnwelediadau

Mae defnyddwyr ar draws y system wedi croesawu’r newidiadau:

“Mynediad i’r dogfennau perthnasol heb aros i’r partïon na’r staff eu darparu… mae’n newid y gêm.” Barnwr y Tribiwnlys

“Mae gan y system/porth botensial mawr a dylai fod yn adnodd defnyddiol ac effeithlon iawn i ddefnyddwyr a GLlTEF.” Gweithiwr Proffesiynol ym Maes y Gyfraith

“Does dim rhaid i mi gario cymaint o bethau o gwmpas… Gallaf gael yr hyn sydd ei angen arnaf fel arfer o’r ffeil electronig.” Aelod o Staff y Tribiwnlys

Blwch galw allan – Cefnogi Sarah drwy ei hanghydfod yn y gweithle 

“Ro’n i’n edrych ymlaen at ddechrau fy nghyfnod mamolaeth a threulio amser gyda fy nheulu ond ar ôl ychydig fisoedd, mi wnes i sylweddoli fod agwedd fy nghyflogwr tuag ata’ i wedi newid.

Cyn i mi ddweud wrthyn nhw fy mod i’n feichiog, ro’n i’n cael fy annog yn rheolaidd i wneud cais am ddyrchafiad a byddai fy rheolwr yn anfon manylion swyddi gwag a chyfleoedd hyfforddi ata’ i. Daeth y cyswllt hwn i ben tra o’n i ar absenoldeb mamolaeth a des i wybod yn ddiweddarach fod cydweithwyr wedi gwneud cais amdanyn nhw ac wedi cael dyrchafiad i rolau y byddwn i wedi bod yn berffaith ar eu cyfer, ond ni wnaethon nhw erioed ddweud wrtha’ i amdanyn nhw. Ces i fy nghau allan ac ro’n i’n teimlo bod fy nghyflogwr wedi gwahaniaethu yn fy erbyn i a wnaeth i mi deimlo’n anhapus iawn.

Roedd yn syniad brawychus, ond mi wnes i benderfynu gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth. Nid o’n i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen ac ro’n i’n nerfus iawn ond mae’r broses wedi bod yn wych hyd yn hyn. Oherwydd ei fod i gyd ar-lein, mi alla’ i fewngofnodi pryd bynnag dwi’n dymuno a gweld sut mae’r hawliad yn dod yn ei flaen. Mae hyn wedi bod yn bwysig iawn gan mai anaml y bydd gen i’r amser i wneud galwadau ffôn yn ystod y dydd, i fynd ar drywydd pobl. Ro’n i hefyd yn meddwl y byddai’n rhaid i mi deithio i wrandawiadau yn rheolaidd, ond nid yw hynny wedi bod yn wir.

Dwi wir yn mwynhau’r broses a dwi’n edrych ymlaen at weld yr hawliad yn cael ei setlo er mwyn i mi allu symud ymlaen gyda fy mywyd.” 

Cydweithio

Buom yn gweithio’n agos gyda:

  • Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) – yr Adran Busnes a Masnach bellach – a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) i ymgynghori ar gynlluniau i ddiwygio’r gwasanaeth
  • Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) i sicrhau y byddai cyngor rhad ac am ddim ar gael i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth digidol
  • y farnwriaeth fel partner hanfodol ar bob lefel

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus drwy wneud y canlynol:

  • datblygu cymorth Canolfan Gwasanaethau erbyn diwedd 2025
  • gweithredu meddalwedd ‘ListAssist’ i wella’r broses o restru achosion
  • datblygu’r gallu i ymdrin â hawliadau lluosog
  • cwella perfformiad y system a gwella sut i’w llywio ymhellach
  • cyflwyno cyfleusterau argraffu a sganio swmp
  • mireinio rhyngwynebau hawdd eu defnyddio yn seiliedig ar adborth gan ein timau

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth drwy’r canlynol:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2025