HMS Cambria: ‘Trysor’ newydd Caerdydd yn yr ystad amddiffyn
HMS Cambria yw’r cartref modern newydd sbon gwerth £11 miliwn i dair uned y Milwyr Morol Wrth Gefn.
Caption: HMS Cambria yw’r cartref modern newydd sbon gwerth £11 miliwn i dair uned y Milwyr Morol Wrth Gefn. Hawlfraint y Goron y Weinyddiaeth Amddiffyn
Wedi’i disgrifio fel ‘trysor’ yn yr Ystad Amddiffyn, cafodd HMS Cambria ei chyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, mewn partneriaeth â’r Llynges Frenhinol ac Associated British Ports.
Mae’r prosiect hynod lwyddiannus hwn wedi galluogi HMS Cambria, unig uned y Llynges Frenhinol Wrth Gefn yng Nghymru, i ddychwelyd i’w chartref morol gwreiddiol yng Nghaerdydd, a mwynhau presenoldeb ger canolfan Lywodraethu Cymru.
Symudodd HMS Cambria o Ddociau Caerdydd i safle yn Sili bedwar degawd yn ôl. Dros y blynyddoedd, gwnaed sawl ymgais i ddychwelyd yr uned i’r brifddinas. Fodd bynnag, cyhoeddi rhaglen Defence’s Future Reserves 2020 (FR20) yn 2013 oedd y catalydd er mwyn galluogi HMS Cambria i symud yn ôl i’r brifddinas.
Mae’r cyfleuster pwrpasol bellach yn ganolfan ganolog ac yn ganolfan weithredu ar gyfer cwmni’r Llong o HMS Cambria; staff o Uned Llynges Frenhinol Prifysgol Cymru sy’n gofalu am gadetiaid y Llynges mewn prifysgolion yn y ddinas, a’r Môr-filwyr Brenhinol Wrth Gefn.
Erbyn hyn, mae gan y Milwyr Wrth Gefn fynediad at ystafelloedd dosbarth o’r radd flaenaf, cyfleusterau llety a rennir, gwasanaethau gweinyddol, yn ogystal â chanolfannau cymdeithasol a ffitrwydd i gyd o dan yr un to.
Dywedodd y Cyrnol Nick Beard, Prif Weithredwr y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru:
“Nid yn unig mae’r prosiect wedi galluogi HMS Cambria i ddychwelyd yn haeddiannol i’w gartref morol gwreiddiol, ond mae bellach yn cynnig y cyfleusterau gorau posibl i’n milwyr wrth gefn weithio a hyfforddi ynddynt. Rydyn ni’n gobeithio bydd y cyfleuster newydd sbon yn ysbrydoli darpar filwyr wrth gefn o’r ardaloedd cyfagos i gofrestru i fod yn aelodau hanfodol a gwerthfawr o deulu’r Lluoedd Arfog.”
Yn ogystal â’r ‘trysor’ hwn yn yr Ystad Amddiffyn, fel y cafodd ei disgrifio gan y Capten Mark Wyatt (Rheolwr Galluogrwydd Seilwaith y Llynges (Milwyr Wrth Gefn)), mae’r Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru yn gyfrifol am gynnal a chadw dros 400 o adeiladau sy’n gartref i gadetiaid a milwyr wrth gefn yng Nghymru.