John Challenger yn trafod pwysigrwydd chwarae ei ran i helpu cadetiaid eraill
Cafodd John Challenger, cadét môr, Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i bobl ifanc yn ystod Covid-19.
Caption: Cafodd John Challenger, cadét môr, Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i bobl ifanc yn ystod Covid-19.Hawlfraint y Goron y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn gadét yn un o unedau cadetiaid Cymru?
Mae John Challenger, 17 oed, yn esbonio pam ei fod yn meddwl ei bod mor bwysig cadw’r cysylltiad rhwng y 2,300 o gadetiaid môr ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Dywedodd: “Rwy’n credu bod llawer o bobl ifanc wedi cael trafferth gydag iechyd meddwl, gan deimlo nad ydyn nhw’n gallu taro cydbwysedd rhwng gwaith ysgol, y cadetiaid a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Ond roedd y Cadetiaid Môr wedi gweithio’n galed i leihau’r anawsterau hyn i staff a chadetiaid drwy adeiladu rhwydweithiau cymorth sy’n ymestyn ledled y wlad, gyda’r nod o’n helpu ni i gyd drwy’r cyfnod heriol hwn.”
Ymunodd John, sy’n 17 oed, â’r Cadetiaid Môr pan oedd yn 10 oed. Ef yw’r uwch gadét yn y rhanbarth dan y teitl ‘Cadét Prif Arglwydd y Morlys’ a dyfeisiodd a chynnal cwis ar-lein wythnosol, gan ymgysylltu â dros 300 o gadetiaid yn ystod wythnosau cyntaf y cyfyngiadau symud.
Roedd hefyd wedi arwain yr uwch-gadetiaid eraill mewn Fforymau Cadetiaid ar-lein i gyfathrebu â’i gilydd, i drafod materion sy’n peri pryder i bob ochr, ac i adrodd yn ôl ar broblemau i dîm rheoli’r Corfflu Cadetiaid Môr yn genedlaethol ac yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Roedd pob un ohonom yn wynebu heriau newydd ac anodd oherwydd Covid-19, ac roedd yn rhaid i ni ddysgu technegau newydd i ddarparu hyfforddiant i gadetiaid ar-lein. Drwy ein gorfodi i newid i hyfforddiant ar-lein, mae’r pandemig wedi ein gwneud yn fwy cydnerth fel sefydliad ac wedi ein galluogi i ddatblygu ein sgiliau cyfathrebu.
Hefyd, mae wedi gwneud pob un ohonom yn fwy empathig tuag at ein gilydd ac wedi ein galluogi i ddysgu am gyflwyno hyfforddiant drwy gyfryngau newydd a dyfeisgar, rhywbeth a allai barhau hyd yn oed ar ôl i’r cyfyngiadau lacio.
Dywedodd y Llyngesydd Tony Radakin CB ADC, Prif Arglwydd y Morlys a Phennaeth Staff y Llynges: “Mae hyn yn llwyddiant eithriadol i rywun mor ifanc ac yn enghraifft go iawn o bwysigrwydd y Corfflu Cadetiaid Môr. Mae John wedi arddangos anhunanoldeb, ymroddiad a gwaith tîm gan adlewyrchu priodweddau teulu’r Llynges Frenhinol i’r dim, ac mae wedi helpu cynifer o bobl ifanc yng ngogledd Cymru, gogledd-orllewin Lloegr a ledled y DU ar adeg anodd.”