Consultation document (Welsh accessible)
Updated 14 November 2023
Applies to England and Wales
Adolygiad Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a phwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol
Ymgynghoriad y Llywodraeth
Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau ar Mawrth 27, 2023
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn gorffen ar Mai 22, 2023
Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn
I:
Mae’r ymgynghoriad hwn yn agored i’r cyhoedd ac wedi ei dargedu ar gyfer y sawl sydd â phrofiad o weithio mewn neu gyda Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPau), yn ogystal â’r sawl sydd â diddordeb ym mhwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cyfnod:
O 27/03/23 tan 22/05/23
Ymholiadau (gan gynnwys ceisiadau i gael y papur mewn ffurf amgen) at:
Tîm adolygu Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSP)
Uned Strategaeth Trosedd a Pherfformiad, Y Swyddfa Gartref
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain, SW1P 4DF
Sut i ymateb:
Gellir cyflwyno ymatebion ar-lein drwy wefan GOV.UK ar https://www.gov.uk/government/consultations/community-safety-partnerships-review-and-antisocial-behaviour-powers
Dylai ymatebwyr sydd yn dymuno cyflwyno ymateb ysgrifenedig yn hytrach na chwblhau fersiwn ar-lein anfon eu hymateb drwy e-bost erbyn 22/05/23 i: CSPReview@homeoffice.gov.uk.
Mae fersiynau ar gael yn y Gymraeg a hefyd yn hygyrch drwy wefan GOV.UK.
Papur ymateb:
Caiff ymatebion eu dadansoddi a dogfen ‘Ymateb i Ymgynghoriad’ ei gyhoeddi.
Crynodeb Gweithredol
1. Ceir cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn ynglŷn â’r berthynas rhwng Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (CSPau) a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu (PCCau) a swyddogaeth Partneriaethau a’r Comisiynwyr wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB). Mae hefyd yn ystyried pwerau ASB ac a oes angen unrhyw wellianau i’r ddeddfwriaeth.
Adolygiad Partneriaethau Diogelwch Cymunedol
2. Cafodd CSPau eu cyflwyno gan Adran 6 o’r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998[footnote 1] ac maent yn dod â phartneriaid lleol at ei gilydd er mwyn trefnu a darparru strategaethau o fewn eu cymunedau i fynd i’r afael â throsedd ac anrhefn. Yr awdurdodau cyfrifol sy’n ffurfio’r Partneriaethau yw’r Heddlu, Yr Awdurdod Tân ac Achub, Awdurdodau Lleol, Partneriaid Iechyd[footnote 2] a Gwasanaethau Prawf[footnote 3].
3. Gwyddom fod gwaith partneriaeth effeithiol yn hanfodol ar gyfer gostwng trosedd ac anrhefn ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Yn bartneriaethau aml-asiantaeth, mae CSPau yn fecanwaith hanfodol sy’n gweithredu mewn ardaloedd lleol. Does gan ddim un sefydliad y gallu i gyfeirio at yr ystod o achosion gwaelodol neu yrrwyr trosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Mae’r sefydliadau a gynrychiolir o fewn CSP, yn ogystal â’r sawl fyddan nhw’n ymgysylltu â nhw wrth gyflawni eu dyletswyddau, yn gyfrifol am nifer o’r liferi sydd eu hangen i gyfeirio at yrrwyr trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallant adnabod a deall problemau eu cymuned a gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ddatrysiadau.
4. Yn 2022, cyhoeddodd y Llywodraeth ganfyddiadau Rhan 2 o’i adolygiad o PCCau[footnote 4]. Fe wnaeth yr adolygiad ganfod, er bod pwysigrwydd partneriaethau lleol yn cael ei gydnabod yn helaeth, doedden nhw ddim yn cael eu defnyddio mor effeithiol ag y gallent. Argymhelliad yr Adolygiad PCC oedd y dylai’r Swyddfa Gartref ymgymryd ag adolygiad llawn o Bartneriaethau ar draws Cymru a Lloegr er mwyn gwella’u tryloywder, atebolrwydd ac effeithiolrwydd. Gwnaed argymhellion gan yr Adolygiad PCC mewn perthynas â CSPau, gan gynnwys archwilio rôl y Partneriaethau mewn perthynas ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol a gwaith di-dâl.
5. Rhan gyntaf yr Adolygiad yma o’r CSP yw’r ymgynghoriad wedi’i dargedu, sydd yn canolbwyntio ar atebolrwydd y Partneriaethau a’r Comisiynwyr wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Yn gyrff etholedig, y Comisiynwyr sydd yn amlinellu nodau heddlu a throsedd ar gyfer eu hardaloedd. Yn yr ymgynghoriad hwn, mae gennym ddiddordeb chwilota i sut gellir canolbwyntio’n well ar ddarpariaeth y nodau hyn, yn enwedig gan y CSPau. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio’n benodol ar dair elfen.
6. Yn gyntaf, bydd yr ymgynghoriad yn ystyried cynigion i wneud newidiadau i ofynion presennol mewn perthynas ag asesiadau strategol a chynlluniau partneriaeth[footnote 5]. Mae’r hyn a ganfuwyd o arolygon barn ymhlith y cyhoedd a gynhaliwyd gan y Swyddfa Gartref yn dangos mai materion diogelwch cymunedol sy’n ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol sydd yn peri’r mwyaf o bryder. Mae’r arolwg hefyd yn dangos fod yna gefnogaeth ymhlith y cyhoedd dros gael eu diweddaru’n gyson a’u hymgysylltu ynglŷn â sut y cyfeirir at ddiogelwch cymunedol yn eu hardal leol. Er mwyn adlewyrchu’r pryderon hyn, mae’r ymgynghoriad yn ystyried opsiynau i’r CSPau gyhoeddi asesiadau a chynlluniau maen nhw’n eu cynhyrchu ar hyn o bryd.
7. Yn ail, ac yn adlewyrchu’r rhan bwysig sydd gan CSPau wrth gefnogi darpariaeth amcanion heddlu a throsedd y Comisiynwyr, mae hefyd yn ystyried a ddylai fod gan Gomisiynwyr well mynediad at asesiadau a chynlluniau a gyhoeddir gan y Partneriaethau er mwyn goleuo eu gwaith eu hunain. Credwn y gallai hyn wella dealltwriaeth Comisiynwyr o drosedd ac anrhefn a materion yn ymwneud ag Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol yn eu hardaloedd hwythau.
8. Yn drydydd, ac wrth barhau gydag ystyriaeth o swyddogaeth y Partneriaethau wrth ddarparu amcanion heddlu a throsedd y Comisiynwyr, mae hefyd yn ystyried argymhellion i gryfhau model atebolrwydd CSPau er mwyn gweithio’n agosach gyda’r PCCau ac i ddarparu deillianau mwy effeithiol ar gyfer y cyhoedd. Mae’r rhan yma o’r ymgynghoriad yn ystyried a ddylai’r PCCau adolygu a gwneud argymhellion ynglŷn â gweithgarwch y CSPau. Credwn y gall hyn sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol i leihau troseddi a mynd i’r afael â phryderon y gymuned.
9. Fe wnaeth Adolygiad y PCC gynnwys argymhellion hefyd ynglŷn ag ystyried cyflwyno dyletswydd newydd i CSPau adrodd ar strategaeth a darpariaeth ASB lleol i PCCau a ph’un a ddylai’r Llywodraeth ddeddfu er mwyn amlinellu swyddogaeth y PCCau mewn perthynas â’r Adolygiad Achos ASB (a elwid yn gynt yn Sbardun Cymuned). Mae edrych ar sut gall PCCau a CSPau weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag ASB yn bwysig oherwydd, er bod Comisiynwyr yn gyson yn datgan bod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, yn flaenoriaeth, fe allant fod heb y lifrau sydd eu hangen i yrru’r ymateb partneriaeth angenrheidiol i ASB.
10. Ar hyn o bryd does gan Gomisiynwyr ddim trosolwg ffurfiol dros yr Adolygiad Achos ASB, proses a ddyluniwyd i gefnogi dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd yn teimlo bod eu hachos heb gael ei glywed gan asiantaethau lleol, gan roi’r hawl iddyn nhw ofyn am adolygiad achos aml-asiantaethol lle bydd trothwy lleol yn cael ei fodloni. Rydym am sicrhau fod y gwaith ar y cyd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol rhwng Partneriaethau a Chomisiynwyr yn cael ei gryfhau drwy ystyried sut y gallwn sicrhau gall PCCau chwarae mwy o ran wrth fynd i’r afael ag ASB yn lleol a thrwy amlinellu sut gall Comisiynwyr weithio gyda Phartneriaethau yn y broses Adolygu Achos ymddygiad Gwrth-gymdeithasol a gwella ei weithrediad. Rydym yn ystyried sut mae cryfhau sut mae CSPau a PCCau yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol a chwilota camau gall Partneriaethau a Chomisiynwyr eu dilyn er mwyn adeiladu ar eu gwaith cydweithredol. Fodd bynnag rydym yn eiddgar i asesu ymatebion rhanddeiliaid er mwyn profi’r hyn rydym yn ei feddwl ynglŷn â’r argymhellion hyn ac i ddeall eu safbwynt hwythau.
11. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cyfeirio at gyfleoedd i hybu pwerau’r Comisiynwyr i ddod â phartneriaid ynghyd ar Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol; cyfarwyddo strategaeth ASB lleol; a gofyn am ddata a riportio lleol ar Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol. Wrth wneud hynny, mae’r ymgynghoriad yn chwilota opsiynau allai roi Comisiynwyr mewn safle cryfach i allu herio asiantaethau lleol, ymochri strategaethau ASB lleol i’w Cynllun Heddlu a Throsedd a chadw’r CSP yn atebol ar gyfer darparu’r deiliant gorau i ddioddefwyr ASB.
Pwerau Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol (ASB)
12. Drwy gyfrwng Deddf Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014, fe wnaethon ni roi ystod eang o offer a phwerau hyblyg i’r heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol eraill er mwyn iddyn nhw allu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol. Gwyddom fod yna ffafriaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio offer heb orfodaeth ac ymyrraethau anffurfiol yn yr achos cyntaf ac mae pwerau yn cynnig dewis defnyddiol lle mae’r ASB yn cynnig dewis defnyddiol lle bydd yr ASB yn parhau neu’n gofyn am ymateb cryfach. Mae Partneriaethau’n chwarae rhan hanfodol wrth weithredu’r pwerau hyn. Er enghraifft, gall awdurdodau lleol weithredu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus Agored (PSPO) i atal unigolion neu grwpiau rhag cyflawni ASB mewn man cyhoeddus. Gall yr heddlu weithredu pweru gwasgariad i atal ASB ar y dechrau drwy wneud hi’n ofynol i gyflawnwyr adael ardal am hyd at 48 awr. Gall y ddau roi gorchmynion cau, i gau annedd sydd yn cael ei ddefnyddio i achosi niwsans neu anrhefn yn gyflym.
13. Dywed rhanddeiliad wrthym mai’r offer a roddir yn Neddf Trosedd a Heddlu 2014 yw’r rhai cywir ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dydyn ni ddim yn credu fod Deddf 2014 yn cynnig pwerau digonol i fynd i’r afael â chardota niwsans a chysgu allan unwaith i’r Ddeddf Crwydraeth gael ei ddiddymu. Dylai’r ffocws yn bennaf fod ar sicrhau gall y pwerau sydd yn cael eu rhoi i’r asiantaethau perthnasol gael eu defnyddio’n fwy effeithiol ac yn fwy cyson. Fodd bynnag, awgrymwyd gwellianau er mwyn cryfhau a lledaenu eu defnydd, ehangu pwerau i asiantaethau perthnasol eraill, neu gynyddu cyfnodau amser gall pŵer fod yn ei le. Felly, dymunwn ymgynghori ynglŷn â’r syniadau hyn am ei fod yn hanfodol fod gan ardaloedd lleol bopeth sydd eu hangen i sicrhau nad yw niwsans ac anrhefn yn cynyddu ymhellach. Dymunwn hefyd i gael gwell dealltwriaeth o sut mae’r Cynllun Achredu Diogelwch Cymunedol (cynllun gwirfoddol lle gall Prif Gwnstabliaid ddewis i achredu pobl gyflogedig sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi sydd yn cyfrannu tuag at gynnal a gwella diogelwch cymunedol gyda phwerau cyfyng ond sydd wedi’u targedu) yn cael ei ddefnyddio ac os oes angen unrhyw wellianau i’r ddeddfwriaeth er mwyn cryfhau ei ddefnydd wrth fynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol.
Arolwg o Farn y Cyhoedd
1. Ym mis Gorffennaf 2022, comisiynwyd Ipsos UK gan y Swyddfa Gartref i gynnal arolwg barn gyhoeddus i gael gwell dealltwriaeth o safbwyntiau’r cyhoedd ynglŷn â diogelwch cymunedol. Nod cynnal yr arolwg oedd sefydlu os oes unrhyw ymgysylltiad rhwng y cyhoedd a sefydliadau diogelwch cymunedol, sut gall y sefydliadau hyn ganfasio barn y cyhoedd a’u diweddaru ynglŷn â’i gwaith, a ph’un a yw’r cyhoedd yn teimlo bod y materion cymunedol unigol maen nhw’n eu hwynebu yn cael eu hadlewyrchu a’u cyfeirio ar lefel genedlaethol a lleol. Cafodd yr ymchwil ei gynnal drwy arolwg ar-lein gan ddefnyddio Panel Gwybodaeth Ipsos UK, gan gyrraedd sampl genedlaethol gynrychiadol o 2,014 oedolyn rhwng 16 a throsodd sy’n byw yng Nghymru a Lloegr. Cafodd y sampl a wahoddwyd ei haenu fesul gwlad, a mân bwysolwyd y data terfynol er mwyn sicrhau sampl genedlaethol gynrychiadol ar draws Cymru a Lloegr.
2. Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn wedi amlygu pam fod adolygiad y CSP yn gam pwysig nesaf ar gyfer y Llywodraeth yma. Ceir cydberthynas rhwng teimlo’n aniogel, teimlo’n llai bodlon gyda’r ardal leol, diffyg hyder yn y modd mae materion sydd yn ymwneud â diogelwch cymunedol yn cael eu trafod a pharodrwydd i ymgysylltu neu gael eu diweddaru ar ymatebion lleol i ddiogelwch cymunedol. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd mabwysiadu ymagwedd gyfannol tuag at wella teimladau cymunedau lleol ynglŷn â diogelwch a hyder bod materion yn ymwneud â diogelwch cymunedol yn cael eu trafod yn effeithiol.
3. Canfu’r ymchwil, er bod y mwyafrif o’r cyhoedd yn teimlo’n ddiogel yn eu hardal leol, fe fynegodd y rhan fwyaf o bobl bryder ynglŷn â throsedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gwasanaethau GIG /Meddyg Teulu a chostau byw pan ofynnwyd iddyn nhw. Hefyd, Ymddygiad gwrth-gymdeithasol oedd y math o drosedd oedd fwyaf tebygol o achosi pryder yn yr ardal leol. I’r cyhoedd, gwelir diogelwch cymunedol fel rhywbeth sydd yn perthyn i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda pherthnasedd cyfyng i faterion eraill. Mae’r canlyniadau hyn yn tynnu sylw at yr angen am ymagwedd well wrth gyfeirio at bryderon mewn perthynas â throsedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
4. Canfu ymchwil hefyd bod lefelau isel o hyder yn y modd mae materion sydd yn ymwneud â diogelwch cymunedol yn cael eu trafod ar lefel leol ar draws Cymru a Lloegr, yn dangos fod yna angen am well cyfathrebu gan asiantaethau ar lefel leol a rhanbarthol. Cred y mwyafrif o’r cyhoedd mai’r heddlu neu’r cyngor lleol syd yn gyfrifol am ymdrin â diogelwch cymunedol. Mae llawer llai yn ymwybodol o’r rhan a gymerir gan asiantaethau eraill, gan amlygu ymhellach yr angen i sefydliadau diogelwch cymunedol i wella cyfathrebiadau gyda’r cyhoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u swyddogaethau wrth gyfeirio at faterion sydd yn ymwneud â diogelwch cymunedol. Dylai’r ymagweddau hyn fod yn rhai lleol ac wedi eu teilwra i adlewyrchu’r gwahaniaethau o fewn cymunedau lleol..
5. Er mai nifer fach o bobl sydd yn ymwneud â materion diogelwch cymunedol ar hyn o bryd, ceir archwaeth ar gyfer ymgynghori ar ryw lefel ynglŷn â sut mae mynd i’r afael â’r materion hyn yn lleol. Yn ychwanegol i hyn, mae’r cyhoedd yn awyddus i weld sut mae materion yn ymwneud â diogelwch cymunedol yn cael eu trafod yn lleol, gyda’r mwyafrif ar hyn o bryd yn cael mynediad at wybodaeth ar-lein. Dylid datblygu ymagweddau sydd mewn gwirionedd yn meithrin y parodrwydd hwnnw a fynegwyd gan rhai i roi mewnbwn i sut y dylid mynd i’r afael â materion o ddiogelwch cymunedol yn lleol.
Cynigion: Rhannu gwybodaeth rhwng CSPau a PCCau
Ar hyn o bryd mae Deddfwriaeth a Rheoliadau yn amlinellu’r gofynion a ddisgwylir o CSPau a’u grwpiau strategaeth yng Nghymru a Lloegr.[footnote 6]. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhaid i’r CSPau yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio’r swyddogaethau a ddatganolir i Gymru, dalu sylw priodol i amcanion heddlu a throsedd fel yr amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throsedd;
- yng Nghymru a Lloegr, mae’n ofynnol i gael grŵp strategaeth ar gyfer pob ardal llywodraeth leol;
- cyfansoddir y grŵp strategaeth o o leiaf dau neu fwy o bobl a benodwyd gan un neu fwy o awdurdodau cyfrifol yr ardal;
- mae gofyn i’r grŵp strategaeth gynhyrchu asesiad strategol yn flynyddol ar ran yr awdurdodau cyfrifol;
- mae’n ofyniad hefyd ar y grŵp strategaeth i gynhyrchu cynllun partneriaeth ac i gyhoeddi crynodeb o hyn mewn ffurf mae’n teimlo sydd yn briodol;
- rhaid i’r grwpiau strategaeth yn Lloegr anfon copi o’r cynllun partneriaeth i’w Comisiynydd; a’r
- mae’n rhaid i’r PCC neu Swyddfa’r Maer ar gyfer Plismona a Throsedd, a chyrff sydd yn aelodau o’r PSPau, gydweithio wrth weithredu eu swyddogaethau unigol, ac eithrio swyddogaethau a ddatganolir i Gymru.
Mae Rhan 1 o’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn ynglŷn â newidiadau y gellir eu gwneud i’r Cynllun Asesu a Phartneriaeth Strategol. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:
- p’un a ddylai fod yna ofyniad newydd ar gyfer yr Asesiad Strategol i gynnwys manylion ynglŷn â sut mae’r CSP wedi darparu ei Gynllun Heddlu a Throsedd;
- p’un a ddylai grwpiau strategaeth anfon yr Asesiad Strategol i’w PCC;
- p’un a ddylai grwpiau strategaeth yng Nghymru anfon eu Cynllun Partneriaeth i’r PCC;
- p’un a ddylai PCCau arddangos eu bod wedi talu sylw priodol i flaenoriaethau’r awdurdodau cyfrifol syddyn ffurfio’r PCCau yn eu hardal plismona; a
- p’un a ddylai CSPau gyhoeddi eu hasesiad strategol.
Mae’r newidiadau a ymgynghorir yn eu cylch yn Rhan 1 o’r ddogfen yn cael eu hystyried er mwyn ymochri gwaith y CSPau a’r PCCau’n agosach. Credwn gall y gofyniad posib i’r Asesiad Strategol gyfeirio at sut mae’r Bartneriaeth wedi darparu ei Chynllun Heddlu a Throsedd PCC, gryfhau’r berthynas rhwng y CSPau a’r PCCau drwy gael mwy o ffocws ar y cysylltiadau sydd rhwng blaenoriaethau’r PCCau a gwaith y CSPau i’w darparu.
Ystyriwn y gallai Comisiynwyr elwa o dderbyn eu Hasesiad Strategol drwy allu cael mynediad at ac adolygu data ar lefel leol. Gallai Comisiynwyr ddeall mwy ynglŷn â sut mae eu blaenoriaethau, yn unol â sut y cânt eu hamlinellu yn y Cynllun Heddlu a Throsedd, eu darparu ar lefel leol. Hefyd, gellir eu gwneud yn ymwybodol o faterion posib yn ymwneud â darparu’r blaenoriaethau hynny ac unrhyw agweddau perthnasol eraill o ddiogelwch cymunedol yn eu hardaloedd. Lle bydd Comisiynwyr wedi’u diweddaru’n well ac yn cymryd y data hwn i ystyriaeth, gall gweithgarwch lleol a rhanbarthol i fynd i’r afael â throsedd ac anrhefn adlewyrchu pryderon y cymunedau lleol yn well.
Lle bydd Partneriaethau’n cyhoeddi eu hasesiad strategol, gall hyn gynyddu gwelededd y CSPau a’u gweithgarwch i’r cyhoedd. Gallai hyn gynorthwyo cymunedau lleol i ddeall lefelau trosedd ac anrhefn yn eu hardaloedd a’r camau a gymerir i gyfeirio atyn nhw yn well.
Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau canlynol a amlinellir yn y papur ymgynghori hwn.
Holiadur: Rhan 1
1. Ydych chi’n credu dylai’r asesiad strategol gynnwys manylion ynglŷn â sut mae’r CSP wedi darparu ei Chynllun Heddlu a Throsedd PCC?
Ydw / Nac Ydw / Ddim yn gwybod
2. Ydych chi’n credu y dylai grŵp strategaeth y CSP anfon copi o’i hasesiad strategol i’w PCC?
Ydw / Nac Ydw/ Ddim yn Gwybod
3. Ydych chi’n credu y dylai CSPau gyhoeddi eu hasesiad strategol a/neu grynodeb gweithredol o’u hasesiad strategol?
Ydw (Asesiad Strategol llawn)/ Ydw (crynodeb gweithredol o’r Asesiad Strategol ) / Ydw (Asesiad Strategol llawn a chrynodeb gweithredol) Nac Ydw / Ddim yn Gwybod
4. Ydych chi’n credu y dylai grwpiau strategaeth CSP yng Nghymru anfon copi o’u cynllun partneriaeth i’w PCC? Os nad ydych chi’n gweithredu mewn cyd-destun Cymreig byddwch cystal â dewis ‘Ddim yn berthnasol’
Ydw / Nac Ydw/ Ddim yn Gwybod / Ddim yn Berthnasol
5. Ydych chi’n credu y dylai PCCau arddangos eu bod wedi talu sylw priodol i flaenoriaethau’r awdurdodau cyfrifol syddyn ffurfio’r PCCau yn eu hardal plismona?
Ydw / Nac Ydw/ Ddim yn Gwybod
6. Yn eich barn chi, pa gamau eraill gellid eu cymryd i wella’r ffordd mae PCCau yn gweithio gyda CSPau?
Testun Agored (Terfyn o 250 o eiriau)
7. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei roi i gefnogi’r atebion a roesoch i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (Terfyn o 250 o eiriau)
Cynigion: Atebolrwydd CSPau
Does dim gofynion ar hyn o bryd ar y PCCau i adolygu asesiad strategol y CSPau. Yn gymaint ag mae rhan 1 o’r ymgynghoriad yn chwilota p’un a yw’r asesiad strategol yn cynnwys manylion ynglŷn â sut mae’r CSP wedi talu sylw priodol i’r Cynllun Heddlu a Throsedd, mae rhan 2 yn canolbwyntio ar p’un a ddylai PCCau allu adolygu a yw’r gweithgarwch a ymgymerir gan CSP wedi cyfrannu tuag at ddarpariaeth effeithiol o’r Cynllun hwnnw. Dengys ganlyniadau’r arolwg cyhoeddus a fanylir uchod bod y cyhoedd yn pryderu ynglŷn â throsedd ac anrhefn ac Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol ond fod ganddyn nnhw lefelau isel o hyder yn y modd caiff y materion hyn eu trin. Mae’r rhan hon o’r ymgynghoriad yn gwahodd barn ynglŷn â ph’un a fyddai cryfhau atebolrwydd CSPau i PCCau yn gwella darpariaeth deillianau mwy effeithiol ar gyfer y cyhoedd. Yn ogystal â rhoi cyfle i’r PCC chwilota’n fanwl i sut mae eu hamcanion yn cael eu darparu, gan roi’r pŵêr i’r Comisiynwyr wneud argymhellion ynglŷn â gweithgarwch CSPau a allai roi mwy o eglurder i’r Partneriaethau ynglŷn â blaenoriaethau strategol, fyddai’n mwyhau eu darpariaeth a’u gweithgarwch.
Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau canlynol a amlinellir yn y papur ymgynghori hwn.
Holiadur: Rhan 2
8. Ydych chi’n credu y dylai fod gan PCCau ran fwy gweithgar wrth ryngweithio gyda CSPau er mwyn gyrru darpariaeth y blaenoriaethau yn eu Cynlluniau Heddlu a Throsedd? Byddwch cystal â rhoi unrhyw destun ychwanegol i gefnogi eich ateb.
Ydw / Nac Ydw/ Ddim yn Gwybod
Testun Agored (Terfyn o 250 o eiriau)
9. Ydych chi’n credu y dylai fod gan PCCau bŵer i adolygu asesiad strategol y CSPau?
Ydw / Nac Ydw/ Ddim yn Gwybod
10. Ydych chi’n credu dylai fod gan PCCau bŵer i wneud argymhellion ynglŷn â gweithgarwch CSPau i gefnogi darpariaeth yr amcanion a osodir yn y Cynllun Heddlu a Throsedd a thywys gweithgarwch y Partneriaethau er mwyn sicrhau darparu gwell deillianau ar gyfer cymunedau lleol?
Ydw / Nac Ydw/ Ddim yn Gwybod
11. Os mai ‘Ydw’ oedd eich ateb i gwestiwn 10, ydych chi’n credu y dylai hi fod yn ofynnol ar CSPau i gymryd yr argymhellion hynny i ystyriaeth? Os mai ‘Nac Ydw’ neu ‘Ddim yn Gwybod’ oedd eich ateb i Gwestiwn 10, byddwch cystal â dewis ‘Ddim yn Berthnasol’
Ydw / Nac Ydw/ Ddim yn Berthnasol
12. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei roi i gefnogi’r atebion a roesoch i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (Terfyn o 250 o eiriau)
13. Os oes yna unrhyw wybodaeth bellach yr ydych yn credu y dylid ei gymryd i ystyriaeth, rhowch fanylion os gwelwch yn dda:
Testun Agored (250 o eiriau)
Cynigion: Perthynas y CSP a’r PCC wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol yn un o flaenoriaethau pob PCC erbyn hyn yn eu Cynlluniau Heddlu a Throsedd. Fodd bynnag, cyfyng yw’r berthynas rhwng y strategaethau lleol a ddatblygir gan y CSPau a’r Cynlluniau Heddlu a Throsedd hyn. Rydym yn ystyried byddai annog ymagwedd gydlynol rhwng dwy asiantaeth leol hanfodol yn rhoi PCCau mewn sefyllfa gryfach i allu herio asiantaethau lleol, ymochri strategaethau ASB lleol i’w Cynllun Heddlu a throsedd a chadw’r CSP yn atebol ar gyfer darparu’r deillianau gorau ar gyfer dioddefwyr Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol. Tra bydd yn rhaid ymgynghori â PCCau pan fydd y broses Adolygu Achos ASB wedi ei sefydlu a phan gaiff ei adolygu, does ganddyn nhw ddim trosolwg ffurfiol o’r Adolygiad Achos ASB. Mae’r modd y gweithredir yr Adolygiad Achos ASB yn amrywio o ardal i ardal, ac mae’n amlwg, yn gyffredinol, nad yw PCCau yn cymryd rhan yn y broses Adolygu Achos ASB a sefydlwyd gan y CSPau. Mae’r Adolygiad Achos ASB yn offeryn hanfodol sydd ar gael i ddioddefwyr Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol a thrwy sefydlu rôl y PCC yn ei weithrediad, gall dioddefwyr ddisgwyl gwell gwasanaeth pan fyddant yn codi adolygiad achos ffurfiol.
Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau canlynol a amlinellir yn y papur ymgynghori hwn.
Holiadur: Rhan 3
14. Sut (os o gwbl) mae eich PCC lleol yn gweithio ar hyn o bryd gyda’ch CSP wrth roi’r Adolygiad Achos ASB ar waith
Aml ddewis:
Yn archwilio adolygiadau achos blaenorol
Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r broses
Yn mynychu cyfarfodydd adolygu achos fel parti annibynnol
Yn ymgynull y cyrff perthnasol i ymgymryd â’r Adolygiad Achos ASB
Yn cynnig trywydd i ddioddefwyr allu ymholi ynglŷn â phenderfyniadau a wnaed yn yr Adolygiad Achos ASB
Yn cynnig cyfarwyddyd i’r cyrff perthnasol ar y broses Adolygu Achos ASB
Yn monitro’r defnydd a wneir o’r Adolygiad Achos ASB i adnabod dysgu ac ymarfer gorau
Dydy’r PCC ddim yn cymryd unrhyw ran yn y broses Adolygu Achos ASB
Ddim yn gwybod
Arall – byddwch cystal â manylu (yn agored)
15. Pa werth ychwanegol (os o gwbl) ydych chi’n credu gallai eich PCC lleol gynnig i’r broses Adolygu Achos ASB?
Aml ddewis:
Archwilio adolygiadau achos blaenorol
Hyrwyddo ymwyboddiaeth o’r broses
Mynychu cyfarfodydd adolygu achos fel parti annibynnol
Ymgynull y cyrff perthnasol i ymgymryd â’r Adolygiad Achos ASB
Cynnig trywydd i ddioddefwyr allu ymholi ynglŷn â phenderfyniadau a wnaed yn yr Adolygiad Achos ASB
Cynnig cyfarwyddyd i’r cyrff perthnasol ar y broses Adolygu Achos ASB
Monitro’r defnydd a wneir o’r Adolygiad Achos ASB i adnabod dysgu ac ymarfer gorau
Dydw i ddim yn credu y dylai’r PCC gymryd unrhyw ran yn y broses Adolygu Achos ASB
Mae PCCau eisoes yn gwneud digon i gefnogi’r broses Adolygu Achos ASB
Ddim yn gwybod
Arall - byddwch cystal â manylu (yn agored)
16. Sut (os o gwbl) mae eich CSP yn ymgysylltu â’r PCC ar strategaeth a data ASB?
Mae’n cynnig data ar y nifer o ddigwyddiadau ASB a gafodd eu riportio
Mae’n cynnig data ar y mathau o ddigwyddiadau ASB a gafodd eu riportio
Mae’n cynnig data ar ba asiantaeth neu sefydliad fydd yn derbyn adroddiadau
Mae’n cynnig data ar y nifer o weithiau bydd cais yn cael ei wneud am Adolygu Achos ASB
Mae’n cynnig data ar ddeillianau Adolygiadau Achos ASB
Mae’n ymgysylltu drwy gyfrwng ymgynghoriadau er mwyn goleuo strategaeth ASB
Mae’n cynnig diweddariadau cynnydd ar weithredu’r strategaeth
Mae’n cynnig gwerthusiadau neu ganlyniadau ymyrraethau strategaeth
Mae’n cynnig data ar ble fydd achosion o ASB yn digwydd/mannau problemus
Nid yw fy CSP yn ymgysylltu ar hyn o bryd gyda’r PCC ynglŷn â strategaeth na data ASB
Ddim yn gwybod
Arall - byddwch cystal â manylu (yn agored)
17. Pa ddata a gwybodaeth ynglŷn â strategaeth ASB (os o gwbl) sydd ar gael i’w rannu rhwng CSPau a PCCau?
Data ynglŷn â’r nifer o ddigwyddiadau ASB a riportiwyd
Data ynglŷn â’r mathau o ddigwyddiadau ASB a riportiwyd
Data ar ble fydd achosion o ASB yn digwydd/mannau problemus
Data ar ba asiantaeth neu sefydliad fydd yn derbyn adroddiadau
Data ar y nifer o weithiau bydd datrysiadau/pwerau yn cael eu defnyddio
Mae’n cynnig data ar y nifer o weithiau bydd cais yn cael ei wneud am Adolygu Achos ASB
Data ar ddeillianau Adolygiadau Achos ASB
Diweddariadau cynnydd ar weithredu’r strategaeth
Gwerthusiadau neu ganlyniadau ymyrraethau strategaeth
Does dim byd ar gael i’w rannu rhwng CSPau a PCCau ynglŷn â strategaeth na data
Ddim yn gwybod
Arall - byddwch cystal â manylu (yn agored)
Cynigion: Pwerau Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol
Mae mynd i’r afael ag ASB yn gofyn am ymagwedd aml-asiantaeth a, drwy Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, bydd gan yr asiantaethau perthnasol set o offer a phwerau i allu mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPOau), pwerau gwasgaru a phwerau cau. Drwy Ddeddf Diwygio Heddlu 2002, mae’r Cynllun Achredu Cymunedol yn creu fframwaith i gyrff cyhoeddus a phreifat i weithio mewn partneriaeth â’r heddlu, gan roi presenoldeb ychwanegol mewn lifrai yn y cymunedau a manteisio ar y sgiliau a gwybodaeth sydd gan y sawl sydd eisoes wedi ymgysylltu â’r gymuned. Er bod gan yr heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yr awdurdod eisoes i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, dydyn nhw ddim yn eu defnyddio’n gyson, na digon, ar adegau. Rydym yn ymgynghori ynglŷn â newidiadau i’r offer a’r pwerau i sicrhau ymateb cryfach. Rydym yn ymwybodol fod yna nifer o offer ac ymyraethau anffurfiol gall ymarferwyr eu defnyddio cyn rhoi’r pwerau sydd ar gael yn Neddf 2014 ar waith. Dymunwn sicrhau, os bydd Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol yn gwaethygu ar ôl defnyddio ymyrraethau anffurfiol, bydd y pwerau sydd ar gael mor effeithiol ag y gallant fod. Gellir cyflawni hyn drwy adolygu ac ehangu’r pwerau lle bo angen.
Yn ei araith ddiweddar[footnote 7], amlinellodd y Prif Weinidog fod mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol a chreu cymunedau cryfach a mwy diogel yn flaenoriaeth allweddol ganddo dros y misoedd nesaf. Drwy gyfrwng y Cynllun Gwaith ASB, rydym wedi ymrwymo i roi cyfarwyddyd ac ymgynghori ychwanegol ar wella sawl un o bwerau’r ASB, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n effeithiol.
Mae Profi am Gyffuriau ar Gael ei Arestio (DToA) yn fodd o adnabod defnyddwyr heroin, cocaine, a crack cocaine o’r sawl a arestiwyd am ystod o droseddau meddiannu yn bennaf (fel dwyn neu ladrad). Yn dilyn prawf cyffuriau cadarnhaol, gall fod gofyn ar yr unigolyn i fynychu asesiad cyffuriau cychwynnol, ac fe allai methu â mynychu hwnnw arwain at gyhuddiad pellach. Bydd y drosedd wreiddiol a arestiwyd yr unigolyn amdani yn parhau drwy’r system cyfiawnder troseddol. Mae DToA yn helpu i adnabod y sawl lle gallai eu defnydd o gyffuriau fod yn gysylltiedig â’u troseddolrwydd. Mae felly’n cynnig cyfle i drin a lleihau eu defnydd o gyffuriau, ac o bosib lleihau troseddu yn y dyfodol, drwy eu helpu i newid eu hymddygiad. Bydd hyn yn aros wrth galon ein hymagwedd tuag at DToA yn y dyfodol.
Gan fod ein ffocws ar fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy’n gysylltiedig â chymryd cyffuriau a lleihau’r galw am gyffuriau, rhaid i ni gymryd pob cyfle i gyrraedd unigolion a chynnig yr ymyrraethau cywir. Mae felly’n bwysig i ystyried DToA gyfochr â mesurau eraill a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn, er mwyn sicrhau fod gan yr heddlu’r pwerau angenrheidiol i fynd i’r afael ag ASB sy’n gysylltiedig â chyffuriau, a chreu cymunedau cryfach a mwy diogel.
Byddem yn croesawu ymatebion i’r cwestiynau canlynol a amlinellir yn y papur ymgynghori hwn.
Holiadur: Rhan 4
Pwerau gwasgaru
18. Ar hyn o bryd dim ond yr heddlu all godi Pwerau Gwasgaru. A ddylid ymestyn y pwerau hyn i awdurdodau lleol?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
19. Ar hyn o bryd, gellir codi Pwerau Gwasgaru am hyd at 48 awr yn unig. A ddylid cynyddu’r pŵer yma hyd at 72 awr?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
20. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei gyflwyno i gefnogi eich atebion i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (250 o eiriau)
Pwerau profi am gyffuriau
21. Ar hyn o bryd mae gan yr heddlu’r pŵêr i orfodi unigolion a arestiwyd i gael prawf cyffuriau pan fyddant yn y ddalfa. Ydych chi’n credu y dylid ymestyn y pwerau hyn i ganiatau’r heddlu i brofi am gyffuriau allan i’r ddalfa, fel mewn mannau cyhoeddus? - Dylid - Na - Ddim yn gwybod
22. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei gyflwyno i gefnogi eich atebion i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (250 o eiriau)
Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus a Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned
23. Ar hyn o bryd dim ond awdurdodau lleol all godi Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned. A ddylid ymestyn y pŵer hwn i’r heddlu?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
24. Ar hyn o bryd gall awdurdodau lleol gyhoeddi Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar ôl ymgynghori â’r heddlu, PCC, perchennog neu feddiannydd tir yn yr ardal gyfyngedig a chynrychiolwyr cymunedol eraill y maent yn eu gweld yn dda. Os yw PSPOs yn cael eu hymestyn i’r heddlu a ddylai’r gofynion ymgynghori aros yr un fath? Os ateboch chi ‘Na’ neu ‘Ddim yn gwybod’ i’r cwestiwn uchod, dewiswch ‘Ddim yn berthnasol’
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
Ddim yn Berthnasol
25. Ar hyn o bryd gellir rhoi Hysbysiad Gwarchod y Gymuned i unrhyw berson 16 oed a throsodd, lle gall pwerau fel y Waharddeb Sifil a’r Ymddygiad Troseddol gael eu defnyddio gyda chyflawnwyr troseddau iau. A ddylid gostwng y terfyn oedran ar gyfer Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
26. Pe bai’r terfyn oedran yn cael ei ostwng ar gyfer Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, i ba oedran y dylid gwneud hynny? Os mai ‘Nac Ydw’ neu ‘Ddim yn Gwybod’ oedd eich ateb i Gwestiwn 21, byddwch cystal â dewis ‘Ddim yn Berthnasol’
10
11
12
13
14
15
Ddim yn gwybod
Ddim yn Berthnasol
27. Ar hyn o bryd £100 yw terfyn uchaf Hysbysiad Cosb Sefydlog ar gyfer torri Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned a Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus. A ddylid cynyddu’r terfyn uwch i £500?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
28. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei gyflwyno i gefnogi eich atebion i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (250 o eiriau)
Pwerau cau
29. Ar hyn o bryd gellir gwneud cais am Orchmynion Cau dim hwyrach na 48 awr yn dilyn cyflwyno Hysbysiad Cau drwy’r llysoedd. A ddylid ymestyn y cyfnod amser hwn hyd at 72 awr?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
30. Ar hyn o bryd dim ond yr heddlu ac awdurdodau lleol all wneud cais am Hysbysiadau Cau a Gorchmynion Cau. A ddylid ymestyn y pŵer hwn i ddarparwyr tai cofrestredig? - Dylid - Na - Ddim yn gwybod
31. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei roi i gefnogi’r atebion a roesoch i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (250 o eiriau)
Gwaharddebau Sifil
32. Ar hyn o bryd does dim pŵêr arestio ar gael, heb ddefnyddio bygythiad o drais neu risg sylweddol o niwed, wrth orfodi Gwaharddeb Sifil. A ddylid ymestyn y pŵêr i arestio i bob achos o dorri Gwaharddeb Sifil?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
33. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei roi i gefnogi’r atebion a roesoch i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (250 o eiriau)
Cynllun Achredu Diogelwch Cymunedol
34. Mae’r Cynllun Achredu Diogelwch Cymunedol yn caniatáu Prif Gwnstabliaid i achredu pobl gyflogedig mewn swyddi sydd yn cyfrannu tuag at gynnal a gwella diogelwch cymunedol gyda phwerau cyfyngedig ond sydd wedi eu targedu. A ddylai’r ystod yma o bwerau gael eu hymestyn i gynnwys pwerau yn Neddf Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014?
Dylid
Na
Ddim yn gwybod
35. Pa arfau a phwerau ydych o’r farn y dylid eu cynnwys o Ddeddf Ymddygiad Gwrth-gymdeithasol, Trosedd a Phlismona 2014?
Pwerau Gwasgaru
Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus
Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned
Pwerau Cau
Gwaharddebau Sifil
Gorchmynion Ymddygiad Troseddol
Ddim yn gwybod
Ni ddylid cynnwys arfau a phwerau pellach
36. Oes gennych chi unrhyw wybodaeth yr hoffech ei roi i gefnogi’r atebion a roesoch i’r cwestiynau blaenorol?
Testun Agored (250 o eiriau)
Amdanoch chi
Defnyddiwch yr adran hon i ddweud wrthym amdanoch chi
Teitl swydd neu o dan ba allu yr ydych yn ymateb i’r ymarfer ymgynghorol hwn (er enghraifft, aelod o’r cyhoedd)
PCC neu Swyddfa’r PCC
Aelod o Gyngor Penaethiaid Heddlu Cenedlaethol
Cynrychiolydd yr Heddlu
CSP Dosbarth – ar ran y CSP cyfan
CSP Sir – ar ran y CSP cyfan
CSP Bwrdeistref – ar ran y CSP cyfan
CSP Unedol – ar ran y CSP cyfan
Aelod unigol - CSP Dosbarth (byddwch cystal â nodi’r awdurdod cyfrifol rydych yn ei gynrychioli)
Aelod unigol - CSP Sir (byddwch cystal â nodi’r awdurdod cyfrifol rydych yn ei gynrychioli)
Aelod unigol - CSP Bwrdeistref (byddwch cystal â nodi’r awdurdod cyfrifol rydych yn ei gynrychioli)
Aelod unigol - CSP Unedol (byddwch cystal â nodi’r awdurdod cyfrifol rydych yn ei gynrychioli)
Cynrychiolydd sefydliad cenedlaethol
Aelod Awdurdod Lleol
Aelod Darparwr Tai
Aelod o’r cyhoedd
Arall (byddwch cystal â nodi)
Dyddiad
Cwmni /sefydliad enw (os yn berthnasol)
Ardal ddaearyddol lle mae’ch gwaith wedi ei leoli
Cymru a Lloegr
Lloegr yn unig
Cymru yn unig
Os hoffech i ni gydnabod derbyn eich ymateb, byddwch cystal â rhoi tic yn y blwch
(ticiwch y blwch os gwelwch yn dda)
Y cyfeiriad dylid anfon y gydnabyddiaeth, os yn wahanol i’r uchod
Os ydych yn gynrychiolydd grŵp, dywedwch wrthym enw’r grŵp a rhowch grynodeb o’r bobl neu’r sefydliadau rydych yn eu cynrychioli.
Manylion cyswllt a sut i ymateb
Byddwch cystal â chwblhau’r ymgynghoriad ar-lein neu anfon eich ymateb erbyn Mai 15 2023 i:
Y Tîm Adolygu CSP Review Team
Uned Strategaeth Trosedd a Pherfformiad y Swyddfa Gartref
5th Floor, Fry Building
2 Marsham Street
Llundain, SW1P 4DF
Cwynion neu sylwadau
Os oes gennych chi unrhyw gwynion neu sylwadau ynglŷn â’r broses ymgynghori, dylech ddod i gyswllt â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.
Copïau ychwanegol
Gellir dod o hyd i ffurfiau amgen o’r cyhoeddiad hwn ar https://www.gov.uk/government/consultations/community-safety-partnerships-review-and-antisocial-behaviour-powers neu drwy gysylltu â’r Swyddfa Gartref yn y cyfeiriad uchod.
Grwpiau cynrychioladol
Gofynnir i grwpiau cynrychioladol roi crynodeb o’r bobl a’r sefydliadau maen nhw’n eu cynrychioli pan fyddan nhw’n ymateb.
Cyfrinachedd
Gellir cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth a geir o fewn yr ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, yn unol â’r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf dyma’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA), y Ddeddf Gwarchod Data 2018 (DPA), Y Rheoleiddiad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR y DU) a’r Rheoleiddiadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Os hoffech i’r wybodaeth fyddwch chi’n ei roi i gael ei drin yn gyfrinachol, byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda, fod yna God Ymarfer statudol o dan yr FOIA sydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â hi ac sydd, ymhlith pethau eraill, yn ymwneud â rhwymedigaethau cyfrinachedd. O ystyried hyn, byddai’n help pe baech yn gallu egluro i ni pam yr ydych yn ystyried fod yr wybodaeth yr ydych wedi ei gyflwyno yn gyfrinachol. Os byddwn yn derbyn cais i ddatgelu gwybodaeth, byddwn yn ystyried eich eglurhad, ond allwn ni ddim rhoi sicrhad i chi y gellir cadw’r cyfrinachedd hynny ymhob amgylchiadau. Ni fydd ymwadiad cyfrinachedd a gynhyrchwyd gan eich system TG, yn ei hun, yn cael ei ystyried yn rhwymol ar y Swyddfa Gartref.
Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu eich data personol yn unol â’r DPA ac, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd hyn yn golygu na fydd eich data personol yn cael ei ddatgelu i drydydd parti.
Egwyddorion Ymgynghori
Amlinellir yr egwyddorion dylai adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill eu mabwysiadu ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn yr egwyddorion ymgynghori.
https://www.gov.uk/government/publications/consultation-principles-guidance
© Hawlfraint y Goron 2023
Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3
Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.
Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn https://www.gov.uk/government/consultations/community-safety-partnerships-review-and-antisocial-behaviour-powers
Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn:
Tîm Adolygu CSP
Y Swyddfa Gartref, Strategaeth Troseddu ac Uned Berfformio
5ed Llawr, Adeilad Fry
2 Stryd Marsham
Llundain, SW1P 4DF
-
Mae Partneriaid Iechyd yn cyfeirio at Fyrddau Gofal Integredig yn Lloegr a Byrddau Iechyd yng Nghymru. ↩
-
Defnyddir Gwasanaethau Prawf yn lle Darparwyr Prawf. ↩
-
Er symlrwydd, mae’r term PCC yn cyfeirio at y 39 Comisiynydd Heddlu a Throsedd (PCC), y pedwar Comisiynydd Heddlu, Tân a Throsedd (PFCC), a’r tri Maer sydd yn gweithredu swyddogaethau PCC. ↩
-
Ystyr Asesiad Strategol yw asesiad a gafodd ei baratoi yn unol â rheoliadau 5, 6 a 7 o Reoliadau Trosedd ac Anrhefn (Fformiwleiddio a Gweithredu Strategaeth) 2007 Cymru a Lloegr. Mae cynllun Partneriaeth yn golygu cynllun partneriaeth a gafodd ei baratoi o dan reoliadau 10 ac 11 o Reoliadau Trosedd ac Anrhefn (Fformiwleiddio a Gweithredu Strategaeth) 2007 Lloegr o dan reoliadau 8 a 9 o’r Rheoliadau cyfatebol yng Nghymru. ↩
-
Ystyr grŵp strategaeth yw grŵp a sefydlir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Trosedd ac Anrhefn (Fformiwleiddio a Gweithredu Strategaeth) 2007 Cymru a Lloegr. ↩
-
Araith Prif Weinidog y DU ar adeiladu gwell dyfodol: Ionawr 4, 2023 - GOV.UK (www.gov.uk) ↩