Open consultation

Consultation document: Welsh

Published 18 March 2025

Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd): adrodd gorfodol am fwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd 

Ymgynghoriad y Llywodraeth 

Ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn 

Ymholiadau i 

Cyfeiriad post:

Uned Cydraddoldeb Hil

Swyddfa’r Cabinet

1 Horse Guards Road

Llundain

SW1A 2HQ

E-bostio: equalitybill@cabinetoffice.gov.uk

Sut i ymateb

Rydym yn eich annog i ymateb ar-lein os yw’n bosibl.

Darllenwch ddogfen yr ymgynghoriad.

Yna cyflwynwch eich ymatebion ar-lein: arolwg ymgynghori Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) 

E-bostiwch equalitybill@cabinetoffice.gov.uk os:

  • hoffech chi ymateb trwy e-bost
  • oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill yn ymwneud â’r ymgynghoriad hwn gan gynnwys ceisiadau am y ddogfen mewn fformat arall.

Os hoffech chi ymateb trwy’r post, nodwch eich gohebiaeth ‘Ymateb ymgynghoriad Bil Cydraddoldeb’ a’i anfon i’r cyfeiriad post.

Darparu mwy nac un ymateb

Gallwch ddarparu mwy nac un ymateb i’r ymgynghoriad. Er enghraifft, os ydych yn sefydliad undeb llafur, gallech ddarparu dau ymateb ar wahân - un ymateb fel sefydliad cynrychioladol ac un ymateb fel cyflogwr. Fel arall, os ydych chi’n unigolyn sy’n cynrychioli sefydliad neu rwydwaith, gallech ddymuno cwblhau un ymateb ar ran eich sefydliad ac ymateb arall sy’n adlewyrchu eich barn bersonol eich hun. 

Os oes gennych unrhyw gŵynion neu sylwadau am y broses ymgynghori dylech gysylltu â Swyddfa’r Cabinet. 

Copïau ychwanegol a fformatau amgen

Mae fformatau amgen o’r ymgynghoriad hwn ar gael ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:

  • BSL 
  • Cyfieithiad Cymraeg
  • Hawdd i’w Ddarllen
  • Print bras
  • PDF a HTML y gellir eu gweld dros y we
  • Sain 

Cysylltwch â ni am gopïau papur neu fformatau amgen o’r ddogfen ymgynghori hon.

Mae Braille a CD Sain ar gael hefyd ar gais. 

Gellir gwneud ceisiadau am fformatau amgen trwy’r post, e-bost neu deleffon ar 0808 175 6420

Rhagair gan y Gweinidog 

Etholwyd y llywodraeth hon i gyflawni newid. I wella bywydau gweithwyr a chryfhau ein gwlad. Mae ein Cynllun ar gyfer Newid yn nodi’r cerrig milltir uchelgeisiol – ond cyraeddadwy – yr ydym yn anelu at eu cyrraedd erbyn diwedd y Senedd hon. 

Elfen hanfodol o bob un o’r pum gorchwyl, ac yn enwedig ein perderfyniad i dyfu ein heconomi, yw ein hymrwymiad i greu cymdeithas fwy cydradd lle gall pobl ffynnu beth bynnag y bo’u cefndir. Mae’r realiti ar hyn o bryd yn bell o’r nod hwnnw. Er enghraifft, ar hyn o bryd mae’r rhan fwyaf o grwpiau ethnig leiafrifol yn ennill llai ar gyfartaledd na’u cymheiriaid Gwyn Prydeinig. Yn yr un modd, er bod twf wedi bod mewn cyfraddau cyflogaeth i bobl anabl yn y blynyddoedd diweddar, mae gan bobl anabl, ar gyfartaledd, incymau is na phobl sydd ddim yn anabl. Er i lywodraethau Llafur y gorffennol gyflwyno’r Ddeddf Cyflog Cyfartal 1970 a’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn ogystal â deddfwriaeth arall yn ymwneud â chydraddoldeb, mae rhagor yn aros i gael ei wneud. 

Cyhoeddodd y maniffesto ac Araith y Brenin ein bwriad i ddeddfu i gyflwyno adroddiadau gorfodol ar fwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd ar gyfer cyflogwyr mwy. Mae’r ymrwymiad pwysig hwn, a gyhoeddwyd fel rhan o’r Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd), yn ceisio creu cymdeithas fwy cyfartal a chefnogi economi sy’n tyfu.

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn ein helpu i lunio’r ddeddfwriaeth ddrafft.

Dyma ddechrau’r broses a byddwn yn ymgysylltu ymhellach, gan gynnwys cyhoeddi galwad am dystiolaeth fel rhan o’n dull cydgysylltiedig, cymunedol o ddatblygu polisi, i lywio rhannau eraill o’r Bil, gan gynnwys gwneud yr hawl i gyflog cyfartal yn effeithiol ar gyfer lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl.

Y Gwir Anrhydeddus Syr Stephen Timms AS, Gweinidog Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd

Seema Malhotra AS, Gweinidog Cydraddoldebau

Cyflwyniad

Pwrpas

Mae’r llywodraeth yn lansio’r ymgynghoriad hwn i geisio barn ar y mesurau mae’n cynnig eu cynnwys yn y Bil (y ‘bil’) Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd) sydd i ddod ar gyflwyno adroddiadau gorfodol ar fylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd ar gyfer cyflogwyr mawr. 

Mae ‘cyflogwyr mawr’ a ‘chyrff cyhoeddus mawr’ yn rhai â 250 neu fwy o gyflogeion.

Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn cael eu defnyddio i ffurfio ein camau nesaf ar ddatblygu a drafftio deddfwriaeth. 

Rydym yn gwahodd ymatebion gan unrhyw un sydd â diddordeb yn y materion hyn. Rydym yn croesawu barn yn neilltuol gan y rheini a all gael eu heffeithio fwyaf gan y mesurau gwahanol, gan gynnwys:

  • cyflogwyr
  • cyrff sector cyhoeddus
  • rhanddeiliaid hil ac anabledd
  • pobl o grwpiau ethnig leiafrifol
  • pobl anabl
  • sefydliadau pobl anabl

Gall ymatebwyr ddarparu adborth ar yr holl feysydd polisi a amlinellir yn yr ymgynghoriad hwn neu ar bynciau penodol. 

Cefndir

Cyhoeddodd Araith y Brenin yng Ngorffennaf 2024 fwriad y llywodraeth i ddeddfu i gyflwyno adrodd gorfodol am fwlch ethnigrwydd ac anabledd i gyflogwyr mawr. Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar sut y gallai’r mesurau hyn gael eu gweithredu. Byddwn yn lansio galwad ar wahân am dystiolaeth yn ceisio barn ar wneud yr hawl i wneud cyflog cyfartal yn effeithiol ar gyfer lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl a meysydd eraill o gyfraith cydraddoldeb.

Mae adrannau’r ymgynghoriad hwn ar adrodd am dâl anabledd wedi cael eu llunio gan yr ymgynghoriad adrodd gweithlu anabl 2021 i 2022. Gallwch weld canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn yn Atodiad B. Bydd y llywodraeth yn amlinellu rhagor o fanylion ar ein blaenoriaethau anabledd ehangach ar ôl i ni ymgysylltu’n agosach â phobl anabl a’u sefydliadau cynrychioladol. Mae hyn yn unol â’n hymrwymiad maniffesto i sicrhau bod eu barn a’u lleisiau wrth galon popeth a wnawn. 

Estyn adrodd yn orfodol am fwlch cyflog i ethnigrwydd ac anabledd

Mae cyflogwyr mawr ledled Prydain Fawr wedi cael eu gofyn i adrodd am eu bwlch cyflog rhywedd ers 2017. Mae hyn wedi arwain at dryloywder helaethach i gyflogwyr a chyflogeion. Mae’n rhoi data pwysig i gyflogwyr hefyd i lunio’u gweithredoedd i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. 

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno adrodd gorfodol am fwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd i gyflogwyr mawr. Bydd hyn yn darparu’r un tryloywder ac impetws ar gyfer newid cadarnhaol i bobl o grwpiau ethnig gwahanol a phobl anabl. 

Rydym yn anelu at ddefnyddio fframwaith adrodd tebyg ar gyfer ethnigrwydd ac anabledd i’r hyn sydd eisoes mewn grym ar gyfer adrodd am fwlch cyflog rhywedd. Ond mae ystyriaethau unigryw hefyd ar gyfer ethnigrwydd ac anabledd, yn enwedig o ran casglu a dadansoddi data. 

Rydym yn ceisio barn ar y materion hyn i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn rhoi fframwaith eglur i gyflogwyr, sy’n arwain at ddata cadarn, ac y gellir ei fabwysiadu gan gyflogwyr ar draws sectorau gwahanol.

Cwestiwn 1:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am eu bylchau cyflog ethnigrwydd?

Cwestiwn 2:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am eu bylchau cyflog anabledd?

Cwmpas daearyddol 

Byddwn yn sefydlu y cwmpas daearyddol ar gyfer y mesurau hyn trwy:

  • ganfyddiadau’r ymgynghoriad hwn
  • trafodaethau parhaol â llywodraethau’r Alban a Chymru

Ar gyfer adrodd gorfodol am fwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd, rydym yn cynnig dilyn yr un ymagwedd ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd. Hynny yw, gorfodi adrodd gan:

  • gyflogwyr mawr sector preifat a gwirfoddol ym Mhrydain Fawr (Lloegr, Cymru a’r Alban)
  • cyrff sector cyhoeddus mawr yn Lloegr
  • awdurdodau cyhoeddus penodol yn gweithredu ledled Prydain Fawr mewn perthynas â swyddogaethau heb eu datganoli

Cwestiwn 3:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd gael yr un cwmpas daearyddol ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 4:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog anabledd gael yr un cwmpas daearyddol ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cyfrifiadau bwlch cyflog

Rydym yn awyddus i leihau unrhyw feichiau ychwanegol ar fusnesau trwy ddefnyddio’r un prosesau a systemau sydd eisoes mewn grym ar gyfer adrodd am fwlch cyflog rhywedd. 

Rydym yn cynnig gofyn i gyflogwyr adrodd am yr un set o fesurau bwlch cyflog ar gyfer ethnigrwydd ac anabledd. Mae hyn yn seiliedig ar adborth blaenorol gan gyflogwyr ac i sicrhau ymagwedd gyson.

Byddai hyn yn golygu adrodd ar: 

  • wahaniaethau cymedrig mewn tâl yr awr ar gyfartaledd 
  • wahaniaethau canolrifol mewn tâl yr awr ar gyfartaledd
  • chwarteri tâl – canran y cyflogeion mewn 4 grŵp o faint cyfartal, wedi’u gosod o dâl uchaf i isaf fesul awr
  • gwahaniaethau cymedrig mewn tâl bonws 
  • gwahaniaethau canolrifol mewn tâl bonws
  • canran y cyflogeion sy’n derbyn tâl bonws ar gyfer y nodwedd warchodedig berthnasol 

Cwestiwn 5:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr adrodd am yr un 6 mesur ar gyfer adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd ag ar gyfer adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 6:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr adrodd am yr un 6 mesur ar gyfer adrodd am fwlch cyflog anabledd ag ar gyfer adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Rydym hefyd yn cynnig ei gwneud yn orfodol i gyflogwyr adrodd ar:

  • y dadansoddiad cyffredinol o’u gweithlu fesul ethnigrwydd ac anabledd
  • Canran y cyflogeion na ddatgelodd eu data personol ar eu hethnigrwydd ac anabledd

Byddai’r data ychwanegol hyn yn rhoi cyd-destun i ffigurau bwlch cyflog ethgnigrwydd ac anabledd cyflogwr - er enghraifft, os oes ganddynt gyfraddau hunanddatgan gan eu cyflogeion ar y nodweddion hyn. Nid yw hyn yn fater ar gyfer adrodd am fwlch cyflog rhywedd gan fod gan gyflogwyr y data hyn eisoes at ddibenion tâl.

Yn yr un modd, gall rhai cyflogwyr fod wedi cynyddu’r nifer o weithwyr ethnig leiafrifol neu anabl yn ddiweddar, a allai gyfrannu ar fylchau cyflog mwy os yw pobl o’r grwpiau hyn yn ymuno ar lefel mynediad. Mae rhannu gwybodaeth am y gyfran o bobl ethnig leiafrifol neu anabl mewn gweithlu cyflogwr yn gallu helpu i adeiladu darlun eglurach am ymrwymiad cyffredinol cyflogwr i gynwysoldeb. 

Cwestiwn 7:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am ddadansoddiad ethnig o’u gweithlu?

Cwestiwn 8:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am ddadansoddiad o’u gweithlu fesul statws anabledd?

Cwestiwn 9:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod cyflwyno data ar y ganran o gyflogeion na ddatganodd eu hethnigrwydd?

Cwestiwn 10:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod cyflwyno data ar y ganran o gyflogeion na ddatganodd eu statws anabledd?

Cynlluniau gweithredu

Rydym hefyd yn ceisio barn ar a ddylai cyflogwyr gynhyrchu cynlluniau gweithredu ar gyfer adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd. Gall cynlluniau gweithredu helpu cyflogwyr i nodi pam mae ganddynt fwlch cyflog a sut maen nhw’n bwriadu ei gau. Gall cyflogwyr ddefnyddio cynlluniau gweithredu i esbonio’r rhesymau y tu ôl i unrhyw fylchau cyflog ac amlinellu’r camau maen nhw’n eu cymryd i wella cydraddoldeb yn eu gweithlu. Gall cyflogeion ddefnyddio’r cynlluniau hyn i ddeall y camau mae eu cyflogwr yn eu cymryd a’u dal i gyfrif.  Byddai cyflwyno cynlluniau gweithredu hefyd yn cydgyfeirio’n fras â chanfyddiadau’r ymgynghoriad 2021 i 2022 ar adrodd am weithlu anabl. Amlygodd hyn yr angen i ymarferion adrodd gael eu cynorthwyo gan gynlluniau i gynyddu cydraddoldeb gweithle. 

Cwestiwn 11:<\strong>

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr orfod cyflwyno cynllun gweithredu am yr hyn maen nhw’n ei wneud i wella cydraddoldeb gweithle ar gyfer cyflogeion ethnig leiafrifol? 

Cwestiwn 12:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr orfod cynhyrchu cynllun gweithredu am yr hyn maen nhw’n ei wneud i wella cydraddoldeb gweithle i gyflogeion anabl?

Gofynion adrodd ychwanegol i gyrff cyhoeddus

Rydym yn anelu at ofyn am ragor o wybodaeth gan gyrff cyhoeddus ar ethnigrwydd, yn ogystal â’r data a amlinellir uchod. Gallai hyn helpu i wella tryloywder ac atebolrwydd. 

Rydym wedi cynnwys cwestiynau ar a ddylai cyrff cyhoeddus mawr (rheini a 250 neu fwy o gyflogeion) adrodd am:

  • wahaniaethau cyflog ethnigrwydd fesul graddfa neu fandiau cyflog
  • data yn ymwneud â recriwtio, cadw a datblygiad fesul ethnigrwydd

Byddai’r gofynion ychwanegol hyn yn gymwys i gyrff cyhoeddus gan gynnwys:  

  • y rhan fwyaf o adrannau llywodraeth a chyrff hyd braich
  • y lluoedd arfog
  • awdurdodau lleol
  • cyrff GIG
  • prifysgolion
  • y rhan fwyaf o ysgolion, gan gynnwys academïau ac ymddiriedolaethau amlacademi

Gallwch weld rhestr lawn o gyrff cyhoeddus.

Gallai’r data hyn ddarparu tystiolaeth ychwanegol i helpu cyrff cyhoeddus nodi ble mae anghydraddoldebau hiliol yn parhau – megis rhwystrau rhag dyrchafiad neu ddatblygiad – a deall sut mae’r rhain yn perthyn i grwpiau gwanhanol. Mae hyn yn neilltuol o bwysig o ystyried y cynnydd mewn amrywiaeth ethnig a welir mewn gweithluoedd llawer o gyrff cyhoeddus mewn blynyddoedd diweddar. 

Cwestiwn 13:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd am wahaniaethau cyflog rhwng grwpiau ethnig fesul graddfa a/neu fandiau cyflog?

Cwestiwn 14:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul ethnigrwydd?

Cwestiwn 15:

Os oes rhaid i gyrff cyhoeddus adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul ethnigrwydd, pa ddata ydych chi’n meddwl y dylen nhw orfod adrodd amdanynt?

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn a ddylai’r gofynion adrodd ychwanegol hyn i gyrff cyhoeddus gael eu hestyn i anabledd.

Cwestiwn 16:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd ar wahaniaethau cyflog rhwng cyflogeion anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl, fesul graddfa a/neu fandiau cyflog?

Cwestiwn 17:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul anabledd?

Cwestiwn 18:

Os oes rhaid i gyrff cyhoeddus adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul anabledd, pa ddata ydych chi’n meddwl y dylen nhw orfod adrodd amdanynt?

Dyddiadau a therfynau amser

O dan reoliadau bwlch cyflog rhywedd, mae gan gyflogwyr mawr yn y sectorau preifat a gwirfoddol ledled Prydain Fawr ‘ddyddiad ciplun’ o 5 Ebrill bob blwyddyn i gasglu data cyflog gan eu cyflogeion. Mae’n rhaid iddynt adrodd am eu data bwlch cyflog o fewn 12 mis – erbyn 4 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Mae gan gyrff cyhoeddus yn Lloegr ddyddiad ciplun gwahanol (31 Mawrth) a therfyn amser adrodd o 30 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Cytunwyd ar y dyddiadau hyn ar ôl ymgysylltu helaeth â chyflogwyr a chawsant eu dylunio i gydgyfeirio â dyddiadau pwysig eraill ar gyfer adrodd am ddata (er enghraifft, diwedd y flwyddyn dreth ar gyfer cyflogwyr sector preifat a gwirfoddol, a diwedd y flwyddyn ariannol i gyrff cyhoeddus). 

Rydym yn cynnig defnyddio’r un 2 set o ddyddiadau wrth gyflwyno adrodd gorfodol am fwlch cyflog ar ethnigwydd ac anabledd, i sicrhau cysondeb ac i adlewyrchu’r adborth blaenorol y gwnaethom ei dderbyn oddi wrth gyflogwyr. Rydym hefyd yn cynnig bod cyflogwyr yn adrodd am eu bwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd ar-lein, mewn ffordd debyg i’r gwasanaeth bwlch cyflog rhywedd.

Cwestiwn 19:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd gael yr un dyddiadau adrodd ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 20:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog anabledd gael yr un dyddiadau adrodd ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 21:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai data bwlch cyflog ethnigrwydd gael eu hadrodd ar-lein mewn ffordd debyg i wasanaeth bwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 22:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai data bwlch cyflog anabledd gael eu hadrodd ar-lein mewn ffordd debyg i wasanaeth bwlch cyflog rhywedd?

Gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ar hyn o bryd yn gorfodi adrodd am fwlch cyflog rhywedd. Mae hyn yn cael ei ddisgrifio yn ei bolisi gorfodaeth. Rydym yn cynnig bod yr un polisi gorfodaeth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd ac anabledd.

Cwestiwn 23:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd gael yr un polisi gorfodaeth ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 24:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog anabledd gael yr un polisi gorfodaeth ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Ethnigrwydd: casglu a chyfrifiadau data

Casglu data

Y ffordd orau i gyflogwyr gasglu data ethnigrwydd yw gofyn i gyflogeion adrodd am eu hethnigrwydd eu hunain. Dylai fod opsiwn i optio allan o ateb, megis ‘gwell gennyf beidio â dweud’. Rydym yn cynnig y dylai cyflogwyr yng Nghymru a Lloegr gasglu data ethnigrwydd gan ddefnyddio’r dosbarthiadau ethnigrwydd manwl yn safon Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) wedi’i chysoni a gafodd eu defnyddio ar gyfer Cyfrifiad 2021 (gweler Atodiad C). 

Mae fformat y cwestiwn yn amrywio rhwng Lloegr, Gogledd Iwerddon[footnote 1], yr Alban a Chymru. Mae hyn oherwydd bod gan bob gwlad ei gofynion penodol ei hun mewn perthynas â data ethnigrwydd - er enghraifft, yng Nghymru, ‘Cymreig’ yw’r opsiwn cyntaf yn y categori ‘Gwyn’, Argymhellir felly bod yr ymagweddau penodol i wlad wedi’u cysoni yn cael eu defnyddio lle mae’n bosibl.

Gall defnyddio’r safonau wedi’u cysoni helpu:

  • cyflogfwyr i fod yn gyson â’u cyfrifiadau mewn cyfnodau gwahanol o amser
  • sicrhau cymharedd ar draws casgliadau data gwahanol a gynhyrchir gan y llywodraeth a chyflogwyr eraill 
  • cael ystadegau mwy defnyddiol sy’n rhoi lefel helaethach o ddealltwriaeth i bobl

Maen nhw hefyd yn darparu set o gwestiynau wedi’u profi a chyfreithiol gadarn parod i’w defnyddio.

Cwestiwn 25:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr gasglu data ethnigrwydd gan ddefnyddio’r safonau GSS wedi’u cysoni ar gyfer ethnigrwydd?

Cyfrifo ac adrodd am fylchau cyflog ethnigrwydd

Mae adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd ar ei fwyaf pwerus pan mae’n cipio dynameg ar draws grwpiau ethnig gwahanol ac rydym yn annog cyflogwyr i geisio dangos mesurau bwlch cyflog ar gyfer cymaint o grwpiau ethnig ag y gallant. Mae hyn oherwydd y gall rhai grwpiau ethnig fod yn ennill llawer mwy nac eraill. Bydd dadansoddi’r categorïau gwahanol yn rhoi darlun llawer cyfoethocach ac yn ffurfio cynlluniau gweithredu yn well. 

Fodd bynnag, i ddiogelu preifatrwydd cyflogeion (yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol - GDPR) ac i helpu cynhyrchu data ystadegol gadarn, rydym yn cynnig y dylai fod isafswm o 10 cyflogai mewn unrhyw grŵp ethnig sy’n cael ei ddadansoddi.

I ateb y trothwy hwn o 10 cyflogai, gallai fod rhaid i gyflogwyr ychwanegu rhai grwpiau ethnig at ei gilydd. Er bod llawer o ffyrdd gwahanol o wneud hyn, rydym yn cynnig bod cyflogwyr yn dilyn canllawiau ar ddata ethnigrwydd o Swyddfa’r Ystadegau Gwladol i sicrhau bod grwpiau mor gydlynol a chymaradwy â phosibl rhwng cyflogwyr, ac ar gyfer cyflogwr unigol dros amser. Dylai’r isafswm trothwy o 10 fod yn gymwys ar gyfer pob grŵp ethnig cydgasgledig sy’n cael ei ddadansoddi.

Os oes gan gyflogwr niferoedd lai o gyflogeion mewn grwpiau ethnig gwanahol, gallant adrodd am eu ffigurau ar gyfer 2 grŵp – er enghraifft, cymharu cyflogeion Gwyn Prydeinig â chyflogeion ethnig leiafrifol. Rydym yn galw hyn yn ‘ddosbarthiad deuaidd’ ac mae opsiynau ar gyfer sut i greu’r dosbarthiad deuaidd yn cael eu disgrifio isod. Os mai adrodd deuaidd yw’r unig gymhariaeth bosibl sydd ar gael i gyflogwr - oherwydd y byddai dangos unrhyw grwpiau ethnig eraill yn datgelu gwybodaeth am unigolion - rydym yn cynnig y dylai cyflogwyr gadw hyn o dan adolygiad ac anelu at adrodd am ragor o grwpiau ethnig yn y dyfodol. Mae hyn yn gallu bod yn rhan o’u cynllun gweithredu.

Gall cymhariaeth ddeuaidd helpu i gymharu data yn gyson dros amser felly rydym yn cynnig, fel isafswm, bod pob cyflogwr mawr yn adrodd ar y mesurau bwlch cyflog gan ddefnyddio cymhariaeth ddeuaidd. Fel yr amlinellwyd eisoes, rydym yn parhau i annog cyflogwyr i adrodd am wybodaeth bwlch cyflog am grwpiau ethnig manylach i wneud hynny. Bydd hyn yn eu helpu i ddeall amrediad ehangach o fylchau cyflog a allai fodoli yn eu sefydliad.

Rydym yn cynnig 3 opsiwn ar gyfer y dosbarthiad deuaidd. Rhoddir y rhain yn nhrefn dewis:

  • yn gyntaf, dylai cyflogwyr adrodd ar gymhariaeth rhwng y cyflogeion Gwyn Prydeinig a phob grŵp ethnig leiafrifol arall wedi’u cyfuno

  • yn ail, os nad yw cyflogwr yn casglu gwybodaeth ar gyflogeion yn y categori Gwyn Prydeinig penodol (neu fod llai na 10 cyflogai yn y categori hwn), dylent adrodd ar y gymhariaeth rhwng cyflogeion Gwyn a chyflogeion yn y grwpiau eraill wedi’u cyfuno

  • yn olaf, os oes gan gyflogwr lai na 10 cyflogai Gwyn Prydeinig neu Wyn, dylent adrodd ar y gymhariaeth rhwng y grŵp ethnig mwyaf yn y sefydliad a phob grŵp arall wedi’u cyfuno

Cwestiwn 26:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai pob cyflogwr mawr adrodd am fesurau bwlch cyflog ethnigrwydd gan ddefnyddio un o’r dosbarthiadau deuaidd fel isafswm?

Cwestiwn 27:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai fod o leiaf 10 o gyflogeion ym mhob grŵp ethnig yr adroddir arnynt? Byddai hyn yn osgoi datgelu gwybodaeth am gyflogeion unigol.

Cwestiwn 28:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr ddefnyddio canllawiau’r ONS ar ddata ethnigrwydd i gydgasglu grwpiau ethnig? Byddai hyn yn helpu i ddiogelu cyfrinachedd eu cyflogeion.

Cwestiwn 29:

Oes unrhyw beth arall rydych am ddweud wrthym am adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd?

Anabledd: casglu a chyfrifiadau data

Cymharu tâl ar draws grwpiau cyflogeion

Mae gwaith blaenorol ar adrodd am weithlu anabledd (gweler Atodiad B), ynghyd ag ymgysylltu cynharach ag academyddion, cyflogwyr a sefydliadau cymdeithas sifil, wedi nodi 2 ymagwedd at gyfrifo’r bwlch cyflog anabledd:

  1. Mesur y gwahaniaeth mewn tâl rhwng cyflogeion anabl a chyflogeion nad ydynt yn anabl – rydym yn galw hyn yn ‘ymagwedd ddeuaidd’.

  2. Mesur y gwahaniaeth mewn tâl rhwng cyflogeion â mathau gwahanol o nam a chyflogeion nad ydynt yn anabl. 

Cefnogodd rhai ymatebwyr adrodd ar fathau o nam, er enghraifft trwy ddefnyddio’r safon nam wedi’i chysoni GSS, fodd bynnag mae rhai risgiau arwyddocaol i’r fath ymagwedd os yw’n cael ei chymhwyso i fwlch cyflog neu adrodd am weithlu. Mae’r rhain yn cynnwys risg o unigolion yn dod yn adnabyddadwy, a chymhlethdod helaethach mewn cyfrifiadau lle mae gan bobl namau lluosog. Gallai’r materion hyn effeithio ar gydymffurfiaeth yn arwyddocaol ac effeithiolrwydd cyffredinol adrodd am fwlch tâl. Mae’n rhaid i hyn gael ei bwyso yn erbyn y fantais o ddefnyddio’r ymagwedd math o nam, sef, os gallai materion data gael eu goresgyn, byddai’n caniatáu am ddealltwriaeth fanylach o ba grwpiau o bobl anabl sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan faterion bwlch cyflog. Budd ymagwedd ddeuaidd yw ei bod yn lleihau’r risg o adnabod unigolion o ddata. Dylai ymagwedd symlach, ddeuaidd hefyd fod yn haws i gyflogwyr ei gweithredu a galluogi cydymffurfiaeth helaethach. 

Fel y cyfryw, rydym yn cynnig cymryd ymagwedd ddeuaidd, gan fesur y bwlch cyflog anabledd trwy gymharu cyflog cyflogeion anabl â chyflogeion nad ydynt yn anabl.

Mae’r llywodraeth yn cynnig defnyddio diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 o ‘anabledd’ fel sail adnabod cyflogeion anabl. Mae hyn yn sicrhau bod diffiniad cyson o ‘anabledd’ yn cael ei ddefnyddio ar draws mesurau’n ymwneud â chydraddoldeb. Mae gennym ddiddordeb yn eich barn ar y cynnig hwn.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae unigolyn yn anabl os oes ganddo gyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a thymor hir ar ei allu i wneud gweithgareddau dydd i ddydd arferol. O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, bernir bod cyflyrau meddygol penodol yn anableddau yn awtomatig. Yn yr achosion hyn gall unigolyn fod yn anabl hyd yn oed os yw’n gallu cyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol ar hyn o bryd. Diogelir pobl â chyflwr datblygol cyn gynted ag y cânt eu diagnosio. Am ragor o wybodaeth, gweler gwefan EHRC.

Bydd cyflogwyr yn gyfrifol am gasglu data ar anabledd yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd cyflogeion yn parhau i adrodd am anabledd eu hunain, ac ni fydd yn ofynnol iddynt trwy gyfraith nodi na datgelu anabledd i’w cyflogwyr o ganlyniad i gyflwyno adrodd am fwlch cyflog anabledd. 

Cwestiwn 30:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â defnyddio’r ymagwedd ‘ddeuaidd’ ( cymharu cyflog cyflogeion anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl) at adrodd am ddata bwlch cyflog anabledd?

Cwestiwn 31:

Oes gennych chi unrhyw adborth ar ein cynnig i ddefnyddio diffiniad Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ‘anabledd’ ar gyfer adrodd am fwlch cyflog?

I ddiogelu preifatrwydd cyflogeion (yn unol â GDPR) ac i sicrhau bod data yn ystadegol gadarn, rydym yn cynnig y dylai fod isfaswm o 10 cyflogai ym mhob grŵp yn cael eu cymharu o ran cyflog. 

Cwestiwn 32:

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai fod o leiaf 10 cyflogai ym mhob grŵp yn cael eu cymharu (er enghraifft, cyflogeion anabl neu heb fod yn anabl)? Byddai hyn yn osgoi datgelu gwybodaeth am gyflogeion unigol.

Cwestiwn 33:

Oes unrhyw beth arall rydych chi am ddweud wrthym am adrodd am fwlch cyflog anabledd?

Atodiad A: Rhestr lawn o gwestiynau’r ymgynghoriad

Estyn adrodd yn orfodol am fwlch cyflog i ethnigrwydd ac anabledd.

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am eu bylchau cyflog ethnigrwydd?

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am eu bylchau cyflog anabledd?

Cwmpas daearyddol

Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd gael yr un cwmpas daearyddol ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog anabledd gael yr un cwmpas daearyddol ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cyfrifiadau Bwlch Cyflog

Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr adrodd am yr un 6 mesur ar gyfer adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd ag ar gyfer adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 6: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr adrodd am yr un 6 mesur ar gyfer adrodd am fwlch cyflog anabledd ag ar gyfer adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 7: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am ddadansoddiad ethnig o’u gweithlu?

Cwestiwn 8: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod adrodd am ddadansoddiad o’u gweithlu fesul statws anabledd?

Cwestiwn 9: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod cyflwyno data ar y ganran o gyflogeion na ddatganodd eu hethnigrwydd?

Cwestiwn 10: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr orfod cyflwyno data ar y ganran o gyflogeion na ddatganodd eu statws anabledd?

Cynlluniau gweithredu

Cwestiwn 11: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr orfod cyflwyno cynllun gweithredu am yr hyn maen nhw’n ei wneud i wella cydraddoldeb gweithle ar gyfer cyflogeion ethnig leiafrifol? 

Cwestiwn 12: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr orfod cynhyrchu cynllun gweithredu am yr hyn maen nhw’n ei wneud i wella cydraddoldeb gweithle i gyflogeion anabl? 

Gofynion adrodd ychwanegol i gyrff cyhoeddus

Cwestiwn 13: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd am wahaniaethau cyflog rhwng grwpiau ethnig fesul graddfa a/neu fandiau cyflog?

Cwestiwn 14: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul ethnigrwydd?

Cwestiwn 15: Os oes rhaid i gyrff cyhoeddus adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul ethnigrwydd, pa ddata ydych chi’n meddwl y dylen nhw orfod adrodd amdanynt?

Cwestiwn 16: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd ar wahaniaethau cyflog rhwng cyflogeion anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl, fesul graddfa a/neu fandiau cyflog?

Cwestiwn 17: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyrff cyhoeddus orfod adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul anabledd?

Cwestiwn 18: Os oes rhaid i gyrff cyhoeddus adrodd ar recriwtio, cadw a datblygu fesul anabledd, pa ddata ydych chi’n meddwl y dylen nhw orfod adrodd amdanynt?

Dyddiadau a therfynau amser

Cwestiwn 19: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd gael yr un dyddiadau adrodd ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 20: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog anabledd gael yr un dyddiadau adrodd ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 21: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai data bwlch cyflog ethnigrwydd gael eu hadrodd ar-lein mewn ffordd debyg i wasanaeth bwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 22: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai data bwlch cyflog anabledd gael eu hadrodd ar-lein mewn ffordd debyg i wasanaeth bwlch cyflog rhywedd?

Gorfodi

Cwestiwn 23: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd gael yr un polisi gorfodaeth ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Cwestiwn 24: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai adrodd am fwlch cyflog anabledd gael yr un polisi gorfodaeth ag adrodd am fwlch cyflog rhywedd?

Ethnigrwydd: casglu a chyfrifiadau data

Cwestiwn 25: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr mawr gasglu data ethnigrwydd gan ddefnyddio’r safonau GSS wedi’u cysoni ar gyfer ethnigrwydd?

Cyfrifo ac adrodd am fylchau cyflog ethnigrwydd

Cwestiwn 26: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai pob cyflogwr mawr adrodd am fesurau bwlch cyflog ethnigrwydd gan ddefnyddio un o’r dosbarthiadau deuaidd fel isafswm?

Cwestiwn 27: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai fod o leiaf 10 o gyflogeion ym mhob grŵp ethnig yr adroddir arnynt? Byddai hyn yn osgoi datgelu gwybodaeth am gyflogeion unigol.

Cwestiwn 28: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyflogwyr ddefnyddio canllawiau’r ONS ar ddata ethnigrwydd i gydgasglu grwpiau ethnig? Byddai hyn yn helpu i ddiogelu cyfrinachedd eu cyflogeion.

Cwestiwn 29: Oes unrhyw beth arall rydych am ddweud wrthym am adrodd am fwlch cyflog ethnigrwydd?

Anabledd: casglu a chyfrifiadau data.

Cymharu tâl ar draws grwpiau cyflogeion

Cwestiwn 30: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â defnyddio’r ymagwedd ‘ddeuaidd’ ( cymharu cyflog cyflogeion anabl a’r rhai nad ydynt yn anabl) at adrodd am ddata bwlch cyflog anabledd?

Cwestiwn 31: Oes gennych chi unrhyw adborth ar ein cynnig i ddefnyddio diffiniad Ddeddf Cydraddoldeb 2010 o ‘anabledd’ ar gyfer adrodd am fwlch cyflog?

Cwestiwn 32: Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai fod o leiaf 10 cyflogai ym mhob grŵp yn cael eu cymharu (er enghraifft, cyflogeion anabl neu heb fod yn anabl)? Byddai hyn yn osgoi datgelu gwybodaeth am gyflogeion unigol.

Cwestiwn 33: Oes unrhyw beth arall rydych chi am ddweud wrthym am adrodd am fwlch cyflog anabledd?

Atodiad B: Canfyddiadau ymgynghoriad Adrodd am Anabledd Gweithlu 2021 i 2022

Cyflwyniad

Rhedodd yr Uned Anabledd yn Swyddfa’r Cabinet ymgynghoriad ar adrodd am anabledd gweithlu (DWR). Roedd yn agored i ymatebwyr am 16 wythnos rhwng 16 Rhagfyr 2021 ac 8 Ebrill 2022. 

Gofynnodd yr ymgynghoriad i bobl am eu barn ar gasglu data, tryloywder a’r buddion a’r risgiau o adrodd ar ymarferion ar anabledd yn y gweithle. Gofynnodd hefyd am awgrymiadau amgen i adrodd am weithlu yn wirfoddol neu’n orfodol i gynyddu cynhwysiant gweithle a chyflogi pobl anabl. 

Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal ar GOV.UK ac roedd ar gael fel arolwg ar-lein trwy’r porth Gofod Dinesydd. Roedd hefyd ar gael mewn amrediad o fformatau amgen, gan gynnwys: PDF, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), Hawdd i’w Ddarllen, print bras, Braille a Chymraeg. Cafodd ymatebion i’r arolwg eu derbyn hefyd trwy e-bost a phost. Mae’r adroddiad hwn yn rhannu’r dadansoddiad o’r canfyddiadau o arolwg yr ymgynghoriad ar Ofod Dinesydd ac mewn fformatau amgen. 

Cynhaliwyd cyfres o 7 bord gron yn cynnwys cymysgedd o bobl yn cynrychioli persbectifau cyflogwyr a chyflogeion hefyd. Mae’r drafodaeth yn y sesiynau bord gron hyn wedi cael eu dadansoddi ar wahân a’u hystyried ochr yn ochr â chanfyddiadau’r adroddiad hwn. 

Methodoleg

Cafodd dadansoddi disgrifiadol meintiol ei gynnal ar gwestiynau caeëdig gan ddefnyddio’r pecyn meddlawedd ystadegol R. Cafodd ymatebion i’r holl gwestiynau agored eu darllen yn llawn gan y tîm ymchwil. Cafodd ymatebion eu codio’n llawn i lyfr cod seiliedig ar Excel, a gafodd ei ddefnyddio i ddatblygu’r themâu fesul cwestiwn, a’r themâu trosfwaol. Mae’r prif themâu yn cael eu trafod yn yr adroddiad hwn.

Ystyrir yr holl ymatebion yn gydradd beth bynnag y bo dull yr ymateb. Dilynodd yr ymatebion o’r arolwg Gofod Dinesydd oll yr un strwythur. Yn aml ni wnaeth y rheini yn ymateb trwy e-bost ddilyn y strwythur hwn, er iddynt gwmpasu llawer o’r un pynciau. Cafodd ymatebion e-bost eu hystyried o dan y cwestiynau roedd eu sylwadau yn berthnasol iddynt, hyd yn oed os nad oeddent yn dilyn y strwythur hwn eu hunain. Maen nhw hefyd wedi cyfrannu at y themâu trosfwaol.

Nodweddion ymatebwyr

Derbyniodd yr ymgynghoriad 447 ymateb.

  • Cafodd 90% (404 ymateb) eu cyflwyno trwy arolwg ar-lein
  • Cafodd 10% (43 ymateb) eu derbyn trwy e-bost neu bost

Allan o’r 447 ymateb:

  • roedd 26% (115 ymateb) gan sefydliad neu rwydwaith cyflogwyr neu’n cynrychioli cyflogwyr
  • roedd 72% (323 ymateb) gan gyflogai, neu sefydliad neu rwydwaith yn cynrychioli cyflogeion, neu unigolyn arall
  • roedd 2% (9 ymateb) o ymatebwyr yn cynrychioli’r ddau grŵp

Crynodeb o’r canfyddiadau

Mae’r adran hon yn gyntaf yn amlinellu themâu trosfwaol a ganfuwyd ar draws cwestiynau. Mae’n amlinellu wedyn y canfyddiadau lefel uchel ar draws y 4 rhan o’r ymgynghoriad ei hun.

Themâu trosfwaol

Er bod cymysgedd eang o farn yn cael ei chynrychioli ar draws yr ymatebion a dderbyniwyd i’r holl gwestiynau, daeth rhai themâu eglur i’r amlwg. 

Awgrymodd rhai o’r themâu trosfwaol effeithiau cadarnhaol posibl o DWR:

  • cynrychiolaeth: monitro a chyhoeddi’r gynrychiolaeth o bobl anabl mewn gweithleoedd
  • addasiadau rhesymol: cynorthwyo wrth nodi anghenion cymorth a gwella’r ddarpariaeth o addasiadau rhesymol
  • ymwybyddiaeth: cynyddu’r ymwybyddiaeth a’r ddealltwriaeth o anabledd a phobl anabl yn y gweithle
  • atebolrwydd: dal cyflogwyr i gyfrif, a’u cymell neu eu gwthio i wella
  • cymaradwyedd: ei gwneud yn bosibl i gymharu cyflogwyr ac i feincnodi

Awgrymodd rhai o’r themâu trosfwaol y dylid fod yn ofalus, neu awgrymon nhw effeithiau negyddol posibl DWR:

  • datgeliad o anabledd: creu problemau i gyflogeion anabl ynghylch datgelu eu statws anabledd, neu chwyddo problemau sy’n bodoli o’r math hwn. Roedd problemau yn cynnwys ofnau o wahaniaethu (neu wahaniaethu gwirioneddol) yn dilyn datgelu, neu ddata o ansawdd is os yw ofn gwahaniaethu yn arwain at beidio â datgelu.
  • diffyg effaith wirioneddol: dod yn ymarfer ticio blwch, neu beidio ag arwain at ragor o weithredu sy’n ofynnol o gyflogwyr – amlygodd ymatebion fod y mesur adrodd hwn yn annigonol ar ei ben ei hun i benderfynu a yw cyflogwr yn gynhwysol neu beidio, ag angen naratif neu gyd-destun hefyd
  • diogelu data: angen cael diogelwch data cryf a threfniadau diogelu mewn grym, gan gynnwys awgrymiadau y dylai data anabledd gael eu cipio’n ddienw

Gellir canfod canfyddiadau arweiniol yn ymwneud yn benodol â’r wybodaeth a gasglwyd o dan y 4 pennawd yn y ddogfen ymgynghori isod.

Deall y dirwedd bresennol

Lle casglodd sefydliad ddata anabledd, y gyfran o bobl anabl yn y gweithlu oedd yr wybodaeth a adroddwyd arni a gasglwyd yn fwyaf cyffredin (dywedodd 96% o gyflogwyr a ymatebodd a 73% o gyflogeion a ymatebodd fod eu sefydliad yn casglu hyn). Dywedodd 59% o gyflogwyr a ymatebodd fod eu sefydliad yn casglu data ar y gyfran o staff anabl yn gweithio ar lefelau gwahanol yn y sefydliad. 

Defnyddiodd bron 90% o gyflogwyr a ymatebodd brosesau AD presennol i gasglu gwybodaeth ar anabledd yn eu gweithlu. Adroddodd y rhan fwyaf o gyflogwyr a ymatebodd (54%) fod yr wybodaeth hon wedi cael ei chasglu am fwy na 5 mlynedd, gyda 34% yn ei chasglu am rhwng 1 a 5 mlynedd. Dywedodd dros dri chwarter o gyflogwyr a ymatebodd (77%) na ddefnyddiodd eu sefydliadau y fframwaith adrodd gwirfoddol

Dywedodd y rhan fwyaf o gyflogwyr a ymatebodd (61%) fod y gost i’r sefydliad o gasglu data anabledd gweithlu yn ‘ddim byd neu’n ddi-bwys’. Dywedodd chwarter o ymatebwyr fod ‘rhywfaint o gost ond dim llawer’. 

Y 3 defnydd mwyaf cyffredin o ddata gweithlu oedd ffurfio cynlluniau amrywiaeth a chynhwysiant, i lunio ymarferion recriwtio ac i olrhain cynnydd ar gynlluniau amrywiaeth a chynhwysiant. 

Dywedodd 31% o ymatebwyr fod eu cyflogwr neu sefydliad yn cyhoeddi eu data anabledd gweithlu yn allanol. 

Datganodd y rhan fwyaf o’r cyflogeion (90%) eu bod yn cytuno’n gryf neu’n cytuno y dylai cyflogwyr gasglu data gweithlu. 

Buddion a rhwystrau adrodd am anabledd gweithlu

Pan ofynnwyd a oeddent yn meddwl bod tryloywder helaethach ar anabledd yn y gweithle yn arwain at ymarferion mwy cynhwysol, meddyliai 85% o gyflogwyr a ymatebodd a 74% o gyflogeion a ymatebodd ei fod yn gwneud hynny. Pan ofynnwyd iddynt esbonio’u hateb, y thema fwyaf cyffredin ymhlith ymatebion cyflogwyr a chyflogeion oedd fod tryloywder yn arwain at ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gynyddol o anabledd ac anghenion pob anabl, yn ogystal ag ymwybyddiaeth gynyddol ac argaeledd cymorth.

Teimlai’r rhan fwyaf o ymatebwyr y dylai adrodd am anabledd gweithlu gan gyflogwyr mawr (250+ o gyflogeion) fod yn orfodol (70% o gyflogwyr a ymatebodd a 74% o gyflogeion a ymatebodd).

Pan ofynnwyd am y buddion o adrodd gwirfoddol, y thema fwyaf cyffredin ymhlith ymatebion cyflogwyr oedd oherwydd ei fod yn ddewis, mae adrodd gwirfoddol yn arddangos ymrwymiad cryfach ac mae’n llai tebygol o fod yn ymarfer ticio blwch. Yr ymateb mwyaf cyffredin gan gyflogeion a ymatebodd oedd nad oedd dim.

Pan ofynnwyd am y risgiau o adrodd gwirfoddol, y thema fwyaf cyffredin o’r ddau grŵp oedd na fydd rhai neu’r rhan fwyaf o sefydliadau yn ei wneud os yw’n wirfoddol, ac mai dim ond sefydliadau sydd â niferoedd da i’w hadrodd fydd yn ei wneud. 

Ar gynyddu’r derbyniad o’r fframwaith adrodd gwirfoddol, awgrymodd cyflogwyr a ymatebodd yn fwyaf cyffredin fod angen cynyddu ymwybyddiaeth cyflogwyr. Y thema fwyaf cyffredin ymhlith cyflogeion a ymatebodd oedd dweud y dylai fod yn orfodol.

Y buddion i adrodd gorfodol a gafodd eu nodi yn fwyaf cyffredin gan y ddau fath o ymatebwr oedd:

  • ei fod yn caniatáu data cyflawn, cywir a safonedig, gan alluogi cymharu a meincnodi
  • y gallai arwain at gymorth a chyfleoedd cynyddol i gyflogeion anabl ac ymwybyddiaeth gynyddol o anabledd

Y risgiau mwyaf cyffredin a gafodd eu nodi oedd:

  • gallai fod yn ymarfer ticio blwch heb unrhyw effeithiau diriaethol ar wella cynhwysiant
  • pryderon am gyflogeion heb fod eisiau, neu’n teimlo’n cael eu gorfodi, i ddatgelu eu statws anabledd

Y buddion mwyaf cyffredin o gyhoeddi’r data a gafodd eu nodi gan gyflogwyr a chyflogeion a ymatebodd oedd eu bod yn darparu gwybodaeth fuddiol i bobl anabl wrth benderfynu ble i weithio, a’i fod yn annog cyflogwyr i weithredu i gynorthwyo cyflogeion anabl. Y risgiau a gafodd eu nodi yn fwyaf cyffredin gan gyflogwyr a ymatebodd oedd y gallai cyfraddau datgelu isel ystumio’r darlun a’r potensial am niwed i enw da. Fe wnaeth cyflogeion adrodd yn fwyaf cyffredin nad oes risgiau, neu y gallai fod yn ymarfer ticio blwch nad yw’n cyflwyno’r newidiadau angenrheidiol.

Ystyriaethau pe byddai adrodd gorfodol am anabledd gweithlu yn cael ei weithredu.

Fe wnaeth 87% o gyflogwyr ac 83% o gyflogeion gytuno’n gryf neu gytuno bod y gyfran o gyflogeion yn uniaethu’n anabl yn ystadegyn defnyddiol i’w adrodd. Y thema fwyaf cyffredin o’r ddau fath o ymatebwr oedd y gall y data gael eu defnyddio i bennu’r gynrychiolaeth o bobl anabl yn y gweithlu. Thema fawr ychwanegol oedd ei bod yn codi proffil materion anabledd. 

Pan ofynnwyd pa ystadegau eraill ddylaI gael eu hadrodd yn hytrach na neu ochr yn ochr â’r gyfran o gyflogeion yn uniaethu’n anabl, yr awgrymiadau mwyaf cyffredin oedd: amhariaeth, addasiadau rhesymol, tâl, lefel swydd, nodweddion eraill a warchodir a/neu groestoriadwyedd, datblygiad, a’r gyfran o bobl anabl mewn safleoedd uwch.

Roedd cefnogaeth gref i’r defnydd o ymagweddau safonedig ar gasglu data anabledd gweithlu os yw adrodd yn dod yn orfodol i gyflogwyr mawr, gyda 95% o gyflogwyr neu sefydliadau sy’n cynrychioli cyflogwyr ac 83% o gyflogeion neu sefydliadau sy’n cynrychioli cyflogeion yn cytuno’n gryf neu’n cytuno. Fodd bynnag, roedd rhaniad bron yn gyfartal (40% i 50%) o gyflogwyr a chyflogeion a ymatebodd ar ba un o’r 2 fath o eiriad[footnote 2] ddylai gael ei ddefnyddio wrth holi cyflogeion a ydynt yn uniaethu’n anabl. 

Gofynnwyd i gyflogwyr beth fyddai’n eu helpu i roi adrodd am anabledd gweithlu ar waith mewn ffyrdd cyson ac effeithiol. Roedd ymatebion yn cynnwys yr angen am becyn cymorth a chanllawiau, cyfleuster adrodd am ddim a syml, holiadur safonol a thempled ac offer ar gyfer cyfathrebu ar draws y sefydliad.

Gofynnwyd i gyflogwyr beth allai helpu pobl i deimlo’n gyfforddus i ddatgelu. Y thema fwyaf cyffredin oedd y dylai’r data gael eu hanonymeiddio, ni ddylent allu cael eu holrhain yn ôl i unigolion neu dylent gael eu casglu gan drydydd parti. 

O ran adrodd am ddata gweithlu a’u cyhoeddi, teimlai ychydig dros 60% o gyflogwyr y dylai llywodraeth ganolog fod y sefydliad mae cyflogwyr yn adrodd iddo pe byddai gwybodaeth am anabledd gweithlu yn cael ei chasglu. Y dewis mwyaf cyffredin ymhlith cyflogeion a ymatebodd oedd corff rheoleiddiol (64% o ymatebwyr). 

Dywedodd y rhan fwyaf o gyflogwyr (88%) a chyflogeion (82%) y dylai cyflogwyr mawr gyhoeddi ystadegau anabledd gweithlu ar lefel sefydliad. Teimlai 76% o gyflogwyr y dylai’r cyflogwr gyhoeddi ei ystadegau gweithlu ei hun, gyda 44% yn teimlo y dylai’r llywodraeth ganolog gyhoeddi’r data hyn. Roedd gan gyflogeion fodd bynnag raniad mwy yn eu hymatebion, gyda 55% yn dweud corff rheoleiddiol a 54% yn dweud y cyflogwr.[footnote 3]

Ymagweddau amgen

Gofynnwyd cwestiwn terfynol i gyflogwyr a chyflogeion, ar ba ddewis gwahanol i adrodd am weithlu a allai gynyddu cynhwysiant a chyflogaeth pobl anabl. Roedd yr awgrymiadau a dderbyniwyd yn yr adran hon yn amrywiol iawn, ond cododd rhai themâu bras.

Y brif thema mewn ymatebion oddi wrth gyflogeion yn ogystal â chyflogwyr oedd gwella’r cymorth ac addasiadau rhesymol ar gael i gyflogeion anabl Roedd ymatebion oddi wrth gyflogeion yn ogystal a chyflogwyr hefyd yn cynnwys thema arwyddocaol ynghylch gwella hygyrchedd a chynwysoldeb ymarferion recriwitio. Amlygodd rhai cyflogwyr a chyflogeion a ymatebodd y pwysigrwydd o rwydweithiau staff anabl, hyrwyddwyr anabledd a rhannu llwyddiant ac ymarfer gorau.

Dywedodd rhai cyflogwyr a ymatebodd fod angen gwella a hyrwyddo’r cynllun Hyderus o ran Anabledd, ac i wneud gwelliannau i ddata ac adrodd. Amlygodd rhai cyflogwyr a ymatebodd yr angen i wrando ar bobl anabl ac ymgysylltu â nhw, gan gynnwys casglu adborth a rhoi cyfleoedd i gyflogeion anabl gael gwrandawiad i’w lleisiau. 

Roedd yr angen i wella ymwybyddiaeth ac agweddau ynghylch anabledd yn thema gyffredin ymhlith ymatebion cyflogeion. Roedd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar gryfderau nid gwendidau a defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd[footnote 4], gan normaleiddio anabledd a lleihau stigma, a dealltwriaeth well o namau penodol. Roedd ymatebion cyflogeion hefyd yn cynnwys themâu ar addysg a hyfforddiant i gyflogwyr a chymell (er enghraifft, cymorthdaliadau), monitro (er enghraifft, archwiliadau neu ombwdsmon) a gorfodaeth ( er enghraifft, sancsiynau a deddfau llymach). Nid oedd unrhyw un o’r rhain yn themâu arwyddocaol mewn ymatebion cyflogwyr.

Camau nesaf

Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried yn awr gan y llywodraeth ochr yn ochr â’i hymrwymiad i gyflwyno adrodd gorfodol am fwlch cyflog anabledd i gyflogwyr mawr. Bydd yr holl adborth a gwybodaeth a gesglir trwy’r ymgynghoriad hwn, yn ogystal â thrwy sesiynau bord gron, yn bwydo i mewn i feddwl y llywodraeth ar sut i wella cyfleoedd cyflogaeth a chynhwysiant gweithle i bobl anabl orau. 

Atodiad C: Categorïau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth wedi’u cysoni ar gyfer ethnigrwydd

Cymru a Lloegr

I Gymru a Lloegr, y cwestiynau a’r categorïau yw:

Beth yw eich grŵp ethnig?

(Dewiswch un opsiwn sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu gefndir)

Gwyn

  • Seisnig, Cymreig, Alabanaidd, Gogledd Iwerddon neu Brydeinig
  • Gwyddelig
  • Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig
  • Roma
  • Unrhyw gefndir Gwyn arall

Grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog

  • Gwyn a Du Caribïaidd
  • Gwyn a Du Affricanaidd
  • Gwyn ac Asiaidd
  • Unrhyw gefndir ethnig Cymysg neu Luosog

Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig

  • Indiaidd
  • Pacistanaidd
  • Bangladeshaidd
  • Tsieineaidd
  • Unrhyw gefndir Asiaidd arall

Du, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd

  • Caribïaidd
  • Affricanaidd
  • Unrhyw gefndir Du, Du Prydeinig, neu Garibïaidd arall

Grŵp ethnig arall

  • Arabaidd
  • Unrhyw grŵp ethnig arall

Gwell gennyf beidio â dweud (i gyflogeion sydd ddim yn dymuno datgelu eu hethnigrwydd).

Gogledd Iwerddon

Gofynnodd y cwestiwn ethnigrwydd yng Nghyfrifiad 2021 yng Ngogledd Iwerddon i bobl ddewis o’r grwpiau ethnig canlynol:

  • Du Affricanaidd
  • Du Arall
  • Tsieineaidd
  • Ffilipino
  • Indiaidd
  • Teithiwr Gwyddelig
  • Grŵp ethnig cymysg
  • Roma
  • Gwyn
  • Unrhyw grŵp ethnig arall

Yr Alban

Cafodd y grwpiau canlynol eu defnyddio yn yr Alban yng Nghyfrifiad 2022:

Asiaidd, Asiaidd Albanaidd neu Asiaidd Prydeinig

  • Pacistanaidd, Pacistanaidd Albanaidd neu Bacistanaidd Prydeinig
  • Indiaidd, Indiaidd Albanaidd neu Indiaidd Prydeinig
  • Bangladeshaidd, Bangladeshaidd Albanaidd neu Fangladeshaidd prydeinig
  • Tsieineaidd, Tsieineaidd Albanaidd neu Tsieineaidd Prydeinig
  • Arall

Affricanaidd, Affricanaidd Albanaidd neu Affricanaidd Prydeinig

  • Mae ymatebwyr yn ysgrifennu yn eu grŵp ethnig

Caribïaidd neu Ddu

  • Mae ymatebwyr yn ysgrifennu yn eu grŵp ethnig

Grŵp ethnig Cymysg neu Luosog

  • Mae ymatebwyr yn ysgrifennu yn eu grŵp ethnig

Gwyn

  • Albanaidd
  • Prydeinig Arall
  • Gwyddelig
  • Pwylaidd
  • Sipsi neu Deithiwr
  • Roma
  • Dyn sioe neu Wraig sioe
  • Arall

Grŵp ethnig arall

  • Arabaidd, Arabaidd Albanaidd neu Arabaidd Prydeinig
  • Arall (er enghraifft Sicaidd, Iddewig)

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ymgynghori ar y Bil Cydraddoldeb (Hil ac Anabledd)

Mae’r hysbysiad hwn yn amlinellu sut y byddwn yn defnyddio’ch data personol, a’ch hawliau. Mae’n cael ei wneud o dan Erthyglau 13 a/neu 14 o Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR). 

EICH DATA 

Diben

Diben prosesu eich data personol yw cael barn aelodau’r cyhoedd, seneddwyr a chynrychiolwyr sefydliadau a chwmnïau am bolisïau adrannol, cynigion, neu yn gyffredinol i gael data ynghylch barn y cyhoedd ar fater sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd.

I wneud hyn byddwn yn:

Casglu gwybodaeth ar rai nodweddion personol o ymatebwyr unigol gan gynnwys rhyw, hil ac anabledd (ymhlith data eraill). Bydd yr wybodaeth hon yn cynorthwyo ac yn rhoi cyd-destun i ddadansoddiad yr ymgynghoriad, gan ein caniatáu i adnabod os oes bylchau yn yr ymateb ac ymhellach, os yw cynigion yn cael eu cefnogi neu eu gwrthwynebu’n anghymesur gan grwpiau penodol, ymhlith mewnwelediadau tebyg. 

Byddwn hefyd yn casglu enwau’r sefydliadau, a chyrff neu rwydweithiau cyflogwyr a gweithwyr. Mae hyn er mwyn deall y grwpiau sy’n cymryd rhan yn yr ymgynghoriad a phwy maen nhw’n eu cynrychioli. 

Yn ogystal â hyn, byddwn yn defnyddio data personol yn rhan o weinyddu a chynorthwyo ymatebwyr â dulliau amgen o ymateb. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, rhestr o bobl sydd wedi gofyn am gopi Braille neu CD sain. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn cyrraedd amrediad eang o ymatebwyr sy’n hanfodol i gael y canfyddiad gorau posibl.

Bydd y data personol yn ein helpu i goladu canfyddiadau lefel uchel ac nodi themâu allweddol, gan ychwanegu manylion a chyd-destun hollbwysig i’r canlyniadau, ond ni fyddant yn cael eu defnyddio i adnabod unigolion.

Y data

Byddwn yn prosesu’r data personol canlynol i gefnogi’r dibenion uchod: 

  • Enw 
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif Symudol/Ffôn
  • Enw sefydliad, rhwydwaith neu gorff cynrychioladol yr ymatebydd os yn gymwys, a Gwlad y DU (neu’n rhyngwladol) lle mae’r sefydliad neu gorff cynrychioladol wedi’i leoli. 
  • Gwybodaeth ar nodweddion personol: Ethnigrwydd, Cyflyrau neu afiechydon sy’n effeithio ar unigolion, Anabledd, Oedran, Rhyw, lle mau unigolyn yn byw neu’n cael ei gyflogi.
  • Barn a sylwadau ar gwestiynau’r Ymgynghoriad. 

Sail gyfreithiol prosesu

Dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol: 

Mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir er budd cyhoeddus neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir yn y rheolydd data. Yn yr achos hwn mae hynny’n golygu ymgynghori â chyhoedd y DU ynghylch cynigion newid deddfwriaethol.

Mae data personol sensitif yn ddata personol sy’n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, barn wleidyddol, cred grefyddol neu athronyddol, neu aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data genetig, data biometrig at ddiben adnabod unigolyn naturiol yn unigryw, data sy’n ymwneud ag iechyd neu ddata sy’n ymwneud â bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person naturiol. 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’ch data personol yw: 

Mae prosesu yn angenrheidiol am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol; ar gyfer gweithredu swyddogaeth o’r Goron, Gweinidog y Goron, neu adran o’r llywodraeth; gweithredu swyddogaeth a osodir ar unigolyn trwy ddeddfiad; neu ymarfer swyddogaeth o’r naill dŷ yn y Senedd neu’r llall. Yn yr achos hwn mae hyn yn golygu ymgynghori â chyhoedd y DU ar faterion yn ymwneud â newid deddfwriaethol.

Derbynwyr

Bydd eich data personol yn cael eu casglu trwy ein platfform ymgynghori ar-lein. Bydd y platfform hwn felly yn derbyn ac yn dal eich data personol. 

Bydd eich data personol yn cael eu rhannu â ni gyda’n cwmni ymchwil allanol wedi’i gontractio fydd yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, fel y cyfarwyddir gan Swyddfa’r Cabinet.

Gan y bydd eich data personol yn cael eu storio ar ein seilwaith TG byddant yn cael eu rhannu hefyd â’n proseswyr data sy’n darparu e-bost, rheolaeth dogfennau a gwasanaethau storio.

Cadw 

Bydd eich data personol yn cael eu cadw gennym am y cyfnodau canlynol: 

Bydd rhestr o bobl sydd wedi gofyn am fformatau amgen yn cael ei chadw yn ystod y cyfnod ymgynghori i sicrhau bod copïau digidol a chaled y gofynnir amdanynt yn cael eu hanfon at unigolion yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd y rhestr hon a data personol cysylltiedig yn cael eu dileu ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori.

Bydd ymatebion yn cael eu cadw am hyd yr ymgynghoriad, a 

byddant yn cael eu dinistrio 3 blwyddyn galendr ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, neu pan nad oes gofyn i’r wybodaeth gael ei storio mwyach ar gyfer defnydd gweithredol ar ddatblygu Bil, pa un bynnag sydd gyntaf. 

EICH HAWLIAU 

Mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth ynghylch sut y caiff eich data personol eu prosesu, ac i ofyn am gopi o’r data personol hynny. 

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cywiro unrhyw wallau yn eich data personol yn ddi-oed. 

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael cwblhau unrhyw ddata personol anghyflawn, gan gynnwys trwy ddatganiad atodol. 

Mae gennych yr hawl i ofyn am gael dileu eich data personol os nad oes cyfiawnhad bellach dros eu prosesu. 

Mae gennych yr hawl o dan rai amgylchiadau (er enghraifft, lle caiff y cywirdeb ei herio) i ofyn am gyfyngu ar y prosesu ar eich data personol. 

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol ble cânt eu prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol. 

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol.

TROSGLWYDDIADAU RHYNGWLADOL 

Gan fod eich data personol yn cael eu storio ar ein seilwaith TG Corfforaethol, ac yn cael eu rhannu â’n proseswyr data, gallant gael eu trosglwyddo a’u storio yn ddiogel y tu allan i’r DU. Yn yr achos hwnnw byddant yn destun diogelu cyfreithiol cyfatebol trwy benderfyniad digonolrwydd, dibyniaeth ar Gymalau Contractiol Safonol, neu ddibyniaeth ar Gytundeb Trosglwyddo Data Rhyngwladol y DU.

Gan y bydd eich data’n cael eu rhannu â Chyflenwr Platfform ein harolwg sy’n darparu gwasanaethau cynnal i ni, gallant gael eu storio’n ddiogel y tu allan i’r DU. Ble mae hynny’n digwydd bydd yn destun diogelu cyfreithiol cyfatebol trwy benderfyniad digonolrwydd gan Lywodraeth y DU. 

Gan y bydd eich data’n cael eu rhannu ag ymchwilwyr a gontractir gan Swyddfa’r Cabinet sy’n darparu dadansoddiad o’r gwasanaethau ymateb i’r ymgynghoriad i ni, gallant gael eu storio’n ddiogel y tu allan i’r DU. Ble mae hynny’n digwydd bydd yn destun diogelu cyfreithiol cyfatebol trwy benderfyniad digonolrwydd gan Lywodraeth y DU.

CWYNION 

Os ydych o’r farn bod eich data personol wedi’u camddefnyddio neu eu cam-drin, gallwch gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol.  Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF, neu 0303 123 1113, neu icocasework@ico.org.uk. Ni fydd unrhyw gŵyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth yn amharu ar eich hawl i geisio iawn trwy’r llysoedd. 

MANYLION CYSWLLT 

Y rheolydd data ar gyfer eich data personol yw Swyddfa’r Cabinet. Manylion cyswllt y rheolydd data yw: Swyddfa’r Cabinet, 70 Whitehall, Llundain, SW1A 2AS, neu 0207 276 1234, neu gallwch ddefnyddio’r we-ffurflen hon

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddog Diogelu Data’r rheolwr data yw: dpo@cabinetoffice.gov.uk

Mae’r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor a gwaith monitro annibynnol ynghylch defnydd Swyddfa’r Cabinet o wybodaeth bersonol.

  1. Er y bydd y gofynion adrodd am fwlch cyflog yn gymwys ledled Lloegr, yr Alban a Chymru yn unig (ac o bosibl Lloegr yn unig i gyrff cyhoeddus), gall cyflogwyr yng Ngogledd Iwerddon fod yn ddarostyngedig i’r gofynion os oes ganddynt 250 neu fwy o gyflogeion wedi’u lleoli ym Mhrydian Fawr. 

  2. Gofynnodd y cwestiwn i ymatebwyr am eu dewis ar 2 ffurf awgrymedig o eiriad. Y rhain oedd: 1) ‘Ydych chi’n ystyried eich hun ag anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir (iechyd meddwl a/neu iechyd corfforol)?’ 2) ‘a. Oes gennych chi unrhyw gyflyrau iechyd meddwl neu afiechydon yn parhau neu y disgwylir iddynt barhau 12 mis neu fwy? a b. A yw eich cyflwr neu afiechyd/ a yw unrhyw un o’ch cyflyrau neu afiechydon yn lleihau eich gallu i gyflawni gweithgareddau 

  3. Gallai ymatebwyr ddewis opsiynau lluosog i’r cwestiwn hwn. 

  4. Am esboniad o fodel cymdeithasol anabledd, gweler: https://www.scope.org.uk/social-model-of-disability