£21 miliwn i hybu sector technoleg blaengar y DU a sicrhau bod y manteision yn cyrraedd pob rhan o’r wlad
De Cymru i gael budd o ganolfan dechnoleg ranbarthol
Bydd sector technoleg blaengar y DU yn mynd o nerth i nerth ar ôl i gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw (15 Tachwedd) ddatgan buddsoddiad o £21 miliwn i greu rhwydwaith cenedlaethol newydd o ganolfannau technoleg rhanbarthol ar draws y wlad – gan gynnwys un yng Nghaerdydd.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd Tech City UK a Tech North yn dod yn sefydliad cenedlaethol o’r enw Tech Nation, er mwyn cynorthwyo clystyrau a chwmnïau digidol arloesol a blaengar y DU i dyfu’n gyflymach, a helpu i wneud yn siŵr bod y buddion yn cyrraedd mwy o lefydd.
Mae’r cwmnïau llwyddiannus sydd wedi cael budd o waith Tech City UK yn cynnwys Just Eat, Zoopla a Funding Circle.
Gan adeiladu ar waith y sefydliad yn helpu i droi Cylchfan Silicon Llundain yn ganolfan dechnolegol sy’n cael cydnabyddiaeth fyd-eang, bydd yr arian yn helpu Tech Nation i weithio gyda sefydliadau busnes a phartneriaid presennol ym maes technoleg ac i gyflwyno ei fodel ‘canolfannau technoleg’ i gyflymu’r gwaith ehangu sydd eisoes ar y gweill.
Fel rhan o’r cynlluniau, bydd Tech City UK yn rhoi cyfle i dros 40,000 o bobl feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gychwyn neu ddatblygu busnes digidol. Bydd hefyd yn defnyddio rhaglenni twf penodol i gynnig cymorth i hyd at 4,000 o fusnesau technoleg yn y DU.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hyn yn newyddion gwych i’r sector technoleg sydd eisoes yn ffynnu yn Ne Cymru.
Mae’r sector digidol wedi dod yn rhan annatod o economi Cymru, ac mae twf cyflym llawer o fusnesau digidol ar draws y wlad wedi cadarnhau ein sefyllfa fel canolbwynt rhagoriaeth dechnolegol.
Mae cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau bod De Cymru yn ganolfan rhagoriaeth dechnolegol ranbarthol, ac mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector hwn yn dal i dyfu ar draws y wlad.
Dywedodd y Gweinidog dros faterion Digidol, Matt Hancock:
Mae’r arian newydd hwn yn rhan bwysig o’n cynlluniau i sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau yn y byd i gychwyn a datblygu busnes digidol, a bod y buddion i’w gweld ledled y wlad.
Bydd y rhwydwaith rhanbarthol hwn yn gwneud i’r sector technoleg ddigidol dyfu’n gyflymach, yn cadarnhau’r gronfa dalent, ac yn sbarduno’r genhedlaeth nesaf o gwmnïau arloesol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleodd digido yn y dyfodol. Bydd hyn yn dod â swyddi, sgiliau a gwell lefelau cynhyrchedd i’n rhanbarthau.
Bydd 11 canolfan ranbarthol yn asgwrn cefn i rwydwaith cenedlaethol sy’n cynnig rhagoriaeth ddigidol, gan ddangos bod y wlad yn bwerdy byd-eang ar gyfer diwydiannau technolegol, a helpu’r Llywodraeth i gyflawni’r nodau yn y Strategaethau Diwydiannol a Digidol.
Bydd yr arian hefyd yn helpu entrepreneuriaid mewn sectorau technoleg newydd, fel deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ariannol, drwy eu cysylltu â buddsoddwyr posib a rhai eraill o’r un anian mewn canolfannau eraill ar draws y wlad, a drwy gynnig rhaglenni datblygu wedi’u teilwra’n arbennig.
Dywedodd Gerard Grech, Prif Swyddog Gweithredol Tech City UK (Tech Nation gyda hyn):
Rydyn ni’n hynod o falch bod y Llywodraeth yn cefnogi ein model, sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu cwmnïau technoleg y wlad i dyfu’n gyflymach.
Bydd Tech Nation yn helpu i drawsnewid y DU o gyfres o glystyrau technolegol unigol yn rhwydwaith cenedlaethol cryf. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod y DU ar frig y rhestr o ran technoleg fyd-eang.
Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn dal ar flaen y gad o ran arloesi digidol, datblygu talent ym maes technoleg, a denu buddsoddiad rhyngwladol.
Dywedodd Eileen Burbidge, Cadeirydd Tech City UK (Tech Nation gyda hyn):
Mae’n bleser gennym ni glywed bod y Llywodraeth yn dymuno rhoi mwy o arian i Tech City UK am y pedair blynedd nesaf.
O dan faner Tech Nation, bydd y wlad hon sydd wedi cynnig cymaint o arloesedd i’r byd ac sy’n arwain mewn is-sectorau fel technoleg ariannol, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, roboteg a gwyddorau bywyd, yn adeiladu rhwydwaith cenedlaethol lle mae rhagoriaeth ddigidol yn ffynnu.
Drwy wneud hyn, bydd y DU yn dal i gael ei chydnabod fel un o’r llefydd gorau yn y byd i gychwyn busnes neu i ddatblygu busnes ym maes technoleg ddigidol.
Mae Prydain eisoes yn bwerdy technoleg byd-eang, ac mae’r Llywodraeth yn benderfynol y bydd hynny’n parhau. Mae dros 1.4 miliwn o bobl yn gweithio yn sector technoleg ddigidol y DU ac mae swyddi’n cael eu creu ddwywaith mor gyflym o’u cymharu â sectorau eraill yn yr economi.
Mae’r cyflogau sy’n cael eu hysbysebu, ar gyfartaledd, yn £50,000 – 30 y cant yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae trosiant y sector yn fwy na £118 biliwn, ac yn ôl ffigurau ar fuddsoddiad tramor a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, buddsoddwyd £5.6 biliwn mewn technoleg yn y DU yn ystod hanner cyntaf 2017 – y swm mwyaf eto.
Yn wyneb cystadleuaeth ryngwladol am y diwydiant cyflogaeth uchel ei werth hwn, bydd Tech Nation yn helpu’r DU i sicrhau bod y sector technolegol yn tyfu’n gyflymach.
Bydd rhaglenni llwyddiannus Tech North, fel Founders Network a Northern Stars, yn cael eu hymestyn yn genedlaethol, a bydd rhaglenni cenedlaethol fel Future Fifty ac Upscale yn cael eu cryfhau.
Dywedodd David Buttress, Partner yn 83North a chyn Brif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Just Eat, cwmni alumni Future Fifty:
Mae Tech City UK, a’r rhaglen Future Fifty, wedi rhoi cyfle gwych i gwmnïau sy’n tyfu’n gyflym fel ni i ddysgu gan y rheini sydd o’r un anian â ni ac i gyfnewid syniadau.
Maen nhw hefyd wedi ein helpu i wneud yn siŵr bod ein llais yn cael ei glywed yn y Llywodraeth er mwyn i ni allu rhoi ein barn ar y ffordd mae ein byd yn newid. Bydd hynny’n dal yn bwysig iawn i bob sector technolegol sy’n ymddangos.
Dywedodd Samir Desai, Funding Circle, cwmni alumni Future Fifty:
Mae Tech City UK wedi bod yn eiriolwr ardderchog dros y sector technolegol, yn deall anghenion busnesau newydd a rhai sy’n tyfu, ac yn cyfleu hyn yn ystyrlon i’r Llywodraeth. Mae eu rhaglen yn gynhwysfawr, ac mae hi wedi bod yn help i ni wrth i ni ddelio ag amrywiaeth o faterion a blaenoriaethau busnes.
Dyma leoliadau’r canolfannau cyntaf fydd yn ffurfio Tech Nation: * Cymru - Caerdydd * Canolbarth Lloegr - Birmingham * Yr Alban - Caeredin a Glasgow * Gogledd Iwerddon - Belfast * Llundain Fwyaf - Llundain
Bydd y rhestr lawn o leoliadau’n cael ei chyhoeddi yn y Gyllideb.