Datganiad i'r wasg

Llwyddiannau y rheini sydd wedi derbyn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn cael ei ddathlu

Mae'r actor Jonathan Pryce a'r capten rygbi Gamp Lawn Ryan Jones ymhlith pobl o Gymru i dderbyn gwobrau ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Image of honours

Darllenwch y restr lawn o dderbynion yma.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, wedi canmol pobl o Gymru sydd wedi derbyn gwobrau yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2021.

Mae’r rhestr yn cydnabod gwaith a chyflawniadau ystod eang o bobl hynod ar draws y Deyrnas Unedig o bob cefndir.

Mae derbynwyr o Gymru yn 2021 yn cynnwys unigolion a weithiodd yn ddiflino yn ystod pandemig COVID-19, gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i helpu eraill ac wedi gweithio tuag at sicrhau newid cadarnhaol ledled Cymru.

Gan ddiolch o galon am eu “cyflawniadau ysbrydoledig” llongyfarchodd Mr Hart bawb a oedd yn cael eu cydnabod gyda gwobr.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mewn blwyddyn a fu’n wirioneddol heriol, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi o’n hamser i gydnabod a chanmol llwyddiannau ysbrydoledig pobl hynod ar draws cymdeithas.

Mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r unigolion sy’n rhoi’n ôl yn anhunanol i’r bobl o’u cwmpas, drwy eu gwaith a’u bywydau personol, ac y gall eu gwaith gael ei anghofio weithiau.

Mae’n galonogol gweld yr ystod hynod amrywiol o dderbynwyr o gymunedau a chefndiroedd ledled Cymru, sy’n cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i elusennau, addysg, iechyd, chwaraeon a’r celfyddydau ac – yn ystod pandemig byd-eang – gwaith eithriadol yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Rydyn ni i gyd yn hynod ddiolchgar am ymdrechion pawb sy’n cael eu hanrhydeddu ac fe hoffwn i longyfarch pawb sy’n derbyn gwobr yn bersonol.

Ymysg y bobl o Gymru sy’n derbyn gwobr mae actor Jonathan Pryce a gafodd ei urddo’n farchog, cyn gapten rygbi Cymru a enillodd y Gamp Lawn sef Ryan Jones a derbynodd OBE am wasanaethau i rygbi’r undeb ac i elusennau, cyn Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips a gafodd MBE am wasanaethau i rygbi’r undeb, Sophie Clodagh Mary Blain (Sopiale Andreae) a derbynodd CBE am wasanaethau i Dreftadaeth, Nigel Vernon Short a gafodd CBE am wasanaethau i’r Economi yng Nghymru, Myer Glickman a derbynodd OBE am wasanaethau i Ddadansoddi Iechyd a’r Athro Helen James a chafodd OBE am wasanaethau i Addysg Uwch.

Cyhoeddwyd ar 12 June 2021