Alun Cairns yn dathlu llwyddiant prentisiaethau Cymreig
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS, yn annerch prentisiaid yn Seremoni Raddio Prentisiaid GE Aviation 2016 dydd Gwener 23 Medi.
Fel un o gyflogwyr mwyaf Cymru, sydd ar hyn o bryd yn cyflogi dros 1,200 o bobl, mae gan GE Aviation Cymru dros 150 o brentisiaid graddedigion ac interniaid peirianneg. Mae 22 o brentisiaid yn graddio eleni.
Dywedodd Alun Cairns:
Rwy’n falch iawn o gael bod yma gyda graddedigion 2016 GE Aviation a chael gweld drosof fy hunan lwyddiant rhaglen brentisiaeth mor bwysig yng Nghymru. Mae cwmnïau blaenllaw fel GE Aviation, sydd ag enw da ac sy’n datblygu gweithluoedd medrus iawn, y rhan mor allweddol o gynhyrchiant busnes.
Mae economi Cymru yn sylfaenol gadarn, yn gystadleuol iawn, ac yn agored ar gyfer busnes yn fyd-eang. Mae GE yn enghraifft flaenllaw a thrwy raglen brentisiaeth y cwmni rydyn ni heddiw’n dathlu llwyddiant y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr Cymru. Llongyfarchiadau i bawb.