Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Alun Cairns: "Mae'n fraint i dderbyn y rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru - edrych ymlaen at fod yn llais cryf wrth fwrdd y Cabinet"

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Heddiw, benodwyd Alun Cairns yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac addawodd ar unwaith i barhau i weithio gyda chymunedau, busnesau a Llywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn cryf ar gyfer Cymru gyfan.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae hyn wedi bod yn wythnos anhygoel i Gymru gyda Bargen Ddinesig ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdyddd, y drysau yn cael eu hagor am fargen twf ar gyfer Gogledd Cymru a’r trafodaethau yn dechrau ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mae’r cyhoeddiad tollau Hafren yn dangos bod Cymru ar agor i fusnes ac rwy’n benderfynol o gadw’r momentwm hwn i fynd ac i gyflwani ar y prosiectau hyn.

Mae’n fraint i dderbyn y rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at fod yn llais cryf wrth fwrdd y Cabinet i sicrhau bod twf economaidd yn cyrraedd pob rhan o Gymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 March 2016