Alun Cairns Canmol Gwobrau Pride of Britain
"Mae’r Gwobrau Pride of Britain yn ddigwyddiad cwbl anhygoel sy’n cydnabod pobl arbennig o bob rhan o’r DU" - Alun Cairns.
![Pride of Britain Bus](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/image_data/file/57761/s300_Pride_of_Britain_Bus.jpg)
Pride of Britain Bus
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r Gwobrau Pride of Britain yn ddigwyddiad cwbl anhygoel sy’n cydnabod pobl arbennig o bob rhan o’r DU.
Mae’r ddau enillydd o Gymru yn ysbrydoledig.
Mae David Notts yn gwneud gwaith eithriadol sy’n achub bywydau yn y Deyrnas Unedig a thramor ar faes y gad ac mewn argyfyngau dyngarol, ac mae’r dewrder a ddangosodd Will Edwards wrth iddo achub menyw o gar a oedd yn llosgi wir yn ‘arwrol’.
offwn innau’n bersonol longyfarch y ddau ohonynt a phawb arall a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer ac a dderbyniodd un o’r gwobrau mawreddog hyn.