Datganiad i'r wasg

Gwella lled band i 70,000 o gartrefi a busnesau wrth i Lywodraeth y DU addo i ddatrys yr wahanfa band eang yng Nghymru

Bydd degau o filoedd o gartrefi a busnesau yng Nghymru sy’n straffaglu i gyflawni tasgau ar-lein syml oherwydd isadeiledd band eang sydd wedi dyddio yn cael eu huwchraddio. Daw cyflymderau rhyngrwyd llawer cyflymach, wrth i Lywodraeth y DU ddatrys yr wahanfa ddigidol yng Nghymru.

  • Contract cyntaf Llywodraeth y DU wedi’i lofnodi yng Nghymru mewn bargen newydd anferthol i ddatrys y sefyllfa band eang gwael yng Nghymru, wrth i Gymru gofnodi’r lefelau cysylltedd gigabit isaf
  • Bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau £170 miliwn i ddarparu isadeiledd digidol sy’n addas i’r dyfodol ac i sicrhau bod busnesau yng nghefn gwlad Cymru yn gallu ffynnu.
  • Bydd tua 70,000 o gartrefi a busnesau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru yn elwa o’r fargen y cytunwyd arno gydag Openreach.

Bydd degau o filoedd o gartrefi a busnesau yng Nghymru sy’n straffaglu i gyflawni tasgau ar-lein syml oherwydd isadeiledd band eang sydd wedi dyddio yn cael eu huwchraddio. Daw cyflymderau rhyngrwyd llawer cyflymach, wrth i Lywodraeth y DU ddatrys yr wahanfa ddigidol yng Nghymru.

Bydd oddeutu £170 miliwn yn cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU i ddarparu gwasanaeth band eang o’r radd flaenaf sy’n ‘gallu trosglwyddo data ar lefel gigabit’ i 70,000 o gartrefi a busnesau anghysbell yng Nghymru, wrth i ffigyrau ddangos bod y wlad wedi cofnodi’r lefelau cysylltedd gigabit isaf ym Mhrydain Fawr.

Bydd yn berthnasol i rai o’r ardaloedd mwyaf anghysbell yn y wlad, o Gymoedd De Cymru i Ben Llŷn – fel bod gan drigolion a busnesau fynediad at y cysylltiad cyflymaf sydd ar gael ar y farchnad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau cynhyrchiant gwell, fel rhan o genhadaeth y llywodraeth i roi hwb i dwf economaidd.

Dyma’r contract cyntaf gan Lywodraeth y DU dan Brosiect Gigabit i wella cysylltedd yng Nghymru, gan nad oedd wedi elwa o unrhyw gymorth yn hyn o beth yn flaenorol.

Bydd y fargen, sy’n rhan o gynllun ehangach Llywodraeth y DU a fydd yn neilltuo £800 miliwn i ddarparu cysylltedd gigabit ledled Prydain Fawr, yn darparu bang eang cyflym iawn sy’n gallu trosglwyddo data ar lefel gigabit i gymunedau yng Nghymru y byddai’n cael eu gadael gydag isadeiledd digidol gwael fel arall. Bydd yn helpu i fodloni’r galw cynyddol am gysylltedd dibynadwy, gan ysgogi economïau cymunedau gwledig lleol a lleihau gwahaniaethau rhwng rhanbarthau, trwy alluogi gweithio o bell a denu busnesau newydd.  

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn addewid y Llywodraeth hon i ddyblu ei hymdrechion i gyflawni darpariaeth gigabit llawn erbyn 2030 a harneisio potensial enfawr technoleg i hybu arloesi a gwella bywydau pobl. 

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, Peter Kyle:

O fewn wythnosau o gymryd yr awenau, rydym eisoes wedi cymryd camau i ddechrau darparu band eang cyflymach i ddegau o filoedd o bobl ledled Cymru. Mae llofnodi’r contract mawr hwn gydag Openreach yn sicrhau ein bod yn ôl ar y trywydd iawn i gyflawni darpariaeth gigabit llawn erbyn 2030.

Mae isadeiledd digidol cadarn yn hanfodol ar gyfer bod yn gystadleuol, cynhyrchiant a sicrhau twf, ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth hwn i gannoedd o filoedd o gartrefi a busnesau, yn canolbwyntio’n benodol ar ardaloedd sydd wedi cael eu hesgeuluso, fel Cymru.

Meddai’r Gweinidog Dros Isadeiledd Digidol, Chris Bryant:

Bydd cymunedau ledled Cymru yn elwa o’n bargen gydag Openreach, o ddisgyblion ifanc yn ei chael yn haws i gwblhau eu gwaith cartref i forwyr ym Mro Morgannwg yn teimlo bod ganddynt gysylltiadau gwell yn bersonol ac yn broffesiynol. 

Mae’r Llywodraeth hon yn benderfynol ei bod am fynd i’r afael â’r gwahaniaethau rhanbarthol rydym wedi’u hetifeddu ac i ddarparu’r isadeiledd angenrheidiol fel bod pob cymuned yn gallu ffynnu, gan gynnwys yr isadeiledd digidol sy’n hanfodol yn ein byd heddiw.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

Rwy’n hapus iawn y bydd cymaint o bobl mewn ardaloedd anghysbell yng Nghymru yn elwa o’r fargen hon rhwng Llywodraeth y DU ac Openreach. Rydym i gyd yn fwyfwy dibynnol ar fang eang cyflym i weithio’n effeithlon, i gael mynediad at wasanaethau hanfodol ac i fwynhau ein hamser hamdden.

Ar hyn o bryd mae gennym ormod o bobl yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy anghysbell, nad ydynt yn gallu cael mynediad at y byd ar-lein, ac rwy’n hapus iawn bod y buddsoddiad sylweddol hwn gan Lywodraeth y DU yn dechrau ar y gwaith i ddatrys hynny.

Bydd Prosiect Gigabit yn sbarduno twf economaidd, gan greu a chefnogi miloedd o swyddi medrus gyda chyflogau uchel, gan rymuso diwydiannau o bob math i arloesi a chynyddu cynhyrchiant trwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Bydd hefyd yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau maen nhw eu hangen nawr ac yn y dyfodol, o roi mynediad gwell i ofal iechyd i gleifion trwy apwyntiadau rhithiol a monitro iechyd o bell – i helpu pensiynwyr i beidio â theimlo’n unig trwy dreulio amser gydag anwyliaid drwy alwadau fideo o ansawdd uwch.   

Ar gyfer aelwydydd, mae bang eang sy’n trosglwyddo data ar lefel gigabit yn darparu cyflymder uwch a bydd llai o achosion o golli cysylltiad. Yn wahanol i rwydweithiau traddodiadol sy’n seiliedig ar gopr, ni fydd cysylltiadau gigabit yn arafu yn ystod y cyfnodau prysuraf, felly ni fydd rhaid ymladd dros led band gyda’r cymdogion. Mae rhwydweithiau gigabit yn gallu cynnal cannoedd o ddyfeisiau ar yr un pryd yn hawdd, heb unrhyw fyffro, felly bydd yr holl deulu yn gallu defnyddio’r we, ffrydio a lawrlwytho pethau ar yr un pryd.

Dywedodd Clive Selley, Prif Weithredwr Openreach:

Mae ymchwil yn dangos bod ffeibr llawn yn darparu nifer o fuddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol – ac rwy’n credu mai ni yw’r gorau yn y busnes am ei ddarparu.

Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein dewis, yn dilyn proses gystadleuol iawn, ac rydym eisoes yn bwrw ymlaen gyda’r gwaith.

Mae hwn yn stori o lwyddiant ym maes isadeiledd Prydeinig. Mae ein rhwydwaith eisoes yn cyrraedd dros 15 miliwn o adeiladau dinesig a gwledig a, lle bynnag yr ydym yn adeiladu, rydym yn darparu’r dewis mwyaf eang o ddarparwyr i gwsmeriaid. Rwy’n hyderus y gallwn gyrraedd cymaint â 30 miliwn o gartrefi erbyn diwedd y ddegawd, os yw’r amodau yn parhau i fod yn gefnogol.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo trwy gontractau eraill Prosiect Gigabit i adeiladu rhwydweithiau ar gyfer 910,000 o adeiladau sy’n anodd eu cyrraedd ledled Lloegr. Mae dwsinau o gontractau sy’n cynrychioli buddsoddiad o fwy na £1.9 biliwn bellach wedi’u llofnodi a bydd 11 o ddarparwyr yn cyflawni’r uwchraddio, gan gynnwys nifer o ddarparwyr band eang bychain, annibynnol. 

Bydd Trinity House, elusen sy’n gwarchod goleudai a chymhorthion mordwyo morol yng Nghymru a Lloegr yn elwa o’r buddsoddiad hwn. Bu i’r Prif Weithredwr, yr Ôl-lyngesydd Iain Lower, groesawu’r prosiect:

Fel sefydliad sy’n gweithio ym mannau anghysbell y wlad, rydym yn cymeradwyo cyflwyniad y prosiect hwn gan Openreach a’r Llywodraeth.” Bydd cyflwyno’r prosiect hwn, ymysg pethau eraill, yn helpu ein timau gweithrediadau i weithio, cysylltu a byw’n well yn ein goleudai anghysbell. Bydd hwn yn welliant amhrisiadwy iddynt pan fyddant i ffwrdd o’u cartrefi a’u teuluoedd. 

Gan edrych ar y buddion ehangach, mae amodau gwaith gwell yn helpu i sicrhau bod ein goleudai yn gweithio’n union fel y disgwylir iddynt weithio ar gyfer degau o filoedd o forwyr yn ein dyfroedd sy’n dibynnu ar ein cymhorthion mordwyo. Mae moroedd diogelach yn sicrhau bod gwlad sy’n ynys yn fwy llewyrchus, oherwydd ein bod yn dibynnu ar longau masnach i gludo 95% o’r nwyddau rydym yn eu defnyddio’n ddyddiol.

Diwedd

Mae data a ddarparwyd gan Think Broadband yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â chenhedloedd eraill Prydain Fawr, gyda dim ond 74% o ehangdir Cymru yn elwa o gysylltiad sy’n gallu trosglwyddo data ar lefel gigabit. Mae hyn yn cymharu ag 84% yn Lloegr, 78% yn Yr Alban a 95% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r holl ffigyrau yn seiliedig ar y data diweddaraf sydd ar gael a ddarparwyd gan Ofcom a darparwyr band eang. Mae asiantaeth gyflawni bang eang y llywodraeth, Building Digital UK, yn defnyddio’r data i gyfrifo pa adeiladau na fydd wedi’u cysylltu trwy’r cyflwyno masnachol ac felly fydd angen cymhorthdal. Gall yr holl ffigyrau newid wrth i gynlluniau cyflwyno presennol ddatblygu ac wrth i drafodaethau am gwmpas contractau yn y dyfodol barhau. 

Mae’r etholaethau fydd yn elwa o’r contract (‘call off 2’) a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys: Arfon, De Clwyd, Dwyfor Meirionnydd, Ceredigion, Sir Drefaldwyn, Aberhonddu a Sir Faesyfed, Mynwy, Torfaen, Gorllewin Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Gogledd Caerdydd, Canol Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Merthyr Tudful a Rhymni, Ogwr, Islwyn, Pontypridd, Dyffryn Cynon, Rhondda, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr , Castell-nedd, Aberafan, Dwyrain Abertawe, Gorllewin Abertawe, Gŵyr.

Bydd y cytundeb newydd yn golygu bod hyd at £800 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth ar gael o gyllid a oedd eisoes wedi’i ymrwymo i Brosiect Gigabit.

O dan y cytundeb, mae Openreach bellach wedi llofnodi contractau gwerth tua £280 miliwn i gysylltu tua 96,000 o gartrefi a busnesau.

Mae trafodaethau’n digwydd nawr gydag Openreach i gytuno ar gontractau pellach i gysylltu ardaloedd mwy anghysbell ledled Prydain, a bydd gennym ni fwy i’w ddweud ar y rhain yn y misoedd nesaf.

DSIT media enquiries

E-bost press@dsit.gov.uk

Monday to Friday, 8:30am to 6pm 020 7215 300

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 August 2024