Mae Brexit yn golygu Brexit - ac rydym am wneud llwyddiant ohono
Fy ngwaith i yw cynrychioli Cymru yn Whitehall a darparu arweinyddiaeth er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn y sefyllfa gryfaf bosibl.
![Alun Cairns Secretary of State for Wales](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a618a7de5274a0a2048541d/s300_Alun_Cairns_Website_Image.jpg)
Alun Cairns Secretary of State for Wales
Wrth siarad cyn y cyfarfod cabinet, dywedodd Alun Cairns Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Fy ngwaith i yw cynrychioli Cymru yn Whitehall ac i ddarparu arweinyddiaeth i sicrhau bod ein gwlad yn y sefyllfa gryfaf bosibl i ffynnu pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Brexit yn golygu Brexit - ac rydym yn mynd i wneud llwyddiant ohono. Mae llawer o waith i’w wneud, ond yr wyf yn hyderus, os byddwn yn tynnu at ei gilydd ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau, yna gall Cymru fanteisio ar y cyfleoedd fydd yn cael eu creu.
Er enghraifft, mae’r ffigurau buddsoddi yn dangos bod Cymru eisoes yn gyrchfan deniadol i fuddsoddwyr tramor o’r tu allan i’r UE. Fy ngwaith i yw adeiladu ar hyn a dangos bod Cymru ar agor i fusnesau ac yn barod i gynyddu masnach a buddsoddi gyda marchnadoedd newydd a rhai sy’n datblygu.
Updates to this page
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 August 2016 + show all updates
-
Added translation
-
First published.