Galw am dystiolaeth
Heddiw, bydd yr Adolygiad Annibynnol o Dribiwnlys Waterhouse yn cyhoeddi Papur Materion yn galw am sylwadau ar gwmpas yr Ymchwiliad gwreiddiol ac a oedd wedi ymchwilio'n ddigonol i honiadau penodol o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru.
Wrth esbonio‘r alwad am fwy o dystiolaeth, dywedodd Mrs Ustus Macur:
Er mwyn sicrhau fy mod yn gallu ymchwilio’n drylwyr i honiadau nad ymchwiliwyd i gam-drin plant mewn gofal yng Ngogledd Cymru yn ystod Ymchwiliad Waterhouse yr wyf yn ceisio sylwadau pellach ar y materion sy’n gysylltiedig â’r Ymchwiliad hwn.
Hoffem glywed gan gymaint o unigolion a phartïon cyfrannog ag y bo modd. Mae’r Papur hwn yn gyfle i bobl a sefydliadau roi gwybodaeth neu dystiolaeth a allai helpu o ran darparu ychydig o atebion.
Dyma rai o’r cwestiynau rydym yn ceisio barn arnynt:
- A oedd cylch gorchwyl Ymchwiliad Waterhouse yn ddigon eang i roi sylw i’r holl faterion o ddiddordeb cyhoeddus cyfreithlon a/neu anniddigrwydd ynghylch honiadau o barhau i gam-drin plant mewn gofal a natur y gweithdrefnau a’r arferion gofal plant yng Ngogledd Cymru?
- A osodwyd unrhyw gyfyngiadau gormodol ar y cylch gorchwyl er mwyn atal ymchwiliad neu archwiliad llawn o’r dystiolaeth er mwyn gwarchod unrhyw unigolyn neu sefydliad?
- Os na, a oedd y Tribiwnlys yn ymddangos fel pe bai’n cyfyngu ar y cylch gorchwyl er mwyn osgoi ymchwilio i’r dystiolaeth berthnasol neu ei harchwilio?
- A roddwyd unrhyw bwysau ar y rhai a oedd yn cymryd rhan yn yr Ymchwiliad boed fel aelodau’r Tribiwnlys, ei staff, y timau cyfreithiol, tystion neu gyfranwyr i fwrw i’r naill ochr, atal neu gelu tystiolaeth o berthnasedd i Ymchwiliad Waterhouse?
- A gafodd tystion eu hatal neu eu hannog fel arall i beidio â rhoi tystiolaeth lafar berthnasol neu wneud datganiadau? Os felly, gan bwy a/neu o dan ba amgylchiadau?
- A gafodd yr holl dystion perthnasol wahoddiad i gyflwyno datganiadau a/neu gael eu clywed gan yr Ymchwiliad? Os na, pam?
- A gafodd y tystion gefnogaeth ddigonol (e.e. cyngor cyfreithiol, eiriolaeth neu gwnsela) i hwyluso rhoi tystiolaeth i’r Ymchwiliad?
- A oedd y trefniadau a wnaed ar gyfer yr Ymchwiliad, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i hysbysiad o’r Ymchwiliad a’i weithrediadau, cyfweld tystion, lleoliad pencadlys y Tribiwnlys, cyfluniad siambr y gwrandawiad, cymryd tystiolaeth lafar, yn annog cyfranogiad y tystion perthnasol?
Mae’r Papur Materion i’w weld ar wefan Adolygiad Macur.
Y dyddiad olaf ar gyfer dychwelyd yr ymatebion yw 29 Mawrth 2013.
Sefydlwyd yr Adolygiad Annibynnol yn sgil datganiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, sef y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS, ar 8 Tachwedd y byddai adolygiad o ymchwiliad Syr Ronald Waterhouse i gam-drin plant mewn gofal yn nalgylch Cyngor Clwyd a Gwynedd yn cael ei sefydlu.
Bydd Mrs Ustus Macur yn gwneud argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl cwblhau’r adolygiad.
Nodiadau i Olygyddion:
Y mae Adolygiad Macur yn Adolygiad annibynnol a sefydlwyd gan y Llywodraeth ar 8 Tachwedd 2012.
Y cylch gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad hwn yw:
I adolygu cwmpas Ymchwiliad Waterhouse a pha un ai oedd unrhyw honiadau penodol o gam-drin plant a oedd yn berthnasol i’r cylch gorchwyl heb eu hymchwilio fel rhan o’r Ymchwiliad, ac i gyflwyno argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Manylion gyrfa Mrs Ustus Macur:
Galwyd y Gwir Anrhydeddus Mrs Ustus Macur i’r bar yn 1979, a bu’n ymarfer fel bargyfreithwraig yng Nghylchdaith Canolbarth Lloegr a Rhydychen rhwng 1979 a 2005.Cafodd ei phenodi yn Gwnsler y Frenhines yn 1998, a bu’n Gofiadur Cynorthwyol ac yna’n Gofiadur Llys Y Goron rhwng 1995 a 2005, pan gafodd ei phenodi yn Farnwr yr Uchel Lys Cyfiawnder (yr Adran Deulu). Hi oedd Barnwr Llywyddol Cylchdaith Canolbarth Lloegr rhwng 1 Ionawr 2007 a 31 Rhagfyr 2011. Mae llun o Mrs Ustus Macur DBE ar gael o adran y wasg.
Mae Adolygiad Macur yn un o ddau ymchwiliad newydd sy’n berthnasol i Ogledd Cymru. Mae Prif Gwnstabl Gogledd Cymru wedi gofyn i Keith Bristow, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol, i archwilio honiadau penodol diweddar a wnaed ynghylch hanes o gam-drin yn y gorffennol. Bydd yr ymchwiliad, a elwir yn Ymgyrch Pallial, yn asesu gwybodaeth a ddaeth i law yn ddiweddar a’r ymchwiliad a gynhaliwyd gan yr heddlu yn y gorffennol ac yn darparu adroddiad cyhoeddus a fydd yn cynnwys argymhellion i’r heddlu a’r Ysgrifennydd Cartref erbyn Ebrill 2013. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sydd gan y cyfryngau am Ymgyrch Pallial at: Swyddfa’r Wasg, yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol: 0870 268 8100 PressOffice@soca.x.gsi.gov.uk.
Mae Tribiwnlys Waterhouse, a gyhoeddwyd yn 2000, i’w weld yn: www.dh.gov.uk/en/Publicationsandstatistics/Publications/PublicationsPolicyAndGuidance/DH_4003097
Mae ymateb y Llywodraeth i Dribiwnlys Waterhouse i’w weld yn: www.publications.doh.gov.uk/pdfs/lostincare.pdf
Cysylltiadau
Ar gyfer unrhyw ymholiadau gan y wasg, cysylltwch â swyddog y wasg Adolygiad Macur ar 020 3334 3535.
Gellir cysylltu â thîm yr Adolygiad yn y cyfeiriad isod, sef:
Macur Review Room TM 10.02 Royal Courts of Justice Strand WC2A 2LL
E-bost: enquiries@macurreview.gsi.gov.uk