Dathlu Llwyddiannau Cymru
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cynnal digwyddiad yn Nhŷ Gwydyr yn Llundain heno i nodi diwedd flwyddyn wych i Gymru.
Bydd cynrychiolaeth o fyd busnes, academaidd, chwaraeon, elusennau a’r cyfryngau yn dod at ei gilydd i ddathlu popeth mae ein cenedl wedi cyflawni yn ystod 2016 ac yn edrych ymlaen at 2017.
Yn 2016 rydym wedi gweld cyflogaeth yn cyrraedd lefel uchaf erioed yng Nghymru, rydym wedi sicrhau Bargen Ddinesig i Gaerdydd, yn ogystal â llwyddiannau gwych ein tîm pêl-droed cenedlaethol a’r athletwyr yn y Gemau Olympaidd.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn aruthrol i Gymru lle rydym wedi gweld cyfraddau cyflogaeth uchaf erioed. Wrth i ni nesáu at ddiwedd y flwyddyn, mae’n bwysig bod Llywodraeth y DU yn dod â phobl o bob rhan o Gymru at ei gilydd fel y gallwn weithio mewn partneriaeth i adeiladu ar ein cyflawniadau yn 2017.
Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn tynnu at ein gilydd i wneud yn siŵr fod Cymru yn y sefyllfa gryfaf bosibl i elwa o Brexit, drwy adeiladu economi sy’n gweithio i bawb a chreu setliad datganoledig parhaol i wneud y Deyrnas Unedig yn gryfach. Bydd hefyd yn flwyddyn arbennig i’r Brifddinas wrth i Gaerdydd edrych ymlaen at gynnal Rownd Derfynol y Champions League.