Datganiad i'r wasg

Cyfleuster profi coronafeirws yn agor yn y Bathdy Brenhinol

Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart â chyfleuster profi galw i mewn COVID-19 newydd sydd wedi'i leoli yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Image of Simon Hart at test centre

Welsh Secretary Simon Hart thanked staff at the new test centre

Mae canolfan brofi galw i mewn wedi agor lle gall unigolion sydd â symptomau coronafeirws archebu apwyntiadau ym Maes Parcio i Ymwelwyr y Bathdy Brenhinol (CF72 8YT) fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth y DU i barhau i wella mynediad cymunedau lleol at brofion coronafeirws.

Dechreuodd y broses brofi ar y safle newydd yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, ar ddydd Iau yr 28ain o Ionawr a bydd apwyntiadau ar gael bob dydd.

Mae’r safle yn rhan o’r rhwydwaith mwyaf o ganolfannau profi diagnostig yn hanes Prydain, sydd â’r capasiti i brosesu dros 700,000 o brofion y dydd ac mae’n cynnwys dros 800 o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys 10 safle profi drwy ffenest y car, 20 safle galw i mewn, 22 o unedau symudol, a Labordy Goleudy Casnewydd, sy’n gweithio’n ddi-stop i brosesu samplau.

Ym mis Mawrth, cyn sefydlu’r ganolfan brofi newydd yn y maes parcio, mi wnaeth y Bathdy Brenhinol drawsnewid ei ganolfan ymwelwyr i linell gynhyrchu brys – yn cynhyrchu 1.9 miliwn o feisorau meddygol ar gyfer y GIG.

Cyn i’r ganolfan brofi newydd agor ar brynhawn ddydd Iau, ymwelodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, â’r safle i ddiolch i staff ac i ddysgu mwy am sut mae canolfannau profi Llywodraeth y DU yn cael eu rhoi ar waith ar gyflymder mewn cymunedau.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae’r rhwydwaith o ganolfannau profi sydd wedi’u sefydlu ar hyd a lled Cymru gan Lywodraeth y DU a’i bartneriaid wir yn anhygoel.

Roedd yn wych gweld y gwaith a wneir i sefydlu’r canolfannau hyn ar gyflymder ac ymroddiad y bobl sy’n eu gweithredu.

Ynghyd â dosbarthu brechiadau, mae mynediad rhwydd at brofion yn hollbwysig wrth inni barhau i frwydro yn erbyn y feirws. Mae canolfannau galw i mewn, fel yr un yn Llantrisant, yn chwarae rôl allweddol yn y broses hon.

Mae profion ar y safle yn Llantrisant dim ond ar gael i’r rhai hynny sy’n dangos symptomau coronafeirws – sef tymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golled/newid yn eich gallu i arogleuo a blasu. Dylai unrhyw un sy’n profi un neu fwy o’r symptomau hyn archebu prawf trwy ymweld â’r wefan nhs.uk/coronavirus neu ffonio 119.

Mae’r ganolfan brofi yn cael ei gweithredu mewn partneriaeth â Mitie a bydd yn cynnig gwasanaeth hunanbrofi.

Meddai Simon Venn, Prif Swyddog Llywodraeth a Strategaeth Mitie:

Ein blaenoriaeth yn ystod y pandemig yw cefnogi ymdrechion i frwydo yn erbyn COVID-19 a helpu i sicrhau bod y wlad yn parhau i fynd rhagddo. Mae profi yn rhan hanfodol o strategaeth y DU i drechu’r coronafeirws ac rydym yn falch i gefnogi Llywodraeth y DU gyda’r dasg hanfodol hon.

Diolch yn fawr iawn i holl staff y GIG ac arwyr rheng flaen eraill yn Llantrisant, sy’n gweithio’n ddiwyd i gadw pawb yn ddiogel.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 January 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 February 2021 + show all updates
  1. Added translation

  2. Fixing a typo

  3. Added translation