Mae lefel cyflogaeth yn uwch nag erioed yng Nghymru wrth i farchnad swyddi’r wlad ffynnu
Mae'r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn parhau i gynyddu fel y dangosir yn yr ystadegau diweddar.
![Jobs Newspaper Advert](https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/image_data/file/57283/s300_Jobs.jpg)
Mae cyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed wrth i’r ciplun diweddaraf o’r farchnad swyddi ar ôl refferendwm yr UE ddangos bod economi Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer gweddill y wlad.
Mae ystadegau’r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is nag yng ngweddill y DU ymysg nifer o ddangosyddion cadarnhaol.
Mae penawdau Ystadegau’r Farchnad Lafur fel a ganlyn:
- Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru i fyny 5,000 dros y chwarter i 1.459 miliwn ac mae’r gyfradd i fyny 0.9 pwynt canran i 73.5 y cant. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel 38,000 ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 2.5 pwynt canran. Mae’r lefel cyflogaeth a’r gyfradd gyflogaeth yn uwch nag erioed o’r blaen.
- Mae lefel diweithdra wedi gostwng 5,000 dros y chwarter i 65,000 a’r gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran i 4.3 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 25,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.7 pwynt canran. Mae’r gyfradd yng Nghymru erbyn hyn 0.6 pwynt canran yn is na’r gyfradd ddiweithdra ar gyfer y DU drwyddi draw, sef 4.9 y cant.
- Roedd y nifer sy’n hawlio’r budd-dal perthnasol 300 (0.8 y cant) yn llai rhwng mis Awst a mis Medi, a 2,100 (4.7 y cant) yn llai dros y flwyddyn. Mae’r gyfradd erbyn hyn yn 2.9 y cant. Ar gyfer y DU, cafwyd 700 o gynnydd yn y nifer sy’n hawlio’r budd-dal perthnasol (0.1 y cant) dros y chwarter ond gostyngodd 15,700 (2.0 pwynt canran) dros y flwyddyn ac mae yn awr yn 776,400. Mae cyfradd y DU yn 2.3 y cant.
- Mae lefel anweithgarwch economaidd wedi gostwng 13,000 dros y chwarter i 441,000 a’r gyfradd wedi gostwng 0.7 pwynt canran i 23.1 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 22,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1.1 pwynt canran. Ar gyfer y DU, cafwyd 65,000 o ostyngiad mewn anweithgarwch economaidd (0.2 y cant) dros y chwarter a 231,000 (0.6 pwynt canran) dros y flwyddyn ac mae yn awr yn 8.809 miliwn. Mae’r gyfradd anweithgarwch yn y DU erbyn hyn yn 21.5 y cant.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Y ffigurau hyn sy’n rhoi’r cipolwg diweddaraf i ni o’r farchnad swyddi yng Nghymru ar ôl pleidlais refferendwm yr UE, ac maent yn awgrymu bod economi Cymru yn dal i ffynnu.
Mae’n amlwg bod busnesau ac entrepreneuriaid Cymru yn gwneud yr hyn y maent yn ei wneud orau - creu swyddi a gwerthu’u harbenigedd ledled y byd.
Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed, diolch i’n cwmnïau gwych sydd wedi cael hwb gan effeithiau hirdymor y broses diwygio lles sy’n golygu ei bod yn talu i bobl fod mewn gwaith.