Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn cyhoeddi Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol…
Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ar hyn o bryd mae’r etholaethau a ddefnyddir ar gyfer ethol Aelodau Cynulliad yr un peth a’r etholaethau ar gyfer ethol Aelodau Seneddol. Fodd bynnag mae’r symudiad i Dŷ Cyffredin llai gydag etholaethau sy’n debycach o ran maint yn torri’r cysylltiad hwnnw ac os ceir cymeradwyaeth Seneddol, bydd nifer yr etholaethau Seneddol yng Nghymru yn gostwng o 40 i 30.
Mae’r Papur Gwyrdd:
- yn edrych ar effaith y newidiadau hyn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
- yn gofyn a fyddai pobl yn cael gwell gwasanaeth trwy barhau gyda 40 etholaeth Cynulliad ond bod eu ffiniau wedi’u haddasu er mwyn eu gwneud yn debycach o ran maint neu ail-greu’r cysylltiad gydag etholaethau Seneddol trwy newid i fod yn Gynulliad a 30 etholaeth.
Ym mhob achos ni fyddai maint y Cynulliad 60 Aelod yn newid ac felly byddai nifer yr aelodau rhanbarthol yn cynyddu o ddau ddeg i dri deg os byddai’r cysylltiad gyda’r etholaethau yn cael ei ail-greu.
Mae’r Papur Gwyrdd hefyd am gael gwybod safbwyntiau ynghylch:
- a ddylai fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dymhorau o bedair neu bum mlynedd;
- dileu’r gwaharddiad ar sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad mewn etholaeth a rhanbarth; ac
- a ddylai Aelodau’r Cynulliad gael eu gwahardd rhag eistedd yn y Senedd.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 13 Awst 2012 a bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion yn ofalus cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan:
“Mae’r rhaglen o ddiwygio gwleidyddol a ymgymerwyd gennym ni ers ffurfio’r Llywodraeth Glymblaid yn effeithio ar bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, fe fydd yn golygu newid y map etholaethol gyda 30 etholaeth Seneddol newydd ac rydym yn awr angen edrych ar effeithiau’r newidiadau hyn ar sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio.
Rwyf am sicrhau fod gennym y strwythurau cywir mewn lle yng Nghymru er mwyn darparu ar gyfer ein dinasyddion ac mae’r cyfnod ymgynghori hwn yn rhoi’r cyfle i bawb gyfrannu eu safbwyntiau. Byddwn yn ystyried canlyniadau’r cyfnod ymgynghori hwn yn ofalus cyn penderfynu pa newidiadau sy’n angenrheidiol.”
“Byddwn yn anelu at gyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn ddiweddarach eleni a byddwn yn gweithio’n agos gyda sefydliadau yng Nghymru wrth ddatblygu ein cynigion. Bydd unrhyw newidiadau a ddaw i’r amlwg yn cael eu gweithredu cyn gynted a phosibl.”