Stori newyddion

Tri phwt o newyddion da i economi Cymru â’r gyfradd gyflogaeth yn uwch nag y mae wedi bod erioed

Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru wedi cael tri phwt o newyddion da – cynnydd mewn cyflogaeth, gostyngiad mewn diweithdra a lleihad yn nifer yr hawlwyr.

Mae’r farchnad swyddi yng Nghymru wedi cael tri phwt o newyddion da – cynnydd mewn cyflogaeth, gostyngiad mewn diweithdra a lleihad yn nifer yr hawlwyr.

Mae’r ciplun diweddaraf o economi Cymru’n dangos bod y gyfradd gyflogaeth wedi cynyddu mwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU yn ystod y chwarter a’i bod yn uwch nawr nag y mae wedi bod erioed. Mae’r uchafbwyntiau eraill sydd i’w gweld yn Ystadegau’r Farchnad Lafur ar gyfer y chwarter diwethaf yn cynnwys y canlynol:

Gwelwyd cynnydd o 27,000 mewn cyflogaeth yng Nghymru ac mae’r gyfradd wedi codi 1.1 pwynt canran i 72.5%. Yn ystod y flwyddyn, mae cyflogaeth wedi cynyddu 74,000, ac mae’r gyfradd wedi codi 2.9 pwynt canran. Erbyn hyn mae 1.455 miliwn o bobl mewn gwaith, y nifer uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

  • Mae 5,000 yn llai o bobl ddi-waith ac mae’r gyfradd wedi gostwng 0.4 pwynt canran i 4.8%. Yn ystod y flwyddyn, gwelwyd gostyngiad o 26,000 yn nifer y bobl sy’n ddi-waith.
  • Ar hyn o bryd mae diweithdra yng Nghymru yn 74,000 – y lefel isaf ers dechrau 2008.
  • Gwelwyd gostyngiad o 200 yn nifer yr hawlwyr – lleihad o 0.4 y cant, ac mae wedi gostwng 3,300 yn ystod y flwyddyn.
  • Gwelwyd gostyngiad o 17,000 mewn anweithgarwch economaidd – y bobl hynny nad ydynt mewn gwaith nac yn ddi-waith, ond a allai er enghraifft fod yn astudio neu’n edrych ar ôl aelod o’r teulu – ac mae’r gyfradd yn gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU.

Yn ôl Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dyma dri phwt o newyddion da i’r farchnad swyddi yng Nghymru. Ar hyd a lled y wlad, mae’r arian rydym wedi’i fuddsoddi er mwyn ailsefydlogi’r economi a diwygio lles yn talu ar ei ganfed ac mae mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau ac yn dechrau gweithio.

Unwaith eto, rydym yn gweld cyfradd ddiweithdra sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol wrth i Gymru wynebu’r byd ag agwedd gynyddol hyderus ac entrepreneuraidd.

A ninnau ar drothwy’r refferendwm Ewropeaidd, y peth gwaethaf y gallem ei wneud yw rhoi economi sy’n cynhyrchu mwy a mwy o swyddi yn y fantol drwy lamu i dywyllwch Brexit.

Cyhoeddwyd ar 18 May 2016