Datganiad i'r wasg

Cartrefi’n wynebu biliau costus ar gyfer gwelliannau i dai dan reolau cynllunio Llywodraeth Cymru

David Jones AS: “Dylai Llywodraeth Cymru gael gwared â ‘Threth Heulfan’”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
"Houses"

Gallai cartrefi orfod wynebu biliau ychwanegol costus ar gyfer gwelliannau i dai dan gynlluniau gan Lywodraeth Cymru i godi’r hyn a elwir yn “Dreth Heulfan”, a dylid cael gwared â’r syniad, fydd neges Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (19 Mehefin 2014).

Mewn anerchiad gwadd i gynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), bydd David Jones, AS, yn rhybuddio y bydd y mesur yn gorfodi pobl yng Nghymru i wario cannoedd neu filoedd o bunnoedd ar waith ychwanegol i’w cartrefi yn ogystal â chost yr estyniad neu’r gwelliant i’w cartrefi.

Bydd Mr Jones yn tynnu sylw at y modd y cafodd y polisi – sydd i fod i gychwyn fis nesaf yng Nghymru – ei wrthod gan Lywodraeth y DU wedi i ymchwil ddangos y byddai’n atal bron i 40% o deuluoedd rhag ymgymryd â gwelliannau i’w cartrefi yn y lle cyntaf.

Yn ystod ei anerchiad, bydd Mr Jones hefyd yn galw am newidiadau radical i’r system gynllunio yng Nghymru sy’n cael ei llethu gan fiwrocratiaeth ac sydd wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cartrefi sy’n cael eu hadeiladu.

Bydd Mr Jones hefyd yn dweud fod angen datganoli mwy o bŵer o Gaerdydd a’i roi i gynghorau lleol gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ar ran eu cymunedau lleol.

Yn ystod ei anerchiad, bydd Mr Jones hefyd yn tynnu sylw at y canlynol:

  • Bod y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod Prydain Fawr yn llusgo’i thraed o ran adeiladu a thai. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r nifer o dai newydd a adeiladwyd wedi gostwng 6.7% yng Nghymru, tra bo twf o 33.6% wedi’i gofnodi ar draws Prydain Fawr.

  • Mae ystadegau gan y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn dangos fod adeiladu wedi gostwng yng Nghymru o Ionawr i Fawrth 2014 ond na chafwyd gostyngiad yng ngweddill y DU. Cofrestrwyd oddeutu 882 o dai newydd eleni, o’i gymharu â 1,055 yn y cyfnod hwnnw yn 2013.

  • Mae adeiladwyr tai mwyaf Cymru, Redrow, wedi amcangyfrif, o ganlyniad i ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer y cod adeiladu cynaliadwy ac er mwyn gosod chwistrellwyr dŵr ym mhob tŷ newydd, erbyn 2016 bydd cost adeiladu tŷ yng Nghymru hyd at £13,000 yn uwch na’r gost dros y ffin yn Lloegr.

  • Dywedodd cwmni adeiladu tai blaenllaw arall, Persimmon Homes, y llynedd y byddai’n stopio adeiladu tai newydd yn rhannau o gymoedd de Cymru, gan feio rheolau cynllunio a chostau rheoleiddio.

Bydd Mr Jones yn dweud wrth y gynhadledd:

Mae llywodraeth y DU yn cyflymu’r broses gynllunio. Mae canllawiau wedi’u symleiddio – gan ostwng yr hyn sydd weithiau’n 1,000 o dudalennau o jargon annealladwy i oddeutu 50 tudalen o ganllawiau clir.

Drwy ein her fiwrocratiaeth, bydd bron i hanner y rheoliadau tai ac adeiladu a ystyriwyd yn cael eu gwrthod neu eu gwella – newidiadau yr amcangyfrifir y byddant yn arbed bron i £90 miliwn y flwyddyn i fusnesau.

Fodd bynnag, yn llawer rhy aml ymddengys Llywodraeth Cymru fel pe bai’n benderfynol o gynyddu’r beichiau rheoleiddio ar gynghorau, busnesau a chartrefi yn hytrach na’u lleihau.

Drwy osod mwy a mwy o reoliadau adeiladu beichus yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru’n cynyddu’r costau i adeiladwyr tai godi’r cartrefi cychwynnol y mae cymaint o’u hangen ar gynifer o deuluoedd, a chynyddu pris y cartrefi hynny, fel y bydd mwy o bobl yn ei chael yn anodd cael troedle ar yr ysgol eiddo.

Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen, fel mater o flaenoriaeth, â diwygiadau effeithiol i’r system gynllunio i alluogi Cymru i ddatblygu economi gwirioneddol fodern.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 June 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 June 2014 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.