Darpar Lysgenhadon y DU yn ymweld â Chymru
Roedd Llysgenhadon newydd y DU wedi ymweld â Chymru wythnos yma i baratoi i ysgwyddo rolau arwain mewn llysgenadaethau ym mhedwar ban byd.
Yng Nghaerdydd ac yn Abertawe roedd y 10 darpar Lysgennad wedi cwrdd ag arweinwyr busnes ac entrepreneuriaid o Gymru i ddysgu mwy am flaenoriaethau busnesau Cymru sy’n gweithredu dramor. Roedd hefyd yn gyfle i drafod sut gall Llywodraeth y DU ddarparu rhagor o gefnogaeth a hyrwyddo busnesau’r DU o amgylch y byd, yn ogystal â denu buddsoddiad i Gymru yn y dyfodol.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae gan Lywodraeth y DU gannoedd o lysgenadaethau o amgylch y byd a phob un yn cynrychioli dinasyddion Cymru sy’n teithio dramor, yn helpu i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan mewnfuddsoddi ac yn chwilio am gyfleoedd i fusnesau Cymru allforio mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Rwyf wrth fy modd bod llysgenhadon Llywodraeth y DU wedi treulio amser yng Nghymru cyn dechrau ar eu swyddi dramor er mwyn deall anghenion penodol ein busnesau a chael yr wybodaeth sydd ei hangen er mwyn eu rhoi yn y sefyllfa gryfaf posibl i helpu i hyrwyddo Cymru i wledydd o amgylch y byd.
Tra’r oedd y grŵp yng Nghaerdydd fe aethant i ymweld â’r Senedd, blasu cynnyrch gorau Cymru mewn swper a oedd yn arddangos brandiau bwyd a diod Cymreig o’r ansawdd gorau. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys trafodaeth gydag ystod eang o arweinwyr o’r byd masnach, y byd twristiaeth a’r byd academaidd yng Nghymru; ym Mhrifysgol Abertawe lle cafodd y Llysgenhadon gyfle i glywed gan y tîm sy’n gweithio ar y prosiect ‘Bloodhound’ ysbrydoledig sy’n ceisio gosod Record y Byd newydd o ran Cyflymder ar Dir sef 1,000 milltir yr awr, a hefyd gan ymchwilwyr arbenigol sy’n datblygu atebion ynni arloesol a fydd yn golygu creu adeiladau yn y DU ac yn India a fydd yn cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu pŵer eu hunain.
Dywedodd Kate Harrisson, sydd ar fin bod yn Llysgennad y DU i Lima:
Mae Llysgenadaethau Prydain dramor yn cynrychioli’r DU i gyd. Roedd ymweliad yr wythnos yma yn gyfle gwych i siarad wyneb yn wyneb ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at helpu rhagor o fusnesau o Gymru i fanteisio ar y cyfleoedd cynyddol sydd ar gael mewn economïau sy’n datblygu fel Periw
The Ambassadors will take up their posts early next year in countries ranging from Algeria to New Zealand, where they will play a vital role in encouraging tourism and trade opportunities, helping increase exports and growth, and providing support to UK nationals abroad.