Arglwydd Bourne: “Hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru a datblygu ein heconomi.”
Gweinidog Swyddfa Cymru yr Arglwydd Bourne i ymweld a Chastell Caerdydd a stadiwm SWALEC.
Heddiw, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, yn dweud bod gan bawb yng Nghymru gyfrifoldeb i hyrwyddo’r wlad a chryfhau ein diwydiant twristiaeth sy’n datblygu.
Wrth siarad yn ystod ei ymweliad â Chastell Caerdydd a stadiwm criced SWALEC, galwodd ar bobl ar hyd a lled y wlad i wneud eu rhan i hyrwyddo Cymru a rhoi hwb i economi Cymru.
Castell Caerdydd yw’r atyniad twristiaeth sy’n cael y nifer fwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, a chynhelir un o gemau prawf Cyfres y Lludw yn stadiwm SWALEC eleni. Bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld â’r lleoliadau i weld sut maent yn paratoi ar gyfer y tymor twristiaeth prysur yr haf hwn.
Twristiaeth yw ail ddiwydiant mwyaf Cymru ac mae’n rhan hanfodol o economi Cymru. Roedd y ffigurau twristiaeth a gyhoeddwyd y mis hwn yn Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr yn cadarnhau bod Cymru wedi cael ei blwyddyn orau erioed. Roedd gwariant ar ymweliadau â Chymru yn 2014 wedi cynyddu 2.3 y cant o gymharu â 2013. £1,735m, sef cyfanswm y gwariant yng Nghymru, yw’r uchaf a gofnodwyd ers dechrau cadw cofnodion yn 2006.
Dywedodd yr Arglwydd Bourne:
Rwy’n falch iawn fod Castell Caerdydd a stadiwm SWALEC mor barod ar gyfer tymor prysur yr haf.
Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu’r diwydiant i lwyddo. Mae datblygu diwydiant twristiaeth llwyddiannus yn helpu i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi ar hyd a lled y wlad.
Mae pobl yn teithio o bob cwr o’r byd i ymweld â’n cestyll, cerdded ar hyd ein harfordir a mwynhau bwyd, diod a lletygarwch Cymru. Felly, rwyf am i bawb yng Nghymru ddilyn esiampl yr Arlywydd Obama ac annog pobl i ymweld â Chymru.