Datganiad i'r wasg

Cwmnïau ffonau symudol yn cytuno i wella’r ddarpariaeth

Bydd defnyddwyr yn elwa wrth i gwmnïau ffonau symudol gytuno i wella’r ddarpariaeth

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae pedwar cwmni rhwydwaith symudol y DU wedi cytuno ar fersiwn derfynol y cytundeb pwysig gyda Llywodraeth y DU i sicrhau gwell darpariaeth symudol i ddefnyddwyr ledled y DU.

Fel rhan o gynllun economaidd hirdymor Llywodraeth y DU, mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Sajid Javid, wedi sicrhau gofynion cyfreithiol gyda’r pedwar rhwydwaith symudol i fynd i’r afael â phroblemau signal gwael yn y mannau hynny a elwir yn ‘fannau gwan rhannol’.

Ardaloedd yn y DU lle ceir darpariaeth gan rai o’r rhwydweithiau symudol, ond nid y pedwar ohonynt, yw’r rhain. Mae’n bosib na fyddai gan ddefnyddwyr unrhyw ddarpariaeth yn yr ardaloedd hyn, yn dibynnu ar ba rwydwaith y maent. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar Gymru, ac yn helpu i leihau nifer y mannau gwan o amgylch y wlad.

Mae’r rhwydweithiau symudol EE, O2, Three a Vodafone bellach wedi ymrwymo i’r cytundeb yn gyfreithiol drwy dderbyn amodau diwygiedig trwydded i adlewyrchu’r cytundeb. Mae hyn yn golygu y bydd Ofcom, am y tro cyntaf erioed, yn gallu gorfodi cryfder signal cyson gan bob cwmni rhwydwaith symudol ar draws yr holl ardal a wasanaethir ganddynt, a fydd yn arwain at fanteision mawr i ddefnyddwyr.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’n hanfodol fod Cymru a gweddill y DU yn cael darpariaeth ffonau symudol o safon fyd-eang.

Mae Cymru wedi goddef darpariaeth symudol wael am lawer rhy hir – rwy’n croesawu’r newyddion fod cwmnïau ffonau symudol y DU yn gweithio gyda’i gilydd i gael gwared â’r mannau gwan hyn.

Mae gwell darpariaeth yn hanfodol i fusnesau ac mae gwneud Cymru’n lle deniadol i fuddsoddi, i greu swyddi a rhoi sicrwydd cyflog rheolaidd i bobl yn elfen allweddol o’n cynllun economaidd hirdymor.

Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Diwylliant:

Am lawer rhy hir, mae gormod o rannau yn y DU wedi goddef darpariaeth symudol wael yn rheolaidd, sy’n golygu nad yw pobl yn gallu gwneud galwadau ffôn nac anfon negeseuon testun. Nawr, o leiaf mae pethau’n symud ymlaen, sy’n golygu y bydd gan y DU ddarpariaeth ffonau symudol o safon fyd-eang, fel sydd ei hangen arni ac fel y mae’n ei haeddu.

Bydd y cytundeb hwn hefyd yn denu buddsoddiad o £5bn gan y rhwydweithiau symudol i seilwaith y DU, a fydd yn helpu i ysgogi cynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth hon.

O dan y cytundeb - am y tro cyntaf erioed - mae’r pedwar rhwydwaith symudol wedi cytuno, ar y cyd, i’r canlynol: Rhaglen fuddsoddi gwerth £5bn i wella’r seilwaith symudol erbyn 2017 – gan, o bosib, greu swyddi a rhoi hwb i economi’r DU;

Darpariaeth llais a thestun sicr gan bob cwmni ar draws 90 y cant o ardal ddaearyddol y DU erbyn 2017, gan haneru’r ardaloedd sy’n goddef darpariaeth dameidiog o ganlyniad i ‘fannau gwan’ rhannol ar hyn o bryd;

Bydd darpariaeth lawn gan y pedwar cwmni symudol yn cynyddu o 69 y cant i 85 y cant o ardaloedd daearyddol erbyn 2017; a Darparu cryfder signal dibynadwy ar gyfer llais ar gyfer pob math o wasanaeth symudol (2G/3G/4G) – ar hyn o bryd mae nifer o ddefnyddwyr yn colli signal yn aml, neu nid ydynt yn gallu cael signal yn ddigon hir i wneud galwad ffôn.

O ganlyniad i’r cytundeb hwn, bydd nifer y ‘mannau gwan’ lle nad oes darpariaeth symudol ar hyn o bryd, yn gostwng dwy ran o dair. Bydd hyn yn cefnogi rhaglen gyfredol y Llywodraeth sydd werth £150m, i sicrhau darpariaeth symudol i’r ardaloedd hynny yn y DU lle nad oes unrhyw ddarpariaeth o gwbl. Bydd nifer o ardaloedd yn y DU hefyd yn elwa o well darpariaeth ar gyfer data, rhai am y tro cyntaf erioed.

Bydd rhwydweithiau symudol nawr yn cyflwyno eu cynlluniau i wella darpariaeth symudol a bydd Ofcom yn monitro eu cynnydd yn rheolaidd. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl i gwmnïau gyrraedd nod dros dro yn 2016, a bydd yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am hyn.

Mae Ofcom hefyd wedi cadarnhau y bydd yn ymgynghori ymhellach ar y Ffioedd Trwydded Blynyddol – y ffi y mae rhwydweithiau symudol yn ei thalu i’r Llywodraeth – ym mis Chwefror, gan gadw’r cytundeb hwn mewn cof.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cyhoeddi deddfwriaeth ddrafft ar ddiwygio’r Cod Cyfathrebu Electronig i gefnogi’r broses o gyflwyno’r seilwaith cyfathrebu fesul cam ac ehangu’r ddarpariaeth symudol. Mae hyn yn rhan o ymgyrch y Llywodraeth i wneud yn siŵr bod gan ddefnyddwyr ddewis o ddulliau cyfathrebu o safon.

Cyhoeddwyd ar 3 February 2015