Datganiad i'r wasg

Dewis Sir Fynwy fel safle Safle Arbrofi 5G i wella cysylltedd yng nghefn gwlad

£25m i brosiectau 5G ar ben-blwydd Strategaeth Ddigidol y DU

5g

5g

  • Safleoedd arbrofi ar draws y DU gyfan i arwain ymdrechion i wneud y DU yn arweinydd byd mewn 5G
  • Cydweithrediad rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn archwilio manteision 5G i gymunedau gwledig, twristiaeth a gofal iechyd
  • Y llywodraeth yn tynnu sylw at y cynnydd hyd yma ar ei strategaeth i greu economi ddigidol sy’n addas ar gyfer y dyfodol
  • Bydd 5GRIT yn creu safle arbrofi 5G ar gyfer achosion defnydd gwledig yn Sir Fynwy, Cymbria, Northumberland, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Lincoln, Swydd Inverness a Swydd Perth.

Ar ben-blwydd cyntaf ei Strategaeth Ddigidol, cyhoeddodd y llywodraeth heddiw enillwyr cystadleuaeth £25 miliwn i baratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno technoleg 5G yn y DU i’r dyfodol.

O Ynysoedd Orkney i Orllewin Lloegr, mae’r chwe phrosiect a arweinir gan fusnesau bach a chanolig (SMEs), prifysgolion ac awdurdodau lleol yn arddangos yr arloesi, yr adnoddau a’r arbenigedd gorau yn y DU.

Byddant yn profi 5G ar draws ystod o gymwysiadau, gan gynnwys ffermio clyfar gyda dronau, defnyddio’r ‘Rhyngrwyd Pethau’ (IoT) i wella gofal iechyd yn y cartref, cynyddu cynhyrchiant y sector gweithgynhyrchu a chynyddu manteision ceir hunan-yrru i’r dyfodol.

Maent yn rhan o ymrwymiad gwerth £1 biliwn drwy’r Strategaeth Ddigidol i gadw Prydain ar y blaen o ran cysylltedd drwy gyflymu’r broses o weithredu seilwaith digidol y genhedlaeth nesaf a hyrwyddo cyfleoedd busnes 5G newydd.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae cyhoeddiad heddiw yn enghraifft arall o sut mae Strategaeth Ddigidol Llywodraeth y DU yn cyflawni ar gyfer pob cwr o Gymru.

Bydd y prosiectau hyn sydd wedi’u teilwra’n arbennig yn gweddnewid ein cymunedau mwyaf gwledig, gan archwilio ffyrdd arloesol o ddefnyddio 5G i ddatblygu’r diwydiant twristiaeth a’r diwydiant amaeth, sy’n hollbwysig i economi Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith cyfathrebu o ansawdd i roi hwb i gynhyrchiant a chapasiti ein busnesau lleol, ac fel bod yr holl drigolion yn gallu cadw i fyny â gweddnewidiad digidol y DU.

Meddai Margot James, Gweinidog Gwladol dros y Diwydiannau Creadigol a Digidol:

Flwyddyn ers lansio’r Strategaeth Ddigidol, rydym yn cyflawni ar ein hymrwymiadau i greu Prydain sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gydag economi ddigidol ffyniannus sy’n gweithio i bawb.

Bydd y prosiectau arloesol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i ddatgloi 5G a sicrhau bod manteision y dechnoleg newydd hon yn cael eu teimlo ar draws yr economi a’r gymdeithas ehangach.

Bydd pob safle arbrofi yn derbyn rhwng £2 miliwn a £5 miliwn mewn grantiau gan y llywodraeth, fel rhan o fuddsoddiad o £41m i gyd gan y sector preifat a chyllid arall o’r sector cyhoeddus, i archwilio technolegau cyfathrebu symudol ‘pumed genhedlaeth’ newydd sy’n defnyddio sbectrwm amledd uchel i ddarparu cyflymder rhyngrwyd a fydd dros gigadid yr eiliad.

Meddai Yr Athro Rahim Tafazolli, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr 5GIC ac arweinydd Rhwydweithiau 5GUK:

Mae’r Ganolfan Arloesi 5G yn falch dros ben o fod wedi cael chwarae rhan arweiniol i gefnogi rhaglen treialon a safleoedd arbrofi 5G DCMS y DU. Mae 5G yn cynrychioli gweddnewidiad sylfaenol yn y rôl y mae technoleg symudol yn ei chwarae mewn cymdeithas, gan gyflenwi gwasanaethau newydd cyfoethog mewn sectorau megis cyllid, trafnidiaeth, adwerthu ac iechyd. Bydd yn sbarduno gwerth triliynau o ddoleri o weithgareddau ychwanegol drwy economi ddigidol y byd a bydd rhaglen DCMS yn sicrhau bod y DU yn dal i fod ar y blaen yn y ras fyd-eang gyffrous hon.

Cafodd y Strategaeth Ddigidol ei lansio ym mis Mawrth 2017 i roi ysgogiad parhaus i sector digidol, sector telathrebu a sector cysylltedd y DU, ac i fuddsoddi mewn diwydiannau, seilwaith a sgiliau. Mae seilwaith hefyd yn un o sylfeini hanfodol ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern, a nod y ddwy yw creu’r amodau er mwyn i economi ddigidol y DU ffynnu; drwy oresgyn y rhwystrau rhag twf a hybu swyddi mwy sgilgar â chyflogau uwch i’r dyfodol.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ceir bron i 60,000 o fusnesau technolegol yn y DU, ni sydd â’r lleoliad gorau o hyd ar gyfer buddsoddi mewn technoleg yn Ewrop ac rydym wedi cadarnhau ein safle fel arweinydd yn rhai o’r sectorau digidol mwyaf arloesol a strategol bwysig.

Yn benodol, mae sector technoleg ariannol y DU yn fwy nag un Efrog Newydd neu weithlu technoleg ariannol Singapore, Hong Kong ac Awstralia gyda’i gilydd. Mae Technoleg Iechyd, sy’n cael ei sbarduno gan anghenion y GIG, yn awr hefyd yn sector digidol sy’n ffynnu yn y DU.

Gan gyflawni ar ei haddewidion i ddiogelu’r economi ar gyfer y dyfodol drwy’r Strategaeth Ddigidol, yn y deuddeg mis diwethaf yn unig, mae’r Llywodraeth:

  • Wedi cyflwyno dros 2.5 miliwn o gyfleoedd hyfforddiant sgiliau digidol am ddim mewn diwydiant fel rhan o’r Bartneriaeth Sgiliau Digidol, gyda bron hanner miliwn o addewidion newydd wedi’u gwneud;
  • Wedi cyrraedd ei tharged i 95% o eiddo i gael mynediad i fand eang cyflym iawn erbyn diwedd 2017;
  • Wedi ymrwymo buddsoddiad o £75 miliwn i gyflawni argymhellion allweddol yn yr adolygiad annibynnol o ddeallusrwydd artiffisial (AI), gan gynnwys Canolfan newydd ar gyfer Moeseg Data ac Arloesi;
  • Wedi cyhoeddi ei bod yn creu cymrodoriaethau a chyllid AI newydd ar gyfer 450 o ymchwilwyr PhD i sicrhau sefyllfa’r DU ar flaen y farchnad AI fyd-eang;
  • Wedi cadarnhau buddsoddiad o £21m yn Tech Nation i sefydlu canolbwyntiau rhanbarthol ar draws y wlad, gan ehangu’r mynediad i raglenni hyfforddiant, mentora a datblygu Tech City;
  • Wedi cyhoeddi £84m i roi hwb i sgiliau 8,000 o athrawon cyfrifiadureg i sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd athro cyfrifiadureg cymwysedig erbyn 2022.
  • Wedi cyhoeddi cynllun i ddatgloi dros £20 biliwn o fuddsoddiad cyfalaf tymor estynedig mewn cwmnïau arloesol drwy ddyblu lwfans blynyddol y Cynllun Buddsoddi mewn Mentrau a’r cynllun Ymddiriedolaeth Cyfalaf Menter;
  • Wedi cefnogi ac ariannu’r Siarter Doniau Technolegol, cynllun sy’n cael ei arwain gan ddiwydiant sydd wedi cael dros 170 o lofnodion i ymrwymo i amrywiaeth mewn technoleg;
  • Wedi helpu i greu amgylchedd ffantastig ar gyfer busnesau technolegol camau cynnar – mae dros 200 o raglenni hybu a 160 o raglenni cyflymu wedi’u lleoli ar draws y DU sy’n cynnig cyfuniad o gyllid, mentora a hyfforddiant;
  • Wedi cyflwyno a diweddaru’r strategaeth 5G i gyflenwi darpariaeth o ansawdd da lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teithio, gan gynnwys nodi camau gweithredu i sicrhau bod y prif reilffyrdd, y prif ffyrdd a ‘llecynnau’ cysylltedd yn barod am 5G.

Mae’r Strategaeth Ddigidol hefyd yn canolbwyntio ar ennyn a chynnal hyder y cyhoedd mewn busnesau sy’n defnyddio data, gan sicrhau hefyd y gall grym data gael ei ddatgloi ar gyfer arloesi.

Mae llawer o sefydliadau angen gweithredu o hyd i sicrhau bod y data personol sydd ganddynt yn ddiogel a’u bod yn barod am y Bil Diogelu Data, a ddaw’n gyfraith ar 25 Mai. Bydd yn rhoi i ddinasyddion y DU fwy o reolaeth dros sut caiff eu data ei ddefnyddio, a rhoi hawliau newydd i symud neu ddileu data personol.

Bydd ymgyrch newydd, dan arweiniad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yn paratoi SMEs i gydymffurfio â’r cyfreithiau hyn a ddiweddarwyd ar gyfer yr oes ddigidol. Bydd yn annog busnesau i gael mynediad at y cyfoeth o gefnogaeth ac arweiniad am ddim sydd ar gael gan yr ICO.

Mae’r Strategaeth hefyd yn adlewyrchu uchelgais y Llywodraeth i wneud y rhyngrwyd yn fwy diogel i blant drwy ei gwneud yn ofynnol i wirio oedran cyn cael mynediad i wefannau pornograffig masnachol yn y DU. Ym mis Chwefror, dynodwyd Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC) yn ffurfiol fel y corff rheoleiddio dilysu oedran.

Ein blaenoriaeth yw gwneud y rhyngrwyd yn fwy diogel i blant a chredwn mai’r ffordd orau o wneud hyn yw drwy gymryd amser i weithredu’r polisi’n iawn. Felly, byddwn yn caniatáu amser i’r BBFC fel y corff rheoleiddio gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ei ganllawiau drafft sy’n cael eu lansio yn ddiweddarach yn y mis.

Er mwyn i’r cyhoedd a’r diwydiant baratoi ar gyfer dilysu oedran a chydymffurfio â hynny, bydd y Llywodraeth hefyd yn sicrhau cyfnod o hyd at dri mis ar ôl i ganllawiau’r BBFC gael eu clirio gan y Senedd cyn i’r gyfraith ddod i rym. Rhagwelir y bydd dilysu oedran yn cael ei orfodi erbyn diwedd y flwyddyn.

Nodiadau i Olygyddion:

Bydd prosiect Sir Fynwy yn rhan o’r cynllun Safleoedd Arbrofi a Threialon 5G canlynol:

Safle Arbrofi Integredig Wledig 5G (5GRIT)

  • Sefydliad arweiniol: Quickline Communications
  • Grant: £2.1m

Bydd 5GRIT yn treialu ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg 5G ar draws ystod o gymwysiadau gwledig, megis twristiaeth, amaeth clyfar a chysylltu cymunedau nad oes ganddynt ddarpariaeth dda, gan ddefnyddio sbectrwm a rennir yn y bandiau teledu a chyfuniad o hunan-ddarpariaeth ac ISPs lleol.

Y nod yn y pendraw yw sicrhau bod cysylltedd o ansawdd da ar gael ar draws Cymbria, Northumberland, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Lincoln, Swydd Inverness, Swydd Perth a Sir Fynwy. Yma, bydd y consortiwm yn datblygu apiau realiti estynedig (AR) parod am 5G ar gyfer twristiaid ac yn ymchwilio i sut gall cysylltedd diwifr ystod uchel gynyddu cynhyrchiant bwyd yn y byd ffermio, gan gynnwys drwy ddefnyddio AR a system erial di-griw.

Meddai Steve Jagger, Rheolwr-Gyfarwyddwr Quickline Communications:

Rydyn ni’n teimlo y gall 5G ddatgloi potensial ardaloedd gwledig drwy roi gwell cysylltiadau i drigolion, busnesau, ffermwyr ac ymwelwyr. Mae ein consortiwm yn dwyn ynghyd fusnesau arloesol a Phrifysgolion arweiniol i wneud y freuddwyd 5G yn realiti.

  • Mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi dogfen drafod Enabling 5G in the UK sy’n datgan sut bydd yn cefnogi’r broses o raddol gyflwyno 5G.
Cyhoeddwyd ar 10 March 2018