Hwb newydd i ddiwydiant dur y DU gan y sector cyhoeddus
Mae cynlluniau wedi cael eu cyhoeddi i wneud yn siŵr bod cwmnïau dur Prydain yn gallu cystadlu’n deg am gontractau sector cyhoeddus.
- am y tro cyntaf, mae’n rhaid i gontractau dur y sector cyhoeddus ystyried dur y DU yn benodol
- mae’r symudiad newydd yn ymestyn gofyniad y llywodraeth ganolog i’r sector cyhoeddus i gyd, gan gynnwys y GIG a chynghorau
- daw’r cynlluniau wrth i’r llywodraeth ddal ati i geisio dod o hyd i ateb hirdymor ar gyfer diwydiant dur Prydain
Yn unol â mesurau newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae’r llywodraeth wedi addo y bydd cwmnïau dur Prydain yn gallu cystadlu’n deg am gontractau ar draws y sector cyhoeddus.
Gan gofio y bydd oddeutu £300 biliwn yn cael ei wario ar brosiectau seilwaith mawr yn y DU dros y 5 mlynedd nesaf, bydd y ddau gynllun newydd a gyhoeddwyd heddiw yn helpu cyflenwyr dur i gystadlu â chyflenwyr rhyngwladol am gontractau pwysig gan y llywodraeth a’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn rhan o gynllun y llywodraeth i sicrhau dyfodol hirdymor diwydiant dur y DU.
Mae canllawiau a gyflwynwyd ym mis Hydref 2015 eisoes yn golygu ei bod yn rhaid i holl adrannau’r llywodraeth ganolog ystyried effaith economaidd a chymdeithasol y dur maent yn ei ddefnyddio ar gyfer pob prosiect mawr, gan gynnwys ar HS2, lle bydd angen dros 2 filiwn o dunelli o ddur. Mae hyn yn golygu na fydd contractau dur ar gyfer y prosiect hwn, sy’n werth £55 biliwn, yn mynd dramor os yw’r cynnig mwyaf cystadleuol yn dod o Brydain.
Heddiw, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn ofynnol i’r sector cyhoeddus fabwysiadu’r newidiadau hyn a gyflwynwyd gan y llywodraeth ganolog ar gyfer pob contract perthnasol. Bydd angen i gaffael cyhoeddus sy’n cynnwys cyflenwi dur ystyried prynu mewn ffordd gyfrifol, yr hyfforddiant y bydd cyflenwyr yn ei roi i’w gweithlu, ôl-troed carbon, gofalu am iechyd a diogelwch staff, a chynhwysiant cymdeithasol gweithwyr sydd dan anfantais.
Bydd hyn yn gadael i brynwyr ym mhob prosiect mawr ystyried gwerth gwirioneddol dur Prydain, gan gynnwys ei effaith gymdeithasol. Bydd angen i gontractwyr sy’n gweithio i’r sector cyhoeddus hysbysebu eu gofynion ar gyfer dur hefyd, er mwyn i gwmnïau yn y DU allu cystadlu.
Mae’r llywodraeth eisoes wedi cymryd nifer o gamau i newid rheolau caffael er mwyn creu cystadleuaeth deg ar gyfer y sector. Ym mis Chwefror 2015, y DU oedd y wlad gyntaf i roi rheolau caffael newydd yr Undeb Ewropeaidd ar waith. Mae’r rhain yn pwysleisio’r angen i roi sylw i ystyriaethau economaidd a chymdeithasol ehangach, gan gynnwys wrth brynu dur a gwneud penderfyniadau ynghylch o ble mae’r dur yn dod.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, ymweld â Tata ym Mhort Talbot ddydd Gwener i glywed pryderon y gweithwyr ac i’w sicrhau bod y llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith a dur Prydain.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cael cyfarfod â Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ddydd Mawrth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am drafodaethau parhaus y llywodraeth â Tata a’n gwaith i gefnogi proses werthu.
Mae’r camau eraill y mae’r llywodraeth wedi’u cymryd i helpu i sicrhau dyfodol y sector hwn yn y DU yn cynnwys:
- symud i eithrio diwydiannau ynni-ddwys – gan gynnwys dur – rhag talu costau ynni, a fydd yn arbed £400 miliwn i’r diwydiant erbyn i gyfnod y Senedd ddod i ben
- sicrhau hyblygrwydd o ran rheoliadau allyriadau’r Undeb Ewropeaidd
- dal ati i fynd i’r afael ag arferion masnachu annheg ar lefel yr Undeb Ewropeaidd ac ar lefel ryngwladol
- mae mesurau a osodwyd ym mis Ionawr ar atgyfnerthu mewnforion bariau dur yn dechrau cael effaith yn barod – roedd mewnforion ym mis Ionawr 2016 99% yn is nag yr oeddent ym mis Ionawr 2015
- cyfarfu ein cyngor dur newydd am y tro cyntaf ar 2 Mawrth a bydd yn edrych ar ddyfodol y sector yn y tymor hwy, a sut gallwn gryfhau ei allu a’i elfennau cystadleuol.
Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn llunio rhestr o gyflenwyr dur cymeradwy. Bydd y cwmnïau sydd ar y rhestr yn bodloni meini prawf llym, gan gynnwys safonau iechyd a diogelwch uchel a manwl, effeithiau amgylcheddol, prynu mewn ffordd gyfrifol, rheoli’r gadwyn gyflenwi a hyfforddi’r gweithlu. Bydd y Llywodraeth a’i chontractwyr yn defnyddio’r rhestr i’w helpu i sicrhau cystadleuaeth deg i’r cyflenwyr hynny sy’n bodloni’r meini prawf.
Dywedodd Matt Hancock, Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet a’r Tâl-feistr Cyffredinol:
Rydym yn mynd ymhellach nag erioed i gefnogi dur Prydain. Mae trethdalwyr yn gwario biliynau o bunnoedd yn prynu dur ar gyfer prosiectau cyhoeddus. Y llynedd, fe wnaethom newid rheolau caffael y llywodraeth ganolog i wneud yn siŵr bod prynwyr yn ystyried gwerth gwirioneddol dur Prydain – gan gynnwys yr effaith leol a swyddi.
Mae’r diwydiant yn ymateb yn gadarnhaol i hyn felly rwy’n dymuno mynd gam ymhellach. Byddwn yn awr yn cyflwyno’r canllawiau hyn ar draws y sector cyhoeddus fel y bydd angen i brynwyr yn y sector cyhoeddus ystyried manteision economaidd a chymdeithasol, yn ogystal â gwerth am arian, p’un a ydym yn sôn am theatrau llawdriniaethau neu adeiladu newydd. Pan fydd cyrff cyhoeddus yn prynu dur, bydd rhaid iddynt ystyried gwerth gwirioneddol prynu o Brydain.
Dywedodd Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Busnes:
Rwy’n benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r diwydiant dur yn y DU, ac i ddod o hyd i ateb ymarferol sy’n cefnogi’r gweithwyr a’r gymuned ehangach. Drwy newid y rheolau caffael ar y prosiectau seilwaith mawr hyn, rydym yn cefnogi dyfodol y diwydiant dur yn y DU, gan greu cyfleoedd mawr i gyflenwyr yn y DU, a gadael iddynt gystadlu â chwmnïau rhyngwladol mewn ffordd fwy effeithiol.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydym ni fel llywodraeth wedi addo helpu’r diwydiant dur sut bynnag y gallwn ni.
Mae cyhoeddiad heddiw, bod angen i’r sector cyhoeddus i gyd erbyn hyn ystyried gwerth gwirioneddol dur Prydain wrth archebu, yn gam arall sy’n adeiladu ar newidiadau a wnaed i ganllawiau caffael y llynedd. Bydd yn creu cyfleoedd newydd i’n cyflenwyr ac yn eu helpu i gystadlu am gontractau.
Enghreifftiau o brosiectau diweddar sydd wedi defnyddio dur o’r DU
Network Rail
Bob blwyddyn, mae Network Rail yn prynu oddeutu 120,000 o dunelli o ddur ar gyfer cledrau yn uniongyrchol gan Tata Steel yn Scunthorpe. Mae hynny oddeutu 96% o werth holl alw crynswth Network Rail.
Highways England
Er gwaetha’r newidiadau yn allbwn dur y DU dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Highways England a’i ragflaenydd wedi parhau i fuddsoddi’n drwm mewn dur o’r DU.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Highways England wedi defnyddio fframwaith rheoli categorïau fel ei brif ffordd o gaffael nenbontydd dur ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Hyd yn hyn, mae oddeutu 95% o’r dur hwn wedi dod o Tata Steel yn y DU, sy’n gyfystyr ag oddeutu 11,000 o dunelli o ddur. Mae gwariant y fframwaith yn £30 miliwn yn fras, ac mae tua 35% o hwnnw yn gaffael dur, h.y. deunyddiau crai, ac yn gyfystyr â thua £10.5 miliwn.
Crossrail
Mae’r 57km o ddur sydd ei angen ar gyfer rheilffyrdd twnnel canolog newydd sbon Crossrail i gyd yn dod o Tata Steel yn Scunthorpe. Mae hyn yn gyfystyr â 7,000 o dunelli o ddur. Nid yw Crossrail Ltd. yn caffael dur yn uniongyrchol – eu contractwyr haen 1 a’u cadwyni cyflenwi sy’n gwneud hyn. Fodd bynnag, mae Crossrail yn cadw golwg ar ei gontractau pwysig ac mae’n amcangyfrif bod 85% o’i gadwyn gyflenwi sy’n darparu dur ar gyfer y prosiect yn dod o’r DU.
Intercity Express Programme
Darparodd Finley Structures Limited o Newton Aycliffe 2,000 o dunelli o ddur strwythurol i adeiladu Cyfleuster Gweithgynhyrchu Cerbydau Rheilffordd Hitachi (gwerth £82 miliwn) yn Swydd Durham. Daeth y dur o nifer o wahanol lefydd, gan gynnwys Corby, Redcar a Chasnewydd. Bydd cyfleuster Hitachi yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r fflyd newydd trawsnewidiol o drenau InterCity Express.
Twnnel Tideway Afon Tafwys
Mae strwythurau dur ymysg y prif bethau sydd eu hangen ar gyfer y prosiect £4.2 biliwn hwn, a fydd yn cynnwys nifer fawr o weithwyr adeiladu medrus cysylltiedig.
Cludwyr awyrennau’r Weinyddiaeth Amddiffyn
Cyflenwodd Tata Steel 40,000 o dunelli o ddur ar gyfer HMS Queen Elizabeth, a chreodd dair gradd cwbl newydd o ddur ysgafnach a chryfach yn arbennig ar gyfer banerlong y Llynges Frenhinol yn y dyfodol. Bydd Tata Steel hefyd yn cyflenwi dur ar gyfer yr ail gludydd, HMS Prince of Wales.