Datganiad i'r wasg

Neges y Flwyddyn Newydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

David Jones AS yn edrych ymlaen at 2014

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

David Jones MP

Wrth i 2013 dynnu at ei therfyn, gallwn edrych ymlaen at 2014 gyda brwdfrydedd o’r newydd. Drwy lynu wrth ein cynllun economaidd ar gyfer y materion mawr sy’n bwysig i bobl Cymru, rydw i’n falch o gael dweud ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae’r Llywodraeth hon wedi rhoi mwy a mwy o fesurau cadarn yn eu lle i helpu i ailadeiladu a meithrin yr economi. Rhaid i ni gofio ein bod wedi etifeddu gwaddol echrydus – un a oedd yn ein gorfodi i wneud penderfyniadau eithriadol anodd. Rydw i’n gwybod bod rhai o’r penderfyniadau hyn wedi effeithio arnoch chi’n bersonol neu’n broffesiynol. Ond dim ond drwy ddal ein tir y bydd posib i ni wynebu’r her a datblygu i fod yr economi sy’n tyfu gyflymaf yn y byd Gorllewinol.

Bydd ein cysondeb wrth fynd i’r afael â’r diffyg ariannol, gan sicrhau hefyd bod y DU yn lle gwych i wneud busnes ynddo, yn golygu ein bod nid yn unig yn gweld bod yr economi yn tyfu, ond bod y twf hwnnw’n ennill momentwm.

Yng Nghymru, rydym wedi gweld cwmnïau’n dangos yn gyson mai nid dim ond goroesi y maent ond, yn hytrach, arloesi a ffynnu. Mae gennym fwy nag erioed o bobl mewn gwaith ac, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi bod yn dyst i’r cynnydd canran mwyaf mewn cyflogaeth yn y sector preifat mewn unrhyw ranbarth yn y DU.

Yn 2013, fel sail i’w huchelgais i sicrhau cydbwysedd o’r newydd yn economi Cymru a meithrin y sector preifat, gwnaed buddsoddiad mawr yn y seilwaith gan Lywodraeth y DU.

O’r £250 miliwn o fuddsoddiad mewn carchar newydd yn Wrecsam i gefnogaeth ar gyfer cyllido gorsaf pŵer niwclear Wylfa Newydd, rydym wedi dangos ein hymrwymiad i wella seilwaith Prydain, sy’n hanfodol yn ein barn ni i gyflwyno twf economaidd tymor hir a chytbwys.

Rydym hefyd yn gwybod bod seilwaith TG yn rhan hanfodol o’n heconomi. Dyna pam ein bod wedi rhoi bron i £57 miliwn i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod cartrefi a busnesau yn rhai o ardaloedd mwyaf anhygyrch Cymru yn gallu cael band eang. Rydw i wrth fy modd bod yr ehangu ar droed eisoes.

Mae mwy a mwy o gymunedau’n elwa o ddefnyddio tua 3,000 o gabinetau band eang ffibr newydd ledled Cymru, ac mae’r busnesau yn ein Dinasoedd Cysylltiad Cyflym, sef Caerdydd a Chasnewydd, yn gallu gwneud cais yn awr am grantiau unigol o hyd at £3,000 i dalu costau gosod band eang cyflymach a gwell.

Yn y dyfodol agos iawn, bydd tua 100,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn cael mynediad i fand eang cyflym iawn o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect hwn.

Hefyd rydym wedi parhau i ddangos bod y Llywodraeth hon yn sefyll yn gadarn ar ochr busnesau. Cyflwynodd Cyllideb y Canghellor a Datganiad yr Hydref eleni bolisïau a fydd yn rhoi hwb i fusnesau a hyder defnyddwyr yma yng Nghymru; ac roedd lansio ein strategaeth Busnesau Bach: Uchelgais MAWR yn dangos yn glir ein hymrwymiad i roi grym i fusnesau bach.

Yn 2013, cyhoeddwyd y byddwn yn datganoli pecyn o bwerau benthyg a threthu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn rhoi iddynt yr adnoddau i fuddsoddi yng Nghymru ac, am y tro cyntaf, bydd y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol atebol i’r bobl sy’n eu hethol.

Cyhoeddwyd Bil drafft gennym ar gyfer Cymru cyn y Nadolig, fel cam cyntaf tuag at weithredu’r newidiadau hyn. Rwyf yn bwriadu bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth cyn gynted ag y bydd amser seneddol yn caniatáu, ar ôl craffu ar ddrafft y Bil.

Fodd bynnag, nid ydym eisiau aros nes i bwerau benthyg newydd Llywodraeth Cymru ddod yn weithredol cyn bwrw ymlaen â’r gwelliannau y mae eu gwir angen i’r M4 yn ardal Casnewydd. Felly, ym mis Tachwedd, roeddwn i’n hynod falch o groesawu Prif Weinidog Cymru i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio ei phwerau benthyg cyfyngedig presennol i sicrhau bod cynllun gwella’r M4 ar droed cyn gynted â phosib.

Yn ystod yr ymweliad hwnnw, cyhoeddodd y Prif Weinidog hefyd y bydd Cymru’n cynnal Uwch Gynhadledd NATO yn 2014. Hon fydd un o’r uwch gynadleddau rhyngwladol mwyaf i’w cynnal yn y DU erioed a’r uwch gynhadledd gyntaf gan NATO i’w chynnal yma ers 1990.

Bydd dod â NATO i Gymru yn gyfle i ni dynnu sylw at yr hyn sydd gan Gymru, ei phobl a’i busnesau i’w gynnig i’r byd. Cawn gyfle i ddisgleirio ar y llwyfan rhyngwladol ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn anfon arweinwyr y byd gartref gyda neges glir a chadarnhaol am bopeth sydd gan Gymru i’w gynnig.

Yn 2014, byddwn hefyd yn dod at ein gilydd fel cenedl i nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Drwy gyfrwng rhaglen pedair blynedd o ddigwyddiadau, byddwn yn anrhydeddu bywydau a dewrder pawb a wasanaethodd yn y rhyfel, fel aelodau o’r fyddin a gartref.

Yn gyfansoddiadol, 2014 fydd y flwyddyn bwysicaf i’r Deyrnas Unedig ers mwy na 300 o flynyddoedd. Mewn dim ond naw mis, gofynnir i bobl yr Alban wneud dewis hanesyddol rhwng parhau â’r Undod – aros yn rhan o’r DU – neu fynd eu hunain. Mae’n benderfyniad sydd â goblygiadau pwysig a phellgyrhaeddol i bob rhan o’r DU, gan gynnwys Cymru.

Yn fy marn i, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno achos cadarnhaol a chryf i ddarbwyllo pobl yr Alban y dylai’r Alban aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Fel Cymro balch, ac un sydd o blaid undod, rwy’n ymgyrchu’n daer dros weld yr Alban yn pleidleisio dros Undod cadarn a pharhaus.

Yn 2014, byddwn yn parhau i reoli ein heconomi yn ofalus, i greu swyddi ac i ysgogi’r twf y mae Cymru wir ei angen. Os yw Cymru am lwyddo, mae’n rhaid i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru gydweithio’n agos, a dyna beth rydw i’n benderfynol o’i wneud.

Ar ddechrau Blwyddyn Newydd, rydym yn gwneud hynny gyda’r hyder sy’n dod o sefydlu’r polisïau priodol er mwyn sicrhau bod Cymru, a’r DU yn gyffredinol, yn gallu llwyddo yn y ras fyd-eang.

Ymhlith yr addewidion niferus a gaiff eu gwneud ar Ionawr 1af, gadewch i ni wneud un addewid er lles Cymru. Gadewch i ni ddechrau 2014 gydag addewid i groesawu’r dyfodol gydag optimistiaeth a realaeth, a pharhau i gydweithio er mwyn cynnal y cynnydd da sydd wedi’i wneud gyda’r heriau rydym wedi’u hwynebu, ac yr ydym wedi dod drwyddynt, gyda’n gilydd.

Ymunaf â’m cydweithwyr Gweinidogol yn Swyddfa Cymru i ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a llewyrchus i bawb.

Cyhoeddwyd ar 31 December 2013