Dioddefwyr trais rhywiol yng Nghymru i dderbyn cyllid gan Lywodraeth y DU
Dyfarnwyd cyllid i chwe chanolfan ledled Cymru i alluogi mwy o ddioddefwyr i gael cyngor, cymorth a chwnsela
- Canolfannau cymorth trais ledled Cymru yn derbyn cynnydd o 50 y cant mewn cyllid
- Rhan o’r cynnydd mewn cyllid ledled y DU o £32 miliwn dros dair blynedd
- Mwy o ddioddefwyr nag erioed dderbyn cymorth wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bydd dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhywiol ar draws Cymru yn elwa o hwb ariannol gwerth 50 y cant ar gyfer gwasanaethau cymorth arbenigol.
Mae dros £ 1.3 m wedi’i ddyfarnu dros ddwy flynedd i chwe chanolfan cymorth trais rhywiol ledled Cymru.
Bydd yr arian hwn yn golygu y bydd mwy o ddioddefwyr trais nag erioed yn gallu cael cyngor, cymorth a chwnsela hanfodol.
Cofnodwyd dros 8000 o droseddau rhywiol gan yr heddlu ledled Cymru y llynedd, ac mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o gynnydd o 50 y cant ar gyfer gwasanaethau ledled Cymru a Lloegr – cyfanswm o £ 32m dros dair blynedd hyd at 2022.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn buddsoddi £1 miliwni benodi mwy o gynghorwyr trais rhywiol annibynnol (ISVAs) ledled y DU, sy’n rhoi cyngor a chymorth i ddioddefwyr, gan weithredu fel y cyswllt rhwng yr heddlu, y gwasanaethau cymorth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae treisio a thrais rhywiol yn droseddau gwirioneddol brawychus sy’n cael effaith hirdymor ar fywydau dioddefwyr.
Mae’n galondid i mi y bydd mudiadau ym mhob un o bedair ardal heddlu Cymru yn gallu helpu mwy o bobl i gael y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i wella o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth y DU.
Cofnodwyd mwy na 160,000 o droseddau rhywiol gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr y llynedd. Mae’r £32 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU yn ariannu 76 o wasanaethau cymorth trais yn uniongyrchol a 18 arall drwy Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu dros gyfnod o dair blynedd, ac mae’n sicrhau bod cymorth hanfodol ar gael i ddioddefwyr ym mhob un o 42 o ardaloedd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Dyma’r ail dro i Lywodraeth y DU gynyddu’r cyllid dros y flwyddyn ddiwethaf i’r gronfa cymorth trais rhywiol, gan ddod ag ef i £12 miliwn y flwyddyn o fis Ebrill. Bydd y cynnydd hwn yn caniatáu i’n gwasanaethau lleol gynllunio ar gyfer y dyfodol – gan gynnig sefydlogrwydd a diogelwch iddynt fel y gallant ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau y mae taer angen amdanynt ar ddioddefwyr.
Mae’r newid yn adeiladu ar gyfreithiau newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a fydd yn sicrhau bod troseddwyr treisgar a rhywiol difrifol yn treulio mwy o amser y tu ôl i fariau – gan sicrhau bod y cyhoedd a dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn rhag y troseddau erchyll hyn.
DIWEDD
Rhagor o wybodaeth:
Dyfarnwyd cyllid i’r chwe canolfan cymorth trais rhywiol a ganlyn:
Ardal Comisiynydd Heddlu a Throsedd | Lleoliad | Darparwr |
---|---|---|
Dyfed Powys | Aberystwyth | Mid Wales Rape Support Centre |
Dyfed Powys | Drenewydd | New Pathways (Dyfed Powys) |
Gwent | Torfaen | Cyfannol Women’s Aid |
Gogledd Cymru | Bangor | Rape And Sexual Abuse Support Centre North Wales |
Gogledd Cymru | Wrexham | Stepping Stones North Wales |
De Cymru | Merthyr Tydfil | New Pathways (South Wales) |
Nodiadau i olygyddion
- Bydd dioddefwyr ledled Cymru yn elwa o gael hwb ariannol o dros £220,000, gan godi cyfanswm cyllid y MoJ ar gyfer gwasanaethau cymorth trais rhywiol yng Nghymru i dros £680,000 y flwyddyn am 2020-22.
- Mae cyllid MOJ ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr wedi dyblu bron ers 2012/13 (drwy gynyddu refeniw a godir gan droseddwyr). Eleni fe ddyfarnodd tua £92 miliwn ar y gwasanaethau hyn. Dros y blynyddoedd blaenorol, mae hyn wedi bod yn £ 96m oherwydd cyfraniad o £ 4m at gytundeb caethwasiaeth fodern y Swyddfa Gartref – Mae’r arian hwn wedi’i drosglwyddo’n uniongyrchol i’r Swyddfa Gartref erbyn hyn.
- Mae MOJ yn cyfrannu at wasanaethau cymorth i dreisio ledled Cymru a Lloegr ac mae lefel y cyllid grant yn amrywio. Yn 2018/19 dyrannwyd tua £7.2 miliwn gennym i’r canolfannau hyn i ddarparu cymorth arbenigol annibynnol i ddioddefwyr trais rhywiol gan fenywod a dynion, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin plant yn rhywiol. Cynyddodd hyn i £8 miliwn yn 2019/20 a bydd yn cynyddu i £ 12m bellach y flwyddyn ar gyfer 2020-2022.
- Yn 2019/20, dyranwyd Comisiynwyr yr heddlu a throseddu o tua £68 miliwn o gyllid i gomisiynu gwasanaethau cymorth emosiynol ac ymarferol yn lleol i ddioddefwyr troseddau, gan gynnwys dioddefwyr trais rhywiol, gan eu bod yn y sefyllfa orau i ymateb i angen lleol.
- Amcangyfrifodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr fod 20% o fenywod a 4% o ddynion wedi profi rhyw fath o ymosodiad rhywiol ers iddynt fod yn 16 oed, sy’n cyfateb i tua 3.4 miliwn o ddioddefwyr benywaidd a 631,000 o ddioddefwyr gwrywaidd.
- Ym mis Medi 2018, cyhoeddwyd y strategaeth gyntaf ar draws y llywodraeth ar gyfer dioddefwyr, a oedd yn amlinellu sut y byddwn yn gwella’r cymorth a gynigir i ddioddefwyr ar bob cam o’r system gyfiawnder.