Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bragu ar gyfer llwyddiant Cymru ym myd chwaraeon – gyda 264,000 peint o gwrw

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bragu ar gyfer llwyddiant Cymru ym myd chwaraeon – gyda 264,000 peint o gwrw

Secretary of State for Wales Rt Hon Alun Cairns

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn bragu ar gyfer llwyddiant Cymru ym myd chwaraeon – gyda 264,000 peint o gwrw

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, wedi helpu i lansio’r 2000fed swp o gwrw i gael ei gynhyrchu ym Mragdy Magwyr - gyda’r galw’n cynyddu wrth i Gymru edrych ymlaen yn eiddgar at sioe bêl-droed enfawr.

Dechreuodd Mr Cairns y “broses stwnshio” a fydd yn cynhyrchu mwy na 264,000 peint o Budweiser.

Mae Bragdy Magwyr yng Nghasnewydd - sydd hefyd yn gwneud Stella Artois - yn cynhyrchu symiau enfawr o gwrw cyn yr haf prysur o chwaraeon, gan gynnwys nid yn unig Ewro 2016 ond hefyd pencampwriaethau tennis Wimbledon, sy’n cael eu noddi gan Stella Artois.

Hyd yn hyn eleni, mae’r bragdy wedi cynhyrchu mwy na 500 miliwn peint o gwrw mewn 2000 o sypiau - ugain y cant yn fwy na’r un cyfnod yn 2015.

Rhagwelodd Mr Cairns - sy’n mynd i gêm Cymru yn erbyn Slofacia y penwythnos hwn - y byddai cefnogwyr chwaraeon sychedig o flaen eu sgriniau teledu yn cadw’r bragdy’n brysur dros ben.

“Mae gêm gyntaf Cymru yn erbyn Slofacia - ynghyd â chynnydd yn y tymheredd gartref - yn gyfuniad sy’n siŵr o gadw’r llinellau cynhyrchu i fynd yn barhaus”, meddai.

“Mae Bragdy Magwyr yn un o lwyddiannau mawr Cymru. Mae cwmnïau fel AB InBev yn helpu i sicrhau fod economi Cymru’n pefrio - yn union fel eu cwrw.” Mae AB InBev yn un o nifer o gwmnïau ffyniannus sy’n agos at yr M4. Fe’i agorwyd ym 1979, ac mae’n cyflogi mwy na 300 o bobl ac yn cefnogi tua 7,500 o swyddi lleol yn anuniongyrchol.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion

• Magwyr yw bragdy mwyaf AB InBev yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cynhyrchu rhai o’r mathau mwyaf poblogaidd o gwrw yn y byd, gan gynnwys Budweiser a Stella Artois.

• Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd y cwmni 53 o swyddi newydd llawn amser ym Magwyr, sy’n cynhyrchu casgenni, caniau a photeli ar draws chwe llinell becynnu ac sy’n bragu tua 792 miliwn o beintiau o gwrw bob blwyddyn.

• Ers i beint o gwrw cyntaf y bragdy gael ei arllwys, mae dros 20 biliwn peint wedi cael eu bragu ym Magwyr

Cyhoeddwyd ar 9 June 2016