Ymateb Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Ymgynghoriad Cyhoeddus y DVLA
Wrth ymateb i Ymgynghoriad Cyhoeddus y DVLA a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:** ** Mae gan y DVLA enw…
Wrth ymateb i Ymgynghoriad Cyhoeddus y DVLA a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:** **
Mae gan y DVLA enw da arbennig am ddarparu hyblygrwydd i fodurwyr, am gadw ein ffyrdd yn ddiogel, am gefnogi’r heddlu ac am swyddogaethau hanfodol eraill sy’n ymwneud a’r ffordd. Rwy’n falch y gallai pencadlys cenedlaethol y DVLA yn Abertawe ddod yn fwy canolog wrth ddarparu gwasanaethau electronig a chydlynol ar gyfer y DU gyfan. Felly, mae’r adolygiad arfaethedig o wasanaethau DVLA yn bwysig wrth ddarparu’r hyblygrwydd a’r dewis priodol i fodurwyr gael mynediad at wasanaethau y mae arnynt eu hangen.