Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu adnewyddu siarter y BBC

Mae Alun Cairns yn croesawu adnewyddu siarter y BBC a'r aelod newydd ar y bwrdd unedol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Hysbysiad i’r Wasg:

Heddiw, dywedodd Alun Cairns y bydd cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael gwell gwasanaeth o dan Siarter Frenhinol newydd y BBC, wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi’r Siarter a’r Cytundeb Fframwaith sy’n cyd-fynd â hi.

Bydd y cytundeb yn helpu i sicrhau bod cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael gwasanaeth gwell drwy gynnwys aelod o Gymru ar Fwrdd Unedol newydd y BBC. O hyn ymlaen, bydd y BBC hefyd yn cael ei reoleiddio’n allanol gan Ofcom, a fydd yn rhoi rhwymedigaethau ar y BBC i adlewyrchu Cymru a bydd modd iddo graffu ar y gorfforaeth.

Mae’r ddogfen Siarter hefyd yn nodi’r cytundeb rhwng y BBC ac S4C yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd y cyllid a gaiff S4C drwy ffi’r drwydded yn aros ar £74,500,000 y flwyddyn tan 2021/2022, ac erbyn hynny, bydd adolygiad S4C wedi’i gwblhau.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n hynod falch y bydd cynulleidfaoedd Cymru yn cael gwasanaeth gwell, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn dilyn cyhoeddi Siarter Frenhinol newydd y BBC. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau bod Cymru yn cael ei hadlewyrchu’n well drwy faes darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Drwy gael aelod yn cynrychioli Cymru ar Fwrdd newydd y BBC, bydd llais ein cenedl yn cael ei glywed ar lefel uchaf y BBC. Ochr yn ochr â’r newidiadau i rôl Ofcom, a’r ffaith ei bod yn ofynnol cynhyrchu cyfran o raglenni yng Nghymru bellach, mae hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous iawn i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ffynnu.

Mae gennym hanes hir a balch o greu rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru, a bydd cyhoeddiad heddiw yn helpu ein cwmnïau cynhyrchu i ffynnu a pharhau i wneud cyfraniad gwerthfawr at economi Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 September 2016