‘Ailenwi un o Bontydd Hafren yn swyddogol fel Pont Tywysog Cymru’
Y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn bresennol mewn seremoni i ddathlu ailenwi Ail Bont Hafren
Mae’r Tywysog Charles wedi nodi’n swyddogol ailenwi Ail Bont Hafren mewn seremoni yng Nghasnewydd heddiw (2 Gorffennaf).
Ymunodd Duges Cernyw â’i Uchelder Brenhinol ar ymweliad â De Cymru a oedd yn nodi dechrau taith flynyddol ‘Wythnos Cymru’ Eu Huchelderau Brenhinol.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn gynharach eleni y penderfyniad i ailenwi’r bont yn ‘Bont Tywysog Cymru’ yn deyrnged i’w Uchelder Brenhinol yn y flwyddyn lle mae’n nodi 60 mlynedd fel Tywysog Cymru, ac fel dathliad o Dywysogion Cymru yn y gorffennol a’r presennol.
Croesawyd eu Huchelderau Brenhinol i Gymru heddiw gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
Mae’r penderfyniad i ailenwi Ail Bont Hafren wedi cael cefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru.
Bu’r cwpl Brenhinol ar daith o gwmpas swyddfa dollau Pontydd Hafren gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan gwrdd â staff Highways England a fu’n gyfrifol am y Pontydd ers iddyn nhw ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus ym mis Ionawr eleni.
Yna, teithiodd y garfan i westy’r Celtic Manor ar gyfer derbyniad i ddathlu’r digwyddiad, lle dadorchuddiodd Tywysog Cymru blac seremonïol i nodi ailenwi’r Bont.
Wrth annerch y gwesteion o’r naill ochr a’r llall i’r bont, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydw i’n falch iawn bod Eu Huchelderau Brenhinol wedi gallu ymuno â ni ar ddechrau eu hwythnos o daith o gwmpas Cymru, ar yr achlysur arbennig hwn sy’n nodi dechrau cyfnod newydd o gyfleoedd trawsffiniol.
Drwy ei waith elusennol helaeth a’i gefnogaeth i fusnes a menter yng Nghymru, mae Ei Uchelder Brenhinol wedi rhoi degawdau o wasanaeth parhaus a phwrpasol i’n gwlad.
Rydw i’n gobeithio y bydd pont newydd Tywysog Cymru a’i chwaer bont yn cael eu gweld fel symbolau cadarnhaol o’r cyfleoedd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol wedi eu bywiogi o’r newydd a ddaw i Gymru, gan helpu i sicrhau bod ein cenedl yn addas ar gyfer y dyfodol.
Daw’r ymweliad yn ystod y flwyddyn y mae disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddileu’r tollau i ddefnyddio Pontydd Hafren.
Bydd y garreg filltir nodedig hon yn nodi cyflawni ymrwymiad Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu coridorau twf cryfach ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr, lledaenu ffyniant, a galluogi Cymru i gyflawni ei botensial ar y llwyfan byd-eang.
Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:
Mae Pont Tywysog Cymru yn borth gwych i dde Cymru, ac mae’r tollau is yn barod wedi arwain at fwy na £5 miliwn o arbediad i yrwyr.
Bydd Cymru a de orllewin Cymru yn cael hwb economaidd arall pan ddiddymir y tollau erbyn diwedd y flwyddyn, a bydd teuluoedd sy’n gweithio’n galed yn arbed dros fil o bunnoedd y flwyddyn.