Dydd Gŵyl Dewi 2014: neges gan y Prif Weinidog
Mae'r Prif Weinidog yn anfon ei ddymuniadau gorau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi ac yn edrych ymlaen at Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru eleni.
Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn amser i ddathlu hanes hynod a chyfoethog Cymru, ei hiaith hardd a’i hetifeddiaeth ddiwylliannol. Ond eleni, rydym yn edrych ymlaen at amser pryd y caiff Cymru gyfle i arddangos ei nodweddion arbennig ar lwyfan gwirioneddol ryngwladol.
Ym mis Medi, cynhelir Uwch Gynhadledd NATO yn ne Cymru, gan ddarparu cyfle unigryw i bawb – o arweinwyr busnes i blant ysgol – gyflwyno popeth gorau sydd gan Gymru i gynulleidfa fyd-eang.
Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cymryd y cyfle hwn i ddangos fod Cymru’n lle gwych i fyw, i ymweld ag ef ac i gynnal busnes. Rwy’n falch iawn fod baner Cymru’n chwifio uwchben Stryd Downing heddiw ac rwy’n dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.