Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar etholiadau’r Cynulliad
Alun Cairns: "Fy mhrif flaenoriaeth yw gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gael sicrwydd economaidd i bobl yng Nghymru"
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a37dabaed915d5a5f965fd7/s300_UKG_Logo__2_.png)
Hoffwn longyfarch Carwyn Jones ar ei lwyddiant yn yr etholiad.
Gan fod yr etholiadau drosodd erbyn hyn, fy mhrif flaenoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol yw gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru – pa bynnag bleidiau sy’n rhan ohoni – i gael sicrwydd economaidd i bobl yng Nghymru.
Credaf fod gan Lywodraeth newydd Cymru bum blaenoriaeth glir wrth gydweithio â San Steffan.
- Gweithio gyda Llywodraeth y DU wrth iddi ddal i ymdrechu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Tata Steel.
- Gwireddu potensial Gogledd Cymru: sefydlwyd Pwerdy’r Gogledd er mwyn meithrin cysylltiadau busnes mewn ardal sy’n ymestyn o Ogledd Cymru i Newcastle. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi pwerau i gymunedau a phobl leol i’w helpu i wireddu eu potensial a hybu twf.
- Gwelliannau i’r M4: mae Llywodraeth y DU wedi tanysgrifennu pwerau benthyg Llywodraeth Cymru o hyd at £500 miliwn i helpu i sicrhau gwelliannau. Mae angen i ni sicrhau bod hyn yn digwydd yn fuan.
- Y refferendwm Ewropeaidd: mae angen i bobl o wahanol bleidiau gwleidyddol ddod at ei gilydd ac egluro ein cred gyffredin y bydd Cymru’n ffynnu drwy aros mewn Undeb Ewropeaidd diwygiedig. Mae taflen Llywodraeth y DU a fydd yn cael ei dosbarthu i bob cartref yng Nghymru cyn bo hir yn amlinellu ein rhesymau dros aros. Mae angen i ni roi gwleidyddiaeth pleidiau o’r neilltu er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yng Nghymru’n gwneud dewis sy’n seiliedig ar ffeithiau.
- Manteisio ar y cyfleoedd a gynigir ym Mil Cymru yn y dyfodol i sicrhau Senedd go iawn i Gymru, â mwy o bwerau a Llywodraeth a fydd yn gyfrifol am godi arian yn ogystal â gwario arian.
Mae gwleidyddiaeth Cymru yn rhy aml o’r hanner wedi gweld teyrngarwch llwythol a thuedd i wrthwynebu dim ond er mwyn gwrthwynebu y naill ben a’r llall i’r M4. Mae’n bryd i ni gael agwedd bragmataidd newydd. Wrth i ni agosáu at gam nesaf datganoli yng Nghymru, fy neges i i Lywodraeth newydd Cymru yw bod angen i ni roi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu a symud ymlaen â’r gwaith mawr o gyflawni prosiectau a fydd o fudd gwirioneddol i fywydau pobl. Os gallwn wneud hyn, yna pobl Cymru fydd yr enillwyr go iawn yn yr etholiad hwn.