Techniquest i gael £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatblygu canolfan STEM
Chwe chanolfan wyddoniaeth yn y Deyrnas Unedig i gael hwb ariannol i ysbrydoli rhagor o ymwelwyr i archwilio a darganfod gwyddoniaeth
- Bydd £13 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn chwe chanolfan wyddoniaeth ledled y Deyrnas Unedig i helpu i gyflwyno rhyfeddodau gwyddoniaeth i bobl o gwmpas y wlad
- Bydd Techniquest ym Mae Caerdydd yn cael £3 miliwn i ddatblygu canolfan STEM, gan amrywio ei gynulleidfaoedd drwy gyfrwng cynnwys newydd arloesol.
- Bydd y Canolfannau Gwyddoniaeth llwyddiannus yn Yr Alban, Cymru a Lloegr hefyd yn defnyddio’r arian i ddatblygu modelau busnes cynaliadwy er mwyn sicrhau llwyddiant parhaus am flynyddoedd i ddod
Heddiw, cafodd chwe Chanolfan Wyddoniaeth ledled y Deyrnas Unedig chwistrelliad o £13 miliwn o gyllid i helpu i ddenu miloedd o ymwelwyr newydd.
Bydd Catalyst yn Widnes, Canolfan Wyddoniaeth Dundee, Eureka! Mersey, Canolfan Wyddoniaeth Glasgow, y Ganolfan Wyddoniaeth Genedlaethol yng Nghaerlŷr, a Techniquest yng Nghaerdydd i gyd yn cael cyllid newydd ar ôl cyflwyno cynlluniau cyffrous i gysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau nad ydyn nhw’n ymweld â chanolfannau gwyddoniaeth nac yn ymgysylltu â dysgu ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ar hyn o bryd.
Bydd yr arian yn helpu pob canolfan i greu gweithgareddau dysgu newydd i helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd, gwella eu cyfleusterau a datblygu modelau busnes cynaliadwy.
Yng Nghymru, bydd y Brifddinas Wyddoniaeth yn trawsnewid Techniquest, gan ei ymestyn i ganolfan STEM gyfoes, ac amrywio ei gynulleidfaoedd. Bydd yn cyflwyno cynnwys newydd arloesol, a ddatblygwyd gyda busnesau ac academyddion sydd ar flaen y gad yn y maes STEM yng Nghymru, ac fe’i hategir gan raglen o gydgynhyrchu cymunedol, gan amlygu’r rôl y mae technolegau STEM yn ei chwarae i ffurfio dyfodol ein cymdeithas.
Bydd y cyllid newydd yn cael ei gyflwyno drwy’r Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth, sy’n fenter ar y cyd gan Wellcome a’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Nod y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yw cynorthwyo cynulleidfaoedd nad ydyn nhw wedi eu gwasanaethu na’u cynrychioli’n ddigonol, gan ddarparu cyfleoedd dysgu ac ymgysylltu â gwyddoniaeth sy’n hygyrch i bawb drwy Ganolfannau Gwyddoniaeth o gwmpas y wlad.
Ar ei ymweliad â Techniquest yng Nghymru, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r cyhoeddiad heddiw am y cyllid yn hwb derbyniol iawn i lawer o ganolfannau gwyddoniaeth ar draws y Deyrnas Unedig, ac ni allaf feddwl am dderbynnydd mwy teilwng na Techniquest ym Mae Caerdydd.
Mae’r ganolfan yn gartref i lawer o atgofion melys plant ac oedolion De Cymru ac ymhellach i ffwrdd, a oedd o bosibl yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth a thechnoleg am y tro cyntaf wrth ymweld â’r ganolfan. Bydd yr arian hwn yn galluogi Techniquest i gamu ymlaen i ddatblygu technoleg STEM arloesol, gan ddenu rhai o feddyliau gwyddonol mwyaf craff Cymru i chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu ein cymdeithas yn y dyfodol.
Dywedodd Sam Gyimah, y Gweinidog Gwyddoniaeth:
Rydyn ni eisiau cyflwyno rhyfeddodau gwyddoniaeth i gynulleidfa mor eang â phosibl, a dyna pam ei fod wrth wraidd ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern. Bydd y buddsoddiad heddiw yn helpu i ysbrydoli pobl o bob cwr o’r wlad i ddysgu am y manteision gwirioneddol anhygoel sydd gan wyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer ein holl fywydau.
Dywedodd Simon Chaplin, Cyfarwyddwr Diwylliant a Chymdeithas yn Wellcome:
Yn Wellcome, rydym yn canolbwyntio ar bobl, ac mae ein gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd yn ymwneud â helpu pawb i chwarae eu rhan eu hunain i wella iechyd. Mae’r Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yn galluogi canolfannau gwyddoniaeth ar draws y wlad i ddod â gwyddoniaeth, iechyd ac ymchwil yn nes at y cyhoedd.
Rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r canolfannau llwyddiannus yn datblygu a sut maen nhw’n defnyddio’r arian hwn i gynnwys rhagor o bobl nag erioed o’r blaen mewn gwyddoniaeth mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn ddefnyddiol i’w bywydau eu hunain.
Dywedodd Lesley Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Techniquest:
Rydyn ni ar ben ein digon ein bod ni wedi cael y cyllid hwn, ac rydym yn ddiolchgar i BEIS a Wellcome am gredu yn ein huchelgeisiau. Mae’n benllanw dros flwyddyn a hanner o waith caled gan ein tîm talentog, sy’n hynod o frwd dros y cam nesaf hwn yn ein hesblygiad.
Mae’n golygu bod ein cynlluniau i ehangu ein canolfan darganfod gwyddoniaeth, ac ymestyn ein darpariaeth i sicrhau bod gwyddoniaeth yn hygyrch i bawb, yn gallu symud ymlaen o ddifrif, gan roi hwb newydd i’n helusen, a sicrhau dyfodol cynaliadwy a hirdymor yng Nghymru.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
Y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth
Caiff y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth ei chyd-gyllido gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) a Wellcome. Bydd rôl BEIS yn trosglwyddo i UK Research and Innovation yn 2018. Mae’r cynllun yn cynorthwyo canolfannau gwyddoniaeth i ailystyried yr hyn maen nhw’n ei wneud a’r hyn maen nhw’n ei gynnig i’r cyhoedd. Nodau’r gronfa yw adfywio darpariaeth canolfannau gwyddoniaeth sy’n bodoli’n barod drwy ddatblygu cyfalaf, fel mannau arddangos a chanolfannau dysgu newydd, a’r cyfle i ddatblygu ymgysylltiad ystyrlon â chynulleidfaoedd nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu na’u cynrychioli’n ddigonol. Bydd y cyfle hwn i adfywio sut bydd canolfannau gwyddoniaeth yn gweithredu yn arwain at fodelau busnes mwy cynaliadwy, ac yn cyfrannu at ddatblygu sector y canolfannau gwyddoniaeth drwy ddysgu ar y cyd.
Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn dod â’r cyfrifoldebau dros fusnes, strategaeth ddiwydiannol, gwyddoniaeth, arloesi, ynni a newid yn yr hinsawdd ynghyd. Mae’r Adran yn gyfrifol am: ddatblygu a chyflwyno strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr ac arwain perthynas y llywodraeth â busnes; sicrhau bod gan y wlad gyflenwadau ynni diogel sy’n ddibynadwy, yn fforddiadwy ac yn lân; sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod ar flaen y gad o ran gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi; a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd gweinyddu’r Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yn cael ei drosglwyddo’n fuan i UKRI (UK Research and Innovation).
Wellcome
Mae Wellcome yn bodoli i wella iechyd pawb drwy helpu syniadau gwych i ffynnu. Rydym yn sefydliad elusennol byd-eang, ac yn annibynnol o safbwynt gwleidyddol ac ariannol. Rydym yn cefnogi gwyddonwyr ac ymchwilwyr, yn ymgymryd â phroblemau mawr, yn tanio dychymyg, ac yn sbarduno trafodaeth.
UKRI
Bydd UK Research and Innovation (UKRI), y sefydliad cyllido newydd ar gyfer ymchwil ac arloesi yn y Deyrnas Unedig, yn olynu BEIS fel cyd-gyllidwr y Gronfa Ysbrydoli Gwyddoniaeth yn ddiweddarach yn 2018. Mae UKRI yn dwyn ynghyd saith cyngor ymchwil y Deyrnas Unedig, Innovate UK a sefydliad newydd o’r enw Research England, gan gydweithio’n agos â’i sefydliadau partner yn y gweinyddiaethau datganoledig.