Bargen Twf Gogledd Cymru Trawsnewidiol wedi ei arwyddo
Bu cynnydd ym Margen Twf Gogledd Cymru sydd werth miliynau o bunnoedd wrth i Benawdau’r Telerau gael eu harwyddo gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Gogledd Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan ag Arweinwyr Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn a’r Cynghorydd Mark Pritchard sydd wedi ymrwymo i’r cytundeb sy’n gosod allan y camau nesaf yn y fargen gwerth miliynau o bunnoedd.
Mae’r arwyddiad a gynhaliwyd yn Llundain heddiw yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dangos ymrwymiad gan bob un o’r partneriaid i weithio gyda’i gilydd dros bobl a busnesau Gogledd Cymru a chyflawni prosiectau lleol fydd yn cynyddu cyfleoedd a ffyniant mewn cymunedau ar draws y rhanbarth.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo £120 miliwn yr un i’r fargen gyda’r sector breifat a’r partneriaid eraill sy’n rhan o’r buddsoddiad.
Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sef cydweithrediad rhwng y chwe awdurdod lleol a phartneriaid rhanbarthol wedi amcangyfrif fod gan fuddsoddiad y llywodraethau o £240 miliwn botensial i greu 4,000 o swyddi a sicrhau dros £500 miliwn o fuddsoddiad y sector breifat dros y 15 mlynedd nesaf.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio i ddod â mwy o fuddsoddiad, twf a chyfleoedd swyddi i gymunedau ar draws Gogledd Cymru ac mae arwyddo’r fargen heddiw yn cynrychioli cynnydd gwirioneddol i gyflawni’r nodau yma.
Mae Bargen Twf Gogledd Cymru yn gyfle enfawr a chyffrous i weddnewid y rhanbarth a helpu i ail-gydbwyso’r economi. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu’r fargen twf ac i sicrhau ei bod yn cael ei darparu ar gyfer pobl a busnesau Gogledd Cymru.
Meddai’r Gweinidog ar gyfer y Northern Powerhouse a Thwf Lleol, Jake Berry AS:
Bydd y cytundeb yma’n darparu buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gyda photensial i greu swyddi amgylcheddol yn y sectorau niwclear a charbon-isel, heb sôn am gynyddu twristiaeth a busnesau ar draws Gogledd Cymru, y Northern Powerhouse a thu hwnt.
Y cyfleodd sy’n cael eu creu gan y Fargen yma yw’r enghraifft ddiweddaraf o ymrwymiad y llywodraeth i lefelu pob rhan o’r DU a rhoi pŵer i bobl leol i adeiladu cymunedau ffyniannus a llwyddiannus.
Yn ôl Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan:
Mae gan Bargen Twf Gogledd Cymru’r potensial i drawsnewid y rhanbarth. Mae arwyddo’r Penawdau Telerau heddiw yn dangos ein hymrwymiad i’r Bwrdd Uchelgais a’n partneriaid rhanbarthol i weithio gyda’i gilydd dros bobl a busnesau Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Ken Skates, Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
Mae’r arwyddiad heddiw yn gam pwysig ymlaen ar gyfer y fargen drawsnewidiol hon a byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau’r fargen sy’n iawn i ogledd Cymru.
Ein nod ar y cyd yw creu swyddi, hybu’r economi a chyflawni bargen twf a fydd yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar genedlaethau drwy greu Cymru fwy cyfartal, Cymru fwy ffyniannus, a Chymru wyrddach.
Meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, cadeirydd y Bwrdd Uchelgais ac arweinydd Cyngor Gwynedd:
Drwy arwyddo’r Penawdau Telerau, rydym yn dangos ein hymrwymiad a’n hymroddiad i’r rhanbarth.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd dros bobl a busnesau Gogledd Cymru gyda’r nod ar y cyd o greu swyddi, hybu’r economi a darparu Bargen Twf fydd yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar genedlaethau i ddod.
Ychwanegodd:
Y camau nesaf fydd i ddechrau gweithredu’r prosiectau sy’n flaenoriaeth a’r cyllid drosoli gan y sector breifat mewn meysydd allweddol. Bydd y flwyddyn nesa’n allweddol i osod y seilwaith ar gyfer y dyfodol a sicrhau ymrwymiad y sefydliadau a’r busnesau i ddatblygu’r cynlluniau yma’n bellach.
Mae’r gwaith caled yn dechrau nawr, ac ar ran y Bwrdd Uchelgais, hoffwn ddiolch i’r nifer fawr o gyrff yn y sector breifat a’r sector gyhoeddus sydd wedi ein cefnogi ni, yn ogystal â’r rhanddeiliaid, Llywodraethau Cymru a’r DU a’n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol.
Bydd y fargen yn pennu ffordd clir ymlaen ac yn canolbwyntio ar ynni carbon-isel, cysylltedd digidol yn ogystal â thir ac eiddo. Bydd y partneriaid rhanbarthol yn datblygu cynigion penodol a manwl gyda’r nod o sicrhau cytundeb terfynol erbyn diwedd 2020.