Llywodraeth y DU yn Trawsnewid Rhwydwaith Rheilffyrdd De Cymru
Hyd at £58m ar gael ar gyfer uwchraddio Gorsaf Caerdydd Canolog
- Llywodraeth y DU yn cyhoeddi ymrwymiad cyllido o hyd at £58 miliwn ar gyfer uwchraddio prif orsaf drenau’r brifddinas er mwyn sicrhau gwell mynediad a phlatfformau addas ar gyfer trenau hirach
- Ymrwymiad i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer gorsaf parcffordd newydd yn Abertawe, gan leihau amseroedd teithio i orllewin Cymru
- Lleihau’r amseroedd teithio rhwng Caerdydd a Llundain hyd at 14 munud o fis Rhagfyr 2019
Heddiw (22 Gorffennaf 2019), cadarnhaodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, fod hyd at £58m ar gael ar gyfer uwchraddio Gorsaf Caerdydd Canolog.
Ar yr amod bod y cynllun yn sicrhau gwerth am arian, bydd y gwaith uwchraddio hwn yn lleddfu gorlenwi a thagfeydd drwy’r orsaf yn ystod cyfnodau prysur, yn ysgogi adfywiad ac yn galluogi trenau hirach sydd â mwy o seddi i wasanaethu’r brifddinas.
Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth:
Mae teithwyr yng Nghaerdydd yn haeddu gorsaf fodern a hygyrch yng nghanol eu dinas fywiog. Mae gan y cyllid hwn y potensial i gyflawni hynny, gan sicrhau teithiau mwy dibynadwy, cyfforddus a chyflym i mewn ac allan o’r brifddinas.
Mae’n hanfodol bod y ddwy lywodraeth yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd – bydd gwneud hynny’n cryfhau’r Undeb ac rydw i’n edrych ymlaen at glywed y cynigion ar gyfer achos busnes uchelgeisiol a chyraeddadwy.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydyn ni wedi ymrwymo i godi safonau gwasanaethau i deithwyr ar drenau ledled Cymru.
Bydd y cyllid hwn yn galluogi Caerdydd i fod yn atyniad deniadol i dwristiaid a chymudwyr ar adeg allweddol yn adfywiad y ddinas. Rydyn ni wedi ymrwymo hefyd i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer gorsaf Parcffordd Gorllewin Cymru, a fydd yn sicrhau arbedion amser o hyd at chwarter awr o Sir Benfro i Gaerdydd ac yn gwella’r cysylltedd lleol o amgylch Abertawe, er mwyn cynnig mwy o gyfleoedd i Ddinas Ranbarth Bae Abertawe.
Mae’r buddsoddiad hwn yn ychwanegol i’r £5 biliwn mae Llywodraeth y DU yn ei fuddsoddi ar wella teithiau i deithwyr ar Brif Linell y Great Western rhwng De Cymru a Llundain. Bwriad y buddsoddiad hwn yw cyflwyno gwasanaethau cyflymach a mwy dibynadwy, trenau newydd a mwy o seddi.
Mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer gorsaf newydd sef Parcffordd Gorllewin Cymru, ger Abertawe, i hybu cysylltedd a chapasiti ar gyfer teithwyr yn ne a gorllewin Cymru.
Rail media enquiries
Media enquiries 0300 7777878
Switchboard 0300 330 3000