Datganiad i'r wasg

UKRI yn lansio yng Nghymru

Symud arloesi yng Nghymru o ddarganfod i fasnacheiddio

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Innovation

Innovation

Mae defnyddio treftadaeth ymchwil ac arloesi gyfoethog Cymru yn hanfodol i’n llwyddiant masnachu byd-eang yn y dyfodol - dyma fydd yr alwad glir gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn lansiad Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI) yng Nghymru heddiw (dydd Iau 29 Tachwedd).

Bydd prif weithredwr UKRI, yr Athro Syr Mark Walport, yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol yn y digwyddiad yn Techniquest yng Nghaerdydd i gyflwyno’r sefydliad newydd i Gymru, ac i danlinellu ymrwymiad parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi ymchwil ac arloesi blaenllaw yng Nghymru.

Mae defnyddio’r dirwedd ymchwil a datblygu amrywiol ac uchelgeisiol yng Nghymru yn hanfodol i lwyddiant UKRI. O droi adeiladau yn orsafoedd pŵer cynaliadwy a cherbydau sy’n rhedeg ar danwydd plastigion, i feddyginiaeth clefyd Alzheimer o gennin Pedr a chanolfan geneteg a genomeg sy’n taclo iechyd y Deyrnas Unedig, mae ehangder a dyfnder y gwaith arloesol yng Nghymru yn chwarae rhan bwysig o ran tanio llwyddiant y Deyrnas Unedig ar lwyfan y byd.

Cynhelir y digwyddiad lansio yn yr wythnos sy’n arwain at flwyddyn ers cyhoeddi Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI) yn chwarae rhan ganolog yn y strategaeth, gan ddarparu llais unedig a chryfach i ymchwilwyr ac arloeswyr yn y Deyrnas Unedig, gan weithio’n agos gyda phartneriaid yn y byd academaidd, busnesau a’r llywodraeth i gynhyrchu’r syniadau a’r cyfleoedd mwyaf cyffrous, a symud ymlaen o ddarganfod i fasnacheiddio.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar draws Cymru gyfan, mae cyllid ymchwil gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at ganlyniadau anhygoel sy’n ein helpu i ddeall y byd yn well, yn ogystal â chreu’r technolegau a datblygiadau arloesol sy’n arwain at newidiadau mawr yn y maes.

Ond mae angen i bawb ohonom wneud mwy os ydym am gefnogi’r broses o drawsnewid Cymru i fod yn ffynnon arloesi a all ddyfrio economi Prydain gyfan. Dyma lle mae UKRI yn barod i gefnogi. Mae’n rhaid i Gymru fanteisio ar y pwerdy newydd hwn sy’n cefnogi arloesi ym Mhrydain, a chydweithio â’n prifysgolion a Llywodraeth Cymru i ysgogi partneriaethau rhwng y meddyliau gorau ym meysydd ymchwil a busnes, a helpu i roi Cymru a’r Deyrnas Unedig ar flaen y gad yn niwydiannau’r dyfodol.

Ffurfiwyd Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig ar 1 Ebrill 2018 drwy ddod â saith Cyngor Ymchwil, Innovate UK a Research England ynghyd. Dyma’r corff fydd yn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi £7 biliwn mewn cyllid cyhoeddus newydd ar gyfer gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi. Bydd hefyd yn anelu at y nod o sicrhau bydd buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn cynrychioli 2.4% o’r Cynnyrch Domestig Gros erbyn 2027 - mwy nag erioed o’r blaen.

Mae buddsoddiadau UKRI yng Nghymru yn cynnwys:

  • 264 o grantiau ymchwil gweithredol sy’n werth dros £187 miliwn
  • Cyllido 351 o gwmnïau, gyda 261 o grantiau gweithredol sy’n werth £98 miliwn
  • Cefnogi mwy na 860 o ymchwilwyr ledled UKRI

Mae rhai enghreifftiau o’r arloesi cyffrous sy’n digwydd yng Nghymru gyda chymorth UKRI yn cynnwys:

Adeiladau fel gorsafoedd pŵer

Nod y Ganolfan Adeiladu Actif (ABC) newydd ym Mhrifysgol Abertawe yw cael gwared ar rwystrau a chyflymu’r broses o fabwysiadu dulliau dylunio newydd ar gyfer adeiladau sy’n defnyddio ynni’r haul.

Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar lwyddiannau’r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC), sydd hefyd wedi ei lleoli yn Abertawe. Mae hwn yn brosiect arloesol i droi adeiladau yn orsafoedd pŵer, gan ddod â manteision amgylcheddol ac economaidd sylweddol. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi dros £150miliwn mewn ymchwil a datblygu ym Mhrifysgol Abertawe ers 2010.

Darganfod tonnau disgyrchiant yn agor meysydd gwyddoniaeth cwbl newydd

Yn 2016 cyhoeddodd y gydweithfa wyddoniaeth ryngwladol, Laser Interferometer Gravitational Wave Observatory (LIGO), eu bod wedi canfod tonnau disgyrchiant uniongyrchol am y tro cyntaf. Dyma’r elfen fawr olaf heb ei chadarnhau yn theori perthnasedd Einstein. Dyfarnwyd Gwobr Nobel Ffiseg 2017 am y gwaith, gyda’r Deyrnas Unedig (gan gynnwys Prifysgol Caerdydd) yn chwarae rhan allweddol yn y datblygiadau technolegol a chyfrifiadurol a alluogodd y datblygiad.

Dilynwyd hyn ym mis Hydref 2017 gan y cyhoeddiad bod gwrthdrawiad seren niwtron wedi cael ei ganfod. Gwelwyd y dilyniannau hefyd gan delesgopau yn y gofod ac ar y ddaear - y canfyddiad cyntaf o donnau disgyrchiant ac ymbelydredd electromagnetig.

Niwrowyddoniaeth ymddygiadol yn gwella prosesau gwneud penderfyniadau diffoddwyr tân

Datblygwyd rhestr wirio feddyliol gyflym gan niwrowyddonwyr ymddygiadol i sicrhau bod diffoddwyr tân yn gwneud y penderfyniadau gorau wrth weithio.

Roedd yr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn tanategu newidiadau a wnaed i’r canllawiau cenedlaethol a roddwyd i Reolwyr Digwyddiadau yng Ngwasanaethau Tân ac Achub y Deyrnas Unedig. Mae’r broses rheoli penderfyniadau newydd hefyd wedi ymgorffori gweithdrefnau a ddefnyddir pan fydd gwasanaethau brys yn y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd i fynd i’r afael â digwyddiadau cymhleth mawr.

Dechreuodd Dr Sabrina Cohen-Hatton, sy’n Ddirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol gyda Brigâd Dân Llundain erbyn hyn, ei hymchwil wrth weithio i Wasanaeth Tân De Cymru yng Nghaerdydd. Roedd ei hastudiaeth gyda’r Ysgol Seicoleg yn dangos bod rheolwyr yn aml yn dibynnu ar reddf dan bwysau, pa un ai a oedd sefyllfa’n gymhleth ynteu’n arferol.

Cennin Pedr o Gymru’n darparu meddyginiaeth Alzheimer

Datblygwyd meddyginiaeth Alzheimer gynaliadwy o gennin Pedr a dyfir ar y Mynydd Du yng Nghymru. Mae Agroceutical Products, a sefydlwyd gan y dyn busnes Kevin Stephens o Gymru, yn cynhyrchu symiau cynaliadwy o Galanthamin o darddiad naturiol. Math o alcaloid yw hwn (aelod o grŵp mawr o gemegau a wneir gan blanhigion sydd â nitrogen ynddynt) sydd, o’i ynysu, yn gallu trin dementia fasgwlar a chlefyd Alzheimer yn effeithiol yn ôl tystiolaeth arbrofion. Mae’n gweithio drwy atal ensym sy’n arwain at y nam gwybyddol a geir yng nghyrff cleifion Alzheimer.

Fodd bynnag, mae’n anodd creu galanthamin naturiol oherwydd yr anawsterau wrth drin blodau sy’n cynhyrchu digon o’r alcaloid. Mae hyn wedi arwain at gyflenwad byd-eang sydd bron yn gyfan gwbl synthetig - ac mae’r cyflenwad hwnnw yn arwain at sgil effeithiau cysylltiedig. Gallai’r ateb fod ym meddiant Agroceutical Products, sy’n prosesu galanthamin o gennin Pedr a dyfir ar fferm teulu Kevin yn Y Clas-ar-Wy ym Mhowys.

Ymestyn bywyd batri car trydan 50%

Mae cwmni Deregallera o Gaerffili yn datblygu system storio ynni hybrid newydd i ymestyn bywyd batris cerbydau trydan 50%. Cyllidir y prosiect drwy’r her batri Faraday, sy’n rhan o Gronfa’r Her Strategaeth Ddiwydiannol.

Gwaith colagen slefrod môr cynaliadwy

Mae Jellagen, busnes biodechnolegau morol o Gymru, ar fin cynyddu gwerthiant ei gynhyrchion cenhedlaeth nesaf colagen slefrod môr ar ôl denu £3.8 miliwn gan fuddsoddwyr. Y cwmni hwn yw’r gwneuthurwr masnachol cyntaf o golagen slefrod môr ar gyfer meithrin celloedd a chymwysiadau meddygol, gan gynnwys gofal clwyfau a meddygaeth adfywiol. Wedi ei sefydlu yn 2017 gyda chymorth Innovate UK, sy’n rhan o UKRI, mae’r cyfleuster 7,500 troedfedd sgwâr yn gwasanaethu’r marchnadoedd ymchwil, meddygol, biotechnolegol a fferyllol.

Colagen yw’r protein mwyaf cyffredin yn y corff dynol ac mae’n darparu cymorth strwythurol ar gyfer celloedd ym meinweoedd ac organau’r corff. Mae wedi cael ei ddefnyddio mewn dyfeisiau meddygol a chymwysiadau ymchwil ers blynyddoedd lawer. Fel arfer mae’n dod o wartheg, moch, llygod a cheffylau.

Clystyrau Creadigol

Bydd cydweithrediad rhwng y llywodraeth, prifysgolion, holl ddarlledwyr blaenllaw Cymru a mwy na 60 o fusnesau’r diwydiant sgrin yn rhoi cyfle i ymchwilwyr weithio ar ffyrdd o helpu’r diwydiant ffilm a theledu, sydd eisoes yn ffynnu yn Ne Cymru, i gyrraedd ei botensial llawn.

Mae’r Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn fuddsoddiad gwerth £80 miliwn mewn cydweithredu rhwng diwydiannau a phrifysgolion creadigol ledled y Deyrnas Unedig sy’n enwog yn fyd-eang.

Niwrowyddoniaeth blaenllaw’r byd

Mae gwyddonwyr wedi darganfod 50 o ranbarthau genynnau newydd sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu sgitsoffrenia. Maen nhw hefyd wedi defnyddio gwybodaeth o’r radd flaenaf am ddatblygiad yr ymennydd i ddynodi’n fanwl gywir y genynnau newydd a llwybrau biolegol sy’n gysylltiedig â’r anhwylder hwn.

Yn yr astudiaeth fwyaf o’i fath, bu ymchwilwyr yng Nghanolfan Cyngor Ymchwil Meddygol UKRI ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatreg ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i ddata genetig mewn 100,000 o unigolion, gan gynnwys 40,000 o bobl â diagnosis o sgitsoffrenia. Canfuwyd fod rhai o’r genynnau a nodwyd fel risg gynyddol o ddatblygu sgitsoffrenia wedi bod yn gysylltiedig yn flaenorol ag anhwylderau niwro-ddatblygiadol eraill, gan gynnwys anhwylderau anabledd deallusol ac awtistiaeth.

Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni

Bydd y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yn Abertawe yn defnyddio cryfderau presennol y brifysgol yn y sector ynni i ganolbwyntio’n benodol ar Ymchwil Diogelwch. Gyda chymorth Research England, sy’n rhan o UKRI, bydd y sefydliad yn cael ei ddatblygu ar y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi sy’n agored i’r diwydiant, ac sy’n cael ei noddi gan y Coleg Peirianneg. Bydd natur ei ymchwil yn defnyddio cryfderau hirdymor mewn prosesu petrolewm a chemegau, yn enwedig gwyddoniaeth gyfrifiadurol (modelu torri creigiau a ‘ffracio’) a chyrydu.

Bydd y ganolfan yn cyfuno hyn â galluoedd mwy diweddar, gan gynnwys: ynni morol, ynni niwclear, ynni’r llanw, triniaeth dŵr datblygedig (ôl-driniaeth a gwahanu yn sgil ‘ffracio’), deunyddiau, rheoli argyfyngau, a meysydd mwy newydd fel elfennau Ffotofoltaidd (PV) a Nanotechnoleg.

Bydd y prosiect yn cynnwys dylunio ac adeiladu adeilad newydd yn mesur 3500m2. Bydd hwn yn cael ei gynllunio i ddatblygu ansawdd a graddfa ymdrechion ymchwil y brifysgol yn y maes hwn. Bydd y sylw i ddiogelwch yn edrych ar ddatblygu ac ehangu prosesau ynni sy’n bodoli’n barod, a defnyddio ac integreiddio technolegau ynni ‘gwyrdd’ newydd yn ddiogel. Mae’r cyfuniad o ymchwil i ynni a chanolbwyntio ar ddiogelwch yn adlewyrchu cryfderau ymchwil y brifysgol, a safle arwyddocaol Cymru ym marchnad ynni’r Deyrnas Unedig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 November 2018