“Mae Cymru ar agor i fusnes”
Gweinidogion Swyddfa Cymru yn cefnogi Wythnos Twristiaeth Cymru
![](https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a6124d1ed915d7dfb582e22/s300_Chirk_Castle.jpg)
Chirk Castle
O’i llwybrau beicio mynydd cyffrous i’w phensaernïaeth hanesyddol fawreddog a’i hamgueddfeydd sy’n llawn chwedlau hanesyddol, bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru yn tynnu sylw at y ffaith fod Cymru ar agor i fusnes, wrth iddynt ddathlu dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru (22 Chwefror – 3 Mawrth).
Mae Wythnos Twristiaeth Cymru 2014 yn wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu ac arddangos bwrlwm a safon profiadau ymwelwyr a gwerth y diwydiant twristiaeth i economi Cymru.
Daw’r ymweliadau hyn yn ystod blwyddyn pan fydd llygaid y byd ar Gymru, wrth i Westy’r Celtic Manor baratoi i groesawu arweinwyr y byd i Uwch Gynhadledd NATO 2014. Bydd Abertawe a Sir Gaerfyrddin hefyd yn talu teyrnged i’w mab enwocaf drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu canmlwyddiant Dylan Thomas.
Bydd Gweinidogion Swyddfa Cymru i gyd yn dathlu Wythnos Twristiaeth Cymru eleni drwy ymweld â chyrchfannau i dwristiaid hyd a lled y wlad, gan dynnu sylw at y ffaith bod Cymru ar agor i fusnes, er gwaethaf y tywydd yn ddiweddar.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae cynyddu twristiaeth yn y Deyrnas Unedig yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon, ac mae sicrhau cyfran fwy o wariant y twristiaid rhyngwladol rydyn ni’n eu denu yn her allweddol i Gymru.
Mae’r sector twristiaeth yn gwneud cyfraniad allweddol at les cymdeithasol ac economaidd Cymru, ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu ymwelwyr o gartref a thramor i brofi ein diwylliant a’n hanes cyfoethog.
Y llynedd, amcangyfrifir bod economi twristiaeth yng Nghymru wedi cyfrannu £6.9 biliwn i GDP y DU, gan gynnal dros 200,000 o swyddi yng Nghymru. Yn ystod tri chwarter cyntaf 2013, daeth 702,000 o ymwelwyr o dramor i Gymru, gan wario £289miliwn.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn mynd i Gastell y Waun, Wrecsam gyda Llysgennad Indonesia, Ei Ardderchogrwydd Mr. Teuku Mohammad Hamzah Thayeb, yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru, gyda’r nod o hyrwyddo rhai o brif atyniadau twristiaeth Cymru i ymwelwyr o dramor.
Byddant yn cael eu croesawu gan Reolwr yr Eiddo, Shane Logan a Rheolwr y Tŷ a’r Casgliadau, a fydd yn eu tywys ar daith o amgylch gerddi ac ystafelloedd swyddogol eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol ar daith fasnach ym Malaysia ar hyn o bryd, yn cwrdd ag arweinwyr busnes allweddol i ddatblygu’r cysylltiadau busnes sy’n bodoli yn ogystal â rhai newydd, ac edrych ar ragor o gyfleoedd i gwmnïau a sefydliadau o’r DU weithio yn y ddau ranbarth.
Ychwanegodd:
Mae Swyddfa Cymru’n gweithio’n galed gartref a thramor i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth a buddsoddi.
Yn dilyn llwyddiant y Gemau Olympaidd yn 2012, fe wnaethom lansio’r ymgyrch GREAT yn 2013, i farchnata Prydain ar ei gorau, o ran twristiaeth, masnach, creadigrwydd a buddsoddi, i weddill y byd. Mae gan Gymru gymaint i ddenu ymwelwyr, a rhaid i ni wneud yn siŵr bod ymwelwyr o dramor yn ein hystyried ni pan fyddan nhw’n bwriadu dod i’r Deyrnas Unedig.
Bydd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru sy’n gyfrifol am dwristiaeth, y Farwnes Jenny Randerson, yn ymweld â dau o brif gyrchfannau twristiaeth ardal Casnewydd – gan dynnu sylw at yr atyniadau i dwristiaid y bydd cynrychiolwyr yn gallu eu gweld yn ystod Uwch Gynhadledd NATO yn ddiweddarach eleni.
Bydd yn mynd i Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yng Nghaerllion cyn cael ei thywys ar daith o amgylch eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n dyddio i’r ail ganrif ar bymtheg, Tŷ Tredegar, gan Justin Albert, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn ein hatgoffa ni am y cyfleoedd sydd ar gael ar garreg ein drws yn ogystal ag annog mwy o ymwelwyr i ddod i Gymru.
Un o’r heriau pwysig i Gymru yw sicrhau bod mwy o’r arian sy’n cael ei wario gan dwristiaid o dramor yn y DU yn dod i Gymru, ac mae’n hollbwysig bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gyflawni hyn.
Bydd NATO ei hun yn cynnig cyfleoedd gwych i hyrwyddo Cymru i’r byd. Rhaid i ni sicrhau bod pawb sy’n dod yma’n mynd yn ôl adref gyda neges glir ynghylch popeth sydd gan Gymru, ei phobl a’i thirwedd nodedig i’w gynnig i weddill y byd. Rwy’n falch iawn o gael cyfle i gael cipolwg o’r hyn y bydd y cynrychiolwyr yn gallu eu gweld pan fyddan nhw’n dod i Gymru ym mis Medi.
Bydd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, yn mynd allan i’r awyr agored fel rhan o’i ymweliadau yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru.
Bydd Mr Crabb yn mynd ar ei feic i fwynhau rhai o’r 23 darn o lwybrau beicio mynydd yn BikePark Wales, Merthyr Tudful.
Agorodd BikePark Wales ym mis Awst 2013, a dyma’r ganolfan llwybrau mynydd bwrpasol, fasnachol, ar raddfa fawr, gyntaf yn y DU, ac mae eisoes yn dod yn atyniad pwysig i dwristiaid. Daeth dros 20,000 o ymwelwyr yno yn ystod y pum mis cyntaf ar ôl agor.
Yna bydd y Gweinidog yn mynd ar daith o amgylch Distyllfa Penderyn, enillydd Gwobr Twristiaeth Rhanbarthol yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2013. Mae Distyllfa Penderyn y Cwmni Wisgi Cymreig, wedi sefydlu ei hun fel gwir atyniad i dwristiaid yng Nghymru, yn ogystal ag fel un o allforion busnes mwyaf llwyddiannus y wlad.
Bydd Mr Crabb yn mynd ar daith o amgylch y ddistyllfa ac yn cwrdd â’r rheolwr gyfarwyddwr, Stephen Davies.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb AS:
Mae Wythnos Twristiaeth Cymru’n rhoi cyfle i ni godi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o atyniadau sydd gan drigolion Cymru ar stepen eu drws.
Pa un a ydyn ni’n teithio ar ddwy olwyn neu ar ddwy droed, mae gennyn ni gyfleusterau o’r radd flaenaf mewn amrywiaeth eang o weithgareddau twristiaeth awyr agored, sy’n dangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig i ymwelwyr yn ei hamgylchedd naturiol.
Gyda digon i’w wneud a’i weld o dan do ac yn yr awyr agored, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i Gymru drwy gydol y flwyddyn.
Nodiadau i Olygyddion
-
Cynhelir Wythnos Twristiaeth Cymru rhwng 22 Chwefror a 02 Mawrth 2014
-
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru, llais y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn cydlynu Wythnos Twristiaeth Cymru, mewn cydweithrediad â’r diwydiant. Cynhelir Wythnos Twristiaeth Cymru bob blwyddyn i godi proffil y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a thynnu sylw at ba mor werthfawr ydyw o ran cynhyrchu incwm a’r cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno ar gyfer swyddi a gyrfaoedd.
-
Yn 2012, lansiodd VisitBritain ei raglen fwyaf uchelgeisiol ers deg mlynedd ar gyfer marchnata twristiaeth: “GREAT Britain You’re invited”. Nod yr ymgyrch yw dangos i’r byd bod Prydain ar agor i fusnes; ei fod yn lle gwych i ymweld ag o, i fyw ynddo ac i fuddsoddi ynddo.